Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau a chyllid

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil seiberddiogelwch allanol yn barhaus am bron i ddegawd.

Gwnaethom sicrhau mwy na £3.8 miliwn rhwng 2012 a 2016 a £4 miliwn yn ychwanegol rhwng 2017 a 2021 i gefnogi’r ganolfan ymchwil.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu gan y diwydiant, y llywodraeth a chyrff UKRI, fel Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Cyllid gan y Cyngor Ymchwil

Fframwaith ar gyfer canllawiau seiberddiogelwch sy’n seiliedig ar risg ac sydd wedi’u cyfoethogi gan fetrigau i sicrhau cydnerthedd seilwaith hanfodol y genedl, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Seiberseicoleg Airbus a Ffactorau Dynol. Airbus ac Airbus Endeavr, y DU

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Morgan
  • 2019-2022
  • £550,000 ers 1 Mawrth 2019

Deallusrwydd artiffisial eglurhaol Airbus (XAI). Airbus

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Morgan, Jones, Macken, van der Schalk a Johansen ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2019-2020
  • £45,000

Canfyddiad am ddiogelwch wrth ryngweithio â pheiriant. SOS Alarm, Sweden

Systemau Diwydiannol Newydd: Ffatrïoedd Sgwrsio

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Burnap
  • 2017-2020
  • £1.8m – Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Cylch Oes Seiberddiogelwch SCADA 2 (SCADA-CSL 2)

Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol: Dulliau a Datblygu Seilwaith ar gyfer Dadansoddi Data Agored mewn Ymchwil Gymdeithasol

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Burnap gyda Williams a Rana ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2017-2020
  • £450k – Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Canolfan Ymchwil PETRAS Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Seiberddiogelwch y Rhyngrwyd Pethau – Nodi fectorau ymosod ar gyfer ymyrryd â rhwydwaith drwy ddyfeisiau’r rhyngrwyd pethau a datblygu dull sy’n canolbwyntio ar y nod i nodi effaith ar draws arwynebau ymosod (yn dibynnu ar y rhyngrwyd pethau)

Cerbydau Awtonomaidd Cysylltiedig sy’n Ffynnu: Grymuso trwy symudedd diogel, dibynadwy. IUK

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Morgan gyda Phrifysgol Bryste, UWE Bristol, BRL, Atkins, Airbus, AXA, Dynniq, Aiseedo, Designability, Traverse, TSC, Cyngor De Caerloyw a Dinas Bryste, Age UK
  • 2016-2019
  • Cyfanswm grant £5.55m

Canfod a Rhwystro Twyll Marchnata ar Raddfa Fawr

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Levi
  • 2016-2019
  • £845k – Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Troseddau economaidd sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch a goblygiadau i ddulliau plismona

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Levi gyda Williams ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2016
  • £25k – Corfforaeth Dinas Llundain

Ofn seiberdroseddu a’i ganlyniadau i seiberddiogelwch

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Williams gyda Levi ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2015-2016
  • £25k – Y Swyddfa Gartref

Cylch Oes Seiberddiogelwch SCADA (SCADA-CSL)

Nodi a modelu ymddygiad dioddefwyr, ymddygiad busnesau, ymddygiad rheoliadol ac ymddygiad maleiswedd yng nghyd-destun seiberfygythiadau sy’n newid

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Rana gyda Burnap, Williams a Levi ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2013-2016
  • £1.1m – Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Astudiaeth Mapio Partneriaethau Lleihau Seiberdroseddu

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Williams gyda Levi ym Mhrifysgol Caerdydd
  • 2012-2013
  • £74k – Ymddiriedolaeth Nominet

Diogelu Preifatrwydd wrth Rannu a Dadansoddi Data ar sail Digwyddiad

  • Prif Ymchwilydd Sefydliadol Shao
  • 2011-2016
  • £515k – Cymrodoriaeth yr Academi Beirianneg Frenhinol