Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan sy’n brwydro yn erbyn seiber-droseddu yn agor yng Nghaerdydd

12 Hydref 2017

Dr Pete Burnap
Professor Pete Burnap

Y gyntaf o’i math yn Ewrop yw‘r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.

Bydd ymchwilwyr sy’n gweithio ar y cyd ag arbenigwyr o Airbus yn astudio dadansoddi data a deallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i ddiogelu rhwydweithiau TG corfforaethol, eiddo deallusol, a seilwaith cenedlaethol critigol.

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau am ddim gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd sy’n dod ag arweinwyr busnes ac arbenigwyr Prifysgolion ynghyd er mwyn gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig ac ysgogol.

Mae’r digwyddiad yn dilyn cynhadledd y Fforwm Ewropeaidd ar gyfer Seiber-ddiogelwch yr wythnos hon, a lansiodd ‘Global Ecosystem of Ecosystems Partnership in Innovation and Cybersecurity’ (Global EPIC).

Mae Global EPIC yn dod ag 14 o ecosystemau byd-eang o 10 gwlad, gan gynnwys Cymru, ynghyd i ddatblygu atebion arloesol, hybu rhannu gwybodaeth, dadansoddi tueddiadau ac ymchwil, a dylanwadu a gosod safonau ar lefel fyd-eang.

Dywedodd Dr Pete Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch, Prifysgol Caerdydd: "Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da am ragoriaeth ymchwil y mae ei heffaith yn arwain yn y byd. Mae ein gwaith ar ddosbarthu maleiswedd a modelu risg dynamig yn cael ei drosglwyddo i raglenni diwydiannol sy’n darparu lefel uwch o soffistigedigrwydd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau seiber-ddiogelwch. Mae hyn oll mewn cyfnod o fygythiadau i seilwaith cenedlaethol a rhyngwladol sy’n esblygu o hyd, seilwaith y mae’r gymdeithas a’r economi yn dibynnu’n fawr arno.

"Mae ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch Airbus yn cynnig mecanwaith sy’n gallu cymathu ag ecosystem leol Seiber Cymru a hefyd raglen Global EPIC. O’r herwydd, rydym wrth graidd arloesi ac effaith ym maes seiber-ddiogelwch."

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Roedd John Davies, sy’n arwain partneriaeth Seiber Cymru, yng Ngwald Pwyl ar gyfer lansiad EPIC ac fe fydd yn annerch cynrychiolwyr pan agorir y Ganolfan.

"Mae ecosystem Seiber Cymru, a gynhelir gan Glystyrau Seiber-ddiogelwch, Prifysgolion gydag arbenigedd seiber a thimoedd sector TGCH Llywodraeth Cymru, wedi tyfu’n gyson ers ei chychwyn yn 2014”, dywedodd Mr Davies.

"Mae gan arbenigwyr seiber o Gymru berthynas gref â nifer o glystyrau seiber Ewropeaidd eraill, megis Estonia, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a’r Almaen.  Rydym yn falch o fod yn aelod o’r ‘ecosystem o ecosystemau’ fyd-eang hon, sy’n gam ymlaen i’r seiber-gymuned Gymreig. Mae hefyd yn gydnabyddiaeth fod Cymru’n ganolfan ar gyfer arbenigedd seiber ar y llwyfan fyd-eang.

Mae Prifysgol Caerdydd newydd ennill £2m o gyllid gan ffynonellau sy’n cynnwys cynghorau ymchwil Prydeinig, diwydiant, a’r llywodraeth er mwyn lansio prosiectau newydd i ddatblygu algorithmau dysgu peiriant i ganfod bygythiadau seiber.

Gyda’i gilydd, mae Prifysgol Caerdydd ac Airbus wedi derbyn mwy na £1m o gyllid ar gyfer seiber-ddiogelwch, gan gynnwys astudio risgiau i’r systemau sy’n sail i seilwaith cenedlaethol critigol. Fe’i cyllidir yn rhannol gan y rhaglen Endeavour a gefnogir gan Airbus a Llywodraeth Cymru.