Ewch i’r prif gynnwys

Enillwyr y gorffennol

Enillwyr 2019 gwobrau McGuagan

Yn Symposiwm Chris McGuigan 2019, cyflwynwyd tair gwobr i ymchwilwyr sydd wedi rhagori ym maes darganfod cyffuriau.

Enillwyr y gwobrau gyda Dr Henson a’i wraig, Lucy
Enillwyr y gwobrau gyda Dr Henson a’i wraig, Lucy

Gwobr Traethawd Ymchwil PhD Eithriadol McGuigan

Cydnabod y traethawd ymchwil gorau mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â darparu cyffuriau gan ymchwilydd â gradd ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd.

Enillwyd y wobr gan Dr Gilda Giancotti am ei gwaith ar atalyddion c-FLIP. Llwyddodd Di Giancotti i gwblhau ei PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2018 o dan oruchwyliaeth yr Athro Andrea Brancale, gan weithio ar ddatblygu cyfryngau gwrth-ganser newydd ar gyfer trin canser y fron.

Ar y pryd, roedd hi’n gweithio fel cemegydd meddyginiaethol ar gyfer y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu cyffuriau newydd i drin cyflyrau iechyd meddwl.

Meddai Dr Giancotti, “Braint o’r mwyaf yw derbyn Gwobr Traethawd PhD Eithriadol McGuigan. Mae’r wobr hon yn cynrychioli un o gyflawniadau mwyaf fy ngyrfa gynnar, ac mae’n ysgogiad pellach i fwrw ymlaen â fy ngwaith yn y maes ymchwil.”

Gilda Giancotti gyda Dr Geoff Henson
Gilda Giancotti gyda Dr Geoff Henson

Gwobr Seren Newydd McGuigan

Rhoddir y wobr hon i gydnabod ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sydd wedi cael effaith sylweddol, gwreiddiol a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Dyfarnwyd y wobr i Dr Joana Rocha-Pereira o KU Leuven am ei gwaith ar greu systemau model newydd ar gyfer darganfod meddyginiaethau sy'n targedu norofeirws.

Dywedodd Dr Rocha-Pereira am ei buddugoliaeth, “Darganfod cyffuriau oedd beth oeddwn i eisiau ei wneud, dyma pam y dewisais i astudio fferylliaeth, ac mae bod yma yn y Symposiwm er cof am ddyn sydd wedi rhoi cymaint i ddarganfod cyffuriau yn arbennig iawn.”

Joanna Rocha-Pereira
Joanna Rocha-Pereira

Gwobr McGuigan am Waith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau

Cydnabod uwch ymchwilydd sydd ag enw da yn rhyngwladol ac sydd â hanes profedig o arwain wrth sbarduno neu ddatblygu egwyddorion gwyddonol newydd, neu drosi darganfod cyffuriau tuag at ddatblygu meddyginiaethau dynol.

Rhoddwyd y wobr i'r Athro Ralf Bartenschlager o Brifysgol Heidelberg, am ei waith ar ddod o hyd i iachâd ar gyfer hepatitis C.

Mae gwaith yr Athro Bartenschlager dros y 30 mlynedd diwethaf wedi cynnwys dulliau delweddu arloesol a systemau diwylliant celloedd gyda'r nod o gael cipolwg manwl ar y rhyngweithio cymhleth rhwng y gwesteiwr a'i bathogenau. Mae'r astudiaethau biolegol celloedd manwl hyn wedi arwain at ddatblygu cyffuriau a all wella hepatitis C mewn 94-99% o gleifion yn dilyn cwrs 12 wythnos, gyda'r sgil-effeithiau lleiaf posibl.

Dywedodd yr Athro Bartenschlager, “Mae’r wobr yn anrhydedd mawr ac yn cydnabod y gwaith a wnaeth fy nhîm a minnau, ac rwy’n hynod ddiolchgar. Rwy'n ystyried gwaith Chris McGuigan a minnau’n enghraifft wych o sut mae ymchwil sylfaenol mewn cemeg feddyginiaethol a firoleg wedi cyfrannu at therapi gwrthfeirysol. Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf bod yn rhan o’r datblygiadau hyn a osododd y sylfaen ar gyfer therapi iachaol mewn perthynas â hepatitis C cronig.”

Professor Bartenschlager a Dr Henson
Professor Bartenschlager a Dr Henson