Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion o Gaerdydd yn casglu gwobrau ffiseg o fri

3 Gorffennaf 2017

Wendy Sadler

Mae dau aelod o staff Prifysgol Caerdydd wedi derbyn medalau o fri gan y Sefydliad Ffiseg (IOP).

Dyfarnwyd Medal a Gwobr Fred Hoyle i Dr Jane Greaves o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth am ei “chyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o ffurfiant planedau a chyfanedd-dra ecsoblanedau trwy ei delweddu arloesol o ddisgiau malurion o amgylch sêr tebyg i’r Haul a gwrthrychau sy’n rhan o gysawd yr haul gan ddefnyddio telesgopau isgoch-pell”.

Dyfarnwyd i Wendy Sadler MBE, darlithydd rhan-amser yn yr ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Fedal a Gwobr William Thomson, Arglwydd Kelvin am sefydlu science made simple - menter allgymorth gwyddoniaeth sydd wedi cyrraedd dros 750,000 o bobl trwy berfformiadau byw sy’n hybu perthnasedd y gwyddorau ffisegol i gymdeithas a gyrfaoedd.

Mae gwobrau blynyddol IOP yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth mewn pobl a thimau sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol ac eithriadol i gryfder ffiseg.

Dyfarnir Medal a Gwobr Fred Hoyle i rywun am eu cyfraniadau nodedig i astroffiseg, ffiseg ddisgyrchol neu gosmoleg.  Medal arian yw hi, ac i gyd-fynd â hi mae gwobr o £1,000 a thystysgrif.

Bydd Dr Greaves yn casglu’r fedal arian hon, yn ogystal â gwobr o £1000 a thystysgrif, am ei chyfraniad arloesol i’n dealltwriaeth o broses cyfanedd-dra planedau, ffurfiant planedau a ffurfiant sêr mewn gwahanol amgylcheddau.

Rhoddir Medal a Gwobr William Thomson, Arglwydd Kelvin i gydnabod pwysigrwydd hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o le ffiseg yn y byd, cyfraniadau ffiseg i ansawdd bywyd a sut mae’n hybu dealltwriaeth o'r byd ffisegol a lle’r ddynoliaeth ynddo.

Bydