Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education 2015

16 Ebrill 2015

THE 16.9

Prifysgol ar y rhestr fer yng nghategori 'Arweinyddiaeth a Rheolaeth Tîm Eithriadol'

Mae cyfle gan uwch-dîm rheoli'r Brifysgol i ennill gwobr arweinyddiaeth uchel ei bri yn y sector addysg uwch.

Mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (BGB) ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau blynyddol Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education (THELMAs) yng nghategori Arweinyddiaeth a Rheolaeth Tîm Eithriadol.

Mae'r categori yn cydnabod y brifysgol yn y DU sy'n gallu dangos y sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth gorau ac ehangaf.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor y Brifysgol: "Yn sgîl ymdrechion yr holl staff, rwyf wrth fy modd bod uwch-dîm rheoli'r Brifysgol wedi'u rhestru ymhlith y gorau yn y sector ledled y DU.

"Drwy ein cynllun strategol, Y Ffordd Ymlaen, rydym wedi dechrau ar raglen o newid mawr o dan ein pedwar maes blaenoriaeth, sef ymchwil ac arloesedd, addysg, rhyngwladol ac ymgysylltiad. Fel uwch-dîm rheoli, rydym yn ymgymryd â'r dasg allweddol o ddod yn un o'r 20 o brifysgolion gorau yn y DU ac yn un o'r 100 gorau yn y byd.

"Yr allwedd wrth gyflawni'r newid hwn, fodd bynnag, yw gwneud yn siŵr bod ein holl staff, ein myfyrwyr a'n cymunedau ehangach yn newid gyda ni.

"Dyna pam rwy'n arbennig o falch bod y gweithdai creadigol i ymgysylltu â staff, a roddwyd ar waith i wneud yn siŵr y rhoddir cyfle i bob aelod o staff roi mewnbwn uniongyrchol i'r rhaglen newid, yn allweddol wrth sicrhau ein lle ar y rhestr fer."

Nid Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yw'r unig un o'n timau rheoli i gyrraedd rhestr fer.

Cafodd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd gydnabyddiaeth benodol am y ffordd mae wedi cynllunio, datblygu a sefydlu ei hun o fewn strwythur Colegau newydd y Brifysgol, gan gyrraedd y rhestr fer yng nghategori Tîm Gweinyddu Adrannol Eithriadol.

Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education heddiw (dydd Iau 16 Ebrill), a chyhoeddir yr enillydd yn ystod seremoni ar 18 Mehefin 2015 yng Ngwesty Grosvenor House, Park Lane, Llundain.

n

Rhannu’r stori hon