Ewch i’r prif gynnwys

Jed Rual

Mae Jed Rual (ef/fo) yn rhan o Dîm Masnacheiddio Ymchwil Prifysgol Caerdydd, sy'n gyfrifol am gefnogi ymchwilwyr i wneud y mwyaf o effaith eu hallbynnau trwy fynd â thechnolegau, cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau a phrofiadau newydd sy'n deillio o ymchwil i'r farchnad yn arloesol.

Mae ganddo arbenigedd mewn adnabod, diogelu ac ymelwa ar hawliau eiddo deallusol a hanes o gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol ac ymchwil drosi.

Yn raddedig mewn Eifftoleg (BA 2015, MA 2016), mae Jed yn angerddol am ddealltwriaeth o hanes, diwylliant a chymdeithas.