Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant cynyddol i un o raddedigion Caerdydd

2 Hydref 2017

Phytoponics

Bydd myfyriwr graddedig sydd wedi dyfeisio system dyfu hydroponig ar gyfer amaethyddiaeth yn cystadlu yng Ngwobrau Entrepreneur Prydain NatWest.

Mae Adam Dixon, 25, ar y rhestr fer ar gyfer ‘Entrepreneur Arloesedd y Flwyddyn’ yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd 4 Hydref.

Mae’r cyn-fyfyriwr peirianneg Prifysgol Caerdydd yn dod â Phytoponics i’r farchnad - system dyfu chwyldroadol sy’n aros am batent.

Mae’r system Phytoponics, a ddisgrifiwyd fel ‘Jacuzzi mewn bag’, yn ymestyn ac yn llenwi ag aer i roi lloches ddiogel i ystod o blanhigion masnachol, o saladau i winwydd, gan alluogi i’r planhigion dyfu’n aruthrol gyflym.

Mae’r uned dan sêl yn darparu dŵr sy’n gyforiog o faetholion i’r gwreiddiau drwy awyrydd integredig, wrth gadw lleithder i mewn, a phlâu allan.

Fe’i gwneir o bolymer uwch-dechnolegol, a gellir cludo’r system yn rhad a’i gosod yn gyflym trwy ei rholio allan, ei llenwi ag aer, a’i chysylltu i gyflenwadau dŵr a thrydan ar y fferm.

Dywedodd Adam, a ddaw o Efrog yn wreiddiol: "Fy nod yw datblygu masnachfraint i gynhyrchu’r cynnyrch mwyaf ffres yn y byd. Mae gan Phytoponics y gallu i gynyddu proffidioldeb tyfu bwyd yn y DU, cynyddu diogelwch bwyd, a gostwng mewnforion bwyd.

"Ar y llwyfan fyd-eang, mae’n ddwys ond yn ecogyfeillgar, gan ryddhau tir drwy gynnig cnwd rheolaidd a thoreithiog gydag effeithlonrwydd adnoddau uchel. Mae’n lleihau defnydd ar ddŵr, egni, a gwrteithion, ac uwchlaw popeth, mae’n cynyddu ansawdd y cynnyrch, gan ei wneud yn fwy maethlon o lawer."

Sefydlwyd Phytoponics - sy’n golygu ‘gwaith planhigion’ yn y Roed - yn 2016, Mae bellach yn cyflogi wyth arbenigwr, gan gynnwys biodechnegwyr ac agronomegwyr hydroponig, gydag arbenigedd a gasglwyd o’r Eidal a’r DU.

"Mae Phytoponics wedi cael ei ddisgrifio fel Jacuzzi mewn bag am fod gwreiddiau’r planhigyn yn cael mynediad at ocsigen drwy leiniau aer y tu fewn i’r system dan sêl. Mae gwreiddiau’r planhigyn yn gallu cyrchu dŵr sy’n llawn o faetholion, a pharth tarth sy’n gyforiog o ocsigen. Y chwistrelliad hwnnw o ocsigen sy'n helpu i gynhyrchu planhigion iach iawn."

Adam Dixon Phytoponics

Gyda chefnogaeth dwy raglen gyflymu ac Angel Investement, mae’r cwmni, yr amcangyfrifwyd ei fod yn werth £2m gan Gyllid Cymru, yn codi rownd hedyn o £600,000, ac yn ceisio’r £180,000 olaf (£150,000 SEIS) i’w chau erbyn mis Ionawr 2018, gan fentro i’r farchnad ar ôl treialon hwyrach y flwyddyn honno.

Mae Phytoponics ac Adam eisoes wedi ennill coflaid o wobrau, gan gynnwys Hedyn-fusnes Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Hedyn-fusnesau Cymru 2017, ffefryn cefnogwyr Cymdeithas Peirianwyr Mecanyddol America, ac maent ar hyn o bryd ar restr fer Pencampwyr Ifainc y Ddaear y Cenhedloedd Unedig a Shell Livewire.

Dyfarnwyd £1000 i’w cynllun busnes gan Gystadleuaeth Menter Spark Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ym mis Mai 2017, sydd yn agored i gystadleuwyr tan fis Tachwedd 2017.

Y tu hwnt i broffidioldeb masnachol, dywed Adam fod hygludedd ac amseroedd hedyn-i-gnwd cyflym iawn yn agor y drws i gymwysiadau dyngarol ledled i byd i Phytoponics.

"Gweithiasom â sector Rhaglen Arloesi Bwyd y Cenhedloedd Unedig, a modelu’r system drwy ddarparu calorïau llawn yn fforddiadwy ar gyfer 200 fesul hectar yn y gwersylloedd ffoaduriaid yn Kenya. Mewn ardaloedd o brinder dŵr, mae gan Phytoponics botensial enfawr i achub bywydau, yn ddiweddarach ar ein taith."

Cystadleuaeth Syniadau Flynyddol i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd yw Spark, gyda gwobr gyffredinol a rennir o dros £20,000 yn arian parod gyda chefnogaeth ar gael. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymgofrestru yma erbyn 5 Tachwedd 2017.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.