Ewch i’r prif gynnwys

Enillwyr Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau

Yn Symposiwm Chris McGuigan 2023, cyflwynwyd tair gwobr i ymchwilwyr sydd wedi rhagori ym maes darganfod cyffuriau. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 21 Medi 2023

The prize winners
yr enillwyr

Gwobr Traethawd PhD Eithriadol McGuigan

Cydnabod y traethawd ymchwil gorau mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â darparu cyffuriau gan ymchwilydd â gradd ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd.

Enillydd 2021 ar gyfer y wobr hynod gystadleuol hon oedd Dr Nicholas Bullock.

Ar ôl cwblhau hyfforddiant meddygol israddedig yng Nghaerdydd a BSc Ymsang yng Ngholeg Imperial Llundain, symudodd Dr Nicholas Bullock i Fryste i ymgymryd â Hyfforddiant Sylfaen. Roedd y rhaglen ddwy flynedd yn ymgorffori prosiect ymchwil dros bedwar mis yn archwilio sbleisio RNA yng nghanser y brostad, a ysgogodd awydd i ymchwilio'n ddyfnach i fioleg y clefyd cymhleth a heterogenaidd hwn.

Yna symudodd Nicholas yn ôl i Gymru i ymgymryd â hyfforddiant llawfeddygol sylfaenol, ac wedi hynny dyfarnwyd Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) iddo, oedd yn cynnwys hyfforddiant llawfeddygol uwch mewn wroleg ac amser ymchwil penodol.

Yn 2018 cychwynnodd Nicholas ar brosiect PhD tair blynedd, a ariannwyd gan y Sefydliad Wroleg, yn archwilio atgyweirio difrod DNA mewn canser datblygedig y brostad. Er bod pandemig COVID-19 wedi tarfu’n sylweddol ar y rhaglen ymchwil ac wedi ei ysgogi i ddychwelyd dros dro i ymarfer clinigol amser llawn, llwyddodd Nicholas i ganfod cyfuniad cyffuriau addawol gydag effeithiolrwydd sylweddol mewn modelau rhag-glinigol o ganser datblygedig y brostad. Ar ôl cwblhau'r prosiect dychwelodd i hyfforddiant wrolegol ac mae wedi parhau i wneud ymchwil ochr yn ochr â gwaith clinigol, gan ddatblygu sgiliau mewn ystod o ddulliau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys gwerthuso diagnosteg newydd a chynnal treialon clinigol. Bydd yn cwblhau ei Gymrodoriaeth WCAT yn ystod haf 2025, ac ar ôl hynny mae’n gobeithio cael swydd Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol gyda phortffolio ymchwil gweithredol yn archwilio diagnosis a thriniaeth canser y brostad.

Mr Nicholas Bullock
Mr Nicholas Bullock

Gwobr McGuigan i Seren Newydd

Rhoddir y wobr hon i gydnabod ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sydd wedi cael effaith sylweddol, gwreiddiol a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Dr Gilda Padalino o Brifysgol Abertawe enillodd y wobr fawreddog hon.

Hyfforddodd Gilda Padalino fel cemegydd meddyginiaethol ym Mhrifysgol Salerno (yr Eidal) lle enillodd ei gradd (BSc ac MSc mewn Cemeg Feddyginiaethol a Thechnoleg Fferyllol, rhan o'r Radd Fferylliaeth) gyda phrosiect blwyddyn olaf ar ddatblygu atalyddion epigenetig ar gyfer triniaeth canser y brostad.

