Ewch i’r prif gynnwys

Y broses enwebu a dethol ar gyfer Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau

People in a meeting

Gwybodaeth am y broses enwebu a dethol ar gyfer Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau.

Y broses enwebu

Dylai academydd o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd Prifysgol Caerdydd gyflwyno enwebiadau i'r Panel Dethol.

Mae'n rhaid i bob enwebiad ddod gyda datganiad cefnogol sydd ar gael ar gais trwy e-bost at mcguiganaward@cardiff.ac.uk.

Dyddiadau cau

Y dyddiadau cau ar gyfer enwebiadau yw 17:00 ar:

  • ddydd Gwener 30 Hydref 2020
  • dydd Llun 31 Hydref 2022
  • dydd Iau 31 Hydref 2024
  • dydd Gwener 30 Hydref 2026

Bydd enwebiadau a dderbynnir cyn pob dyddiad cau yn cael eu hystyried gan y Panel Dethol a bydd enillwyr gwobrau llwyddiannus yn cael eu hysbysu ar ôl i'r cofnodion gael eu cymeradwyo gan y Cadeirydd.

Bydd y Panel Dethol yn dewis enillwyr gwobrau erbyn diwrnod gwaith olaf mis Tachwedd yn 2020, 2022, 2024 a 2026.

Y broses ddethol

Bydd enwebiadau'n cael eu hadolygu a bydd argymhelliad enillwyr y gwobrau yn cael ei benderfynu gan Banel Dethol sy'n cynnwys:

Bydd cynrychiolydd y diwydiant a'r academydd cyfetholedig yn cael ei wahodd gan y Cadeirydd i ymuno â'r Panel Dewis am flwyddyn a chaiff ei ddewis gan aelodau panel Prifysgol Caerdydd uchod. Gellir gwahodd unigolion i ymuno â'r Panel Dewis fwy nag unwaith.

Amodau'r dyfarniad

Rhaid i enillwyr newydd gytuno i fynychu Symposiwm Chris McGuigan a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddyddiad i'w gytuno ym mis Medi 2021, 2023, 2025 a 2027.

Rhaid i enillwyr Gwobr McGuigan am Waith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau gytuno i roi darlith am eu gwaith neu eu hymchwil ar noson y Symposiwm.

Rhaid i bob enillydd gytuno i fynychu cinio preifat yn dilyn darlith gyda'r nos y Symposiwm. Gwahoddir dau gynrychiolydd o deulu'r diweddar Athro McGuigan hefyd i fynychu'r cinio.

Rhaid derbyn cadarnhad presenoldeb holl enillwyr y gwobrau erbyn 17:00 fan bellaf ar ddiwrnod gwaith olaf mis Mawrth yn 2021, 2023, 2025 a 2027.

Os na all unrhyw enillwyr gyflawni'r amodau, bydd y Panel Dethol yn cynnig y wobr i'r enwebai oedd yn ail ddewis.

Teithio a llety

Dyrannwyd cyllideb teithio a llety i alluogi enillwyr gwobrau Seren Newydd a Gwaith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau i deithio i Gaerdydd ar gyfer Symposiwm Chris McGuigan.

Gwahoddir enillwyr y gwobrau Seren Newydd a Gwaith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau i gyflwyno ffurflen hawlio treuliau a derbynebau gwreiddiol i'w had-dalu hyd at werth y gyllideb deithio a ddyrannwyd i'r dyfarniad hwnnw ym mhob blwyddyn. Os na all enillydd  dalu costau teithio ymlaen llaw, dylent gysylltu â'r Cadeirydd i ofyn i Brifysgol Caerdydd archebu teithio a llety ar eu rhan.

Cysylltwch

I gael mwy o wybodaeth am Wobrau Chris McGuigan, y broses enwebu neu delerau ac amodau, cysylltwch â ni.

Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau