Ewch i’r prif gynnwys

Sian Morgan Lloyd yn ennill gwobr ‘Seren ar ei Chyfodiad’

14 Tachwedd 2017

Sian Morgan Lloyd - on the right
Sian Morgan Lloyd received her award from Chief Operating Officer Jayne Sadgrove

Mae’r darlithydd newyddiaduraeth Sian Morgan Lloyd wedi ennill y wobr ‘Seren ar ei Chyfodiad’ yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Cydnabu’r wobr waith Sian yn datblygu darpariaeth Gymraeg yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn y ddwy flynedd ers iddi ymuno â’r Brifysgol.

O dan ei harweinyddiaeth, mae pum modiwl Cymraeg wedi eu cyflwyno ar wastad israddedig, ac mae Sian hefyd wedi cyd-weithio’n agos â myfyrwyr israddedig Cymraeg yr Ysgol. Hi oedd yn fuddugol o blith 24 o enwebeion eraill yn un o’r categorïau gwobr mwyaf cystadleuol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig, Dr John Jewell: ‘Mae'r Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth yn gyfle i bob aelod o staff ddiolch y cydweithwyr hynny sydd wedi mynd yr ail filltir.’

‘Yn ogystal â chyfraniad Sian i’n darpariaeth Gymraeg, mae’r wobr hefyd yn cydnabod ymgysylltu Sian ag ysgolion, colegau, a sector y cyfryngau, a’r cyfleoedd mae wedi eu creu er mwyn i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau newyddiaduraeth a’r cyfryngau.’

‘Rydym yn falch iawn fod ymdrechion Sian wedi eu cydnabod gan y Brifysgol.’

Dywedodd Sian: ‘Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni. Mae’n hystod gyffrous o fodiwlau a phartneriaethau â’r diwydiant yn galluogi myfyrwyr anrhydedd sengl a chyd-anrhydedd yr Ysgol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, pe dymunent felly’.

‘Rhaid i mi ddiolch fy nghyd-weithwyr am eu cefnogaeth - rwyf wrth fy modd yn wir i fod wedi ennill y wobr ‘Seren ar ei Chyfodiad’ eleni’.

Dilynwch Sian drwy ddefnyddio @SianMorganLloyd ar Twitter a darpariaeth Gymraeg yr Ysgol drwy ddefnyddio @JomecCymraeg.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.