Daeth ei diddordeb ym maes difyr darganfod cyffuriau ac epigeneteg â hi i’r Deyrnas Unedig yn 2015 lle cofrestrodd ar brosiect PhD darganfod cyffuriau gyda ffocws arbennig ar barasitoleg. Roedd y prosiect yn gydweithrediad rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, a ariannwyd gan Rwydwaith Ymchwil Gwyddor Bywyd Cymru. Roedd y prosiect rhyngddisgyblaethol yn archwilio llwybr epigenetig methylu protein o fewn llyngyr y gwaed Schistosoma mansoni. Ymchwiliwyd i oblygiadau biolegol y targedau epigenetig hyn a'r potensial ar gyfer nodi triniaeth cyffuriau newydd ar gyfer y clefyd trofannol a esgeuluswyd, Schistosomiasis. Cwblhaodd ei hastudiaethau PhD ym mis Hydref 2019 gyda thesis o’r enw “Identification of new compounds targeting the Schistosoma mansoni protein methylation machinery”.

Ar ôl cael phenodi’n Gydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, parhaodd i ddarganfod cyffuriau gan weithio ar foleciwlau bach yn dangos gweithgareddau addawol yn erbyn rhywogaethau parasitig eraill (e.e., Fasciola hepatica, Toxoplasma gondii , Ectoparasitiaid ac endoparasitiaid a cestodau), yn erbyn protosoa (e.e. Plasmodium falciparum) ac yn erbyn rhywogaethau bacteriol (e.e. Staphylococcus aureus ac Enterococcus faecalis).

Ers mis Chwefror 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (Prifysgol Caerdydd) ar brosiect sy’n deillio o’i hymchwil PhD ac a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome fel rhan o grant ehangach. Mae'n canolbwyntio ar gynllunio, syntheseiddio ac optimeiddio endidau cemegol newydd gyda gweithgareddau fferyllol fel cyfryngau gwrth-schistosomaidd.

Biolegydd cemegol yw Gilda ac mae'n mwynhau gweithio mewn amgylcheddau rhyngddisgyblaethol, gan bontio'r bwlch rhwng seiliau biolegol pwnc ymchwil penodol a'r ymchwiliad cemegol ar gyfer cymwysiadau darganfod cyffuriau.

Gilda Padalino
Dr Gilda Padalino a Phennaeth yr Ysgol, yr Athro Mark Gumbleton

Gwobr McGuigan am Waith Nodedig ym maes Darganfod Cyffuriau

Cydnabod uwch ymchwilydd sydd ag enw da yn rhyngwladol ac sydd â hanes profedig o arwain wrth sbarduno neu ddatblygu egwyddorion gwyddonol newydd, neu drosi darganfod cyffuriau tuag at ddatblygu meddyginiaethau dynol.

Rhoddwyd y wobr i'r Athro David Thurston o King's College Llundain am ei yrfa eithriadol.

Mae David Thurston yn Athro Emeritws Darganfod Cyffuriau yn y Sefydliad Gwyddor Fferyllol yng Ngholeg y Brenin Llundain.  Mae ganddo radd gyntaf mewn fferylliaeth a PhD mewn cemeg feddyginiaethol synthetig.

Mae David yn un o gyd-sylfaenwyr gwyddonol Spirogen Ltd (a gaffaelwyd gan AstraZeneca yn 2011), a bu’n gweithredu fel CSO i'r cwmni ers ei ffurfio yn 2000.  Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd Transcriptogen Ltd, oedd yn canolbwyntio ar ddarganfod a datblygu atalyddion ffactor trawsgrifio moleciwlaidd bach fel cyfryngau oncoleg, a Femtogenix Ltd a fu’n ymwneud â darganfod prif lwythi Cyfuniad Gwrthgorff-Cyffuriau (ADC) DNA-rhyngweithiol newydd (a ddaeth i fod yn Pheon Therapeutics yn 2022).

Mae David wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion cemeg feddyginiaethol / cemeg, ef yw awdur y gwerslyfr “Chemistry and Pharmacology of Anticancer Drugs” ac mae’n Brif Olygydd cyfres lyfrau Darganfod Cyffuriau y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Prof. Thurston
Yr Athro David Thurston gyda Mark Gumbleton

Mae Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau a Symposiwm Chris McGuigan yn bosibl trwy rodd hael gan Dr Geoff Henson.