Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm Chris McGuigan

Mae Symposiwm Chris McGuigan yn gyfle i gofio’r Athro McGuigan a dathlu gwaith arloesol ledled y byd ym maes darganfod cyffuriau.

Cynhelir y symposiwm dwyflynyddol gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym mis Medi 2021, 2023, 2025 a 2027.

Cyhoeddir tri enillydd Gwobrau Chris McGuigan yn y symposiwm gyda'r gwobrau’n cael eu dyfarnu gan ein noddwr hael, Dr Geoff Henson.

Gwahoddir enillwyr Gwobrau Chris McGuigan i roi darlith am eu hymchwil a'u gwaith yn y symposiwm.

Rhagor am enillwyr y gwobrau cyntaf yn Symposiwm Chris McGuigan 2019.

Yr enillwyr gyda Dr Geoff Henson a'i wraig, Lucy.
Yr enillwyr gyda Dr Geoff Henson a'i wraig, Lucy.

Roedd yn ddiwrnod gwych, gyda sgyrsiau gwyddonol rhagorol a sgyrsiau ysgogol yn ddeallusol. Rwy'n credu ei fod yn ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig, yn enwedig i'r ymchwilwyr ifanc sydd wedi mynychu. Rwy'n credu ei fod yn ffordd addas iawn i anrhydeddu a chofio Chris a'r person anhygoel ydoedd.
Yr Athro Andrea Brancale, Athro Cemeg Meddyginiaethol a Chyfarwyddwr Gwyddonol Rhwydwaith Ymchwil Gwyddor Bywyd Cymru

Cysylltu

Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu Symposiwm Chris McGuigan 2023 trwy ebost.

Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae'n ofynnol i'r Brifysgol nodi sut mae data personol yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio. Defnyddir rhybudd diogelu data neu breifatrwydd i adael i bobl wybod sut rydym yn cydymffurfio â diogelu data a'r hyn y gallant ddisgwyl digwydd i unrhyw ddata y maent yn ei gyflenwi. Mae'r rhybudd hwn yn nodi sut mae'r Brifysgol yn delio â gwybodaeth bersonol pobl.