Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr RTPI am ragoriaeth ymchwil

2 Hydref 2017

Mae ymchwilwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) 2017 am Ragoriaeth Ymchwil.

Dr Justin Spinney, Carl Mann a Shaun Williams oedd enillwyr y Wobr Academaidd, ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Oxford Brookes, Prifysgol Reading a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, a chyflwynwyd y wobr iddynt gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Dyfarnwyd y wobr am brosiect ymchwil Cycle BOOM.

Roedd prosiect Cycle BOOM, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Peirianneg (EPSRC), yn astudiaeth tair blynedd dan arweiniad Dr Tim Jones a Phrifysgol Oxford Brookes. Nod y prosiect oedd cael gwell dealltwriaeth o feicio o safbwynt cenhedlaeth hŷn, a sut mae’n effeithio ar eu hannibyniaeth, eu iechyd a’u lles.

Roedd yr adroddiad dilynol, Cycle BOOM Design for Lifelong Health and Wellbeing, yn cynnwys ystod o argymhellion ynghylch sut y gellir datblygu beicio yn rhan o agenda fydd yn gwneud dinasoedd yn lleoedd hwylus i bobl o bob oed. Llunwyr polisïau ac ymarferwyr oedd mewn golwg yn bennaf wrth gyflwyno’r canfyddiadau gan eu bod yn amlygu ffyrdd posibl o alluogi mwy o bobl hŷn i feicio, a sut i’w cefnogi.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Dr Spinney: "Mae'r tîm ymchwil cyfan yn falch iawn o gael y wobr hon gan RTPI. Mae’n adlewyrchu'r dull arloesol a rhyngddisgyblaethol, yr arferion rheoli da a’r gwaith caled a gyfrannodd at lwyddiant y prosiect."

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau RTPI am Ragoriaeth Ymchwil ar 12 Medi yn ystod Cynhadledd Cynllunio Ymchwil y DU ac Iwerddon 2017 ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast. Mae'r gwobrau'n cydnabod ac yn hyrwyddo ymchwil o safon ym maes cynllunio gofodol gan ysgolion cynllunio achrededig RTPI ac ymgynghoriadau cynllunio yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon ac yn rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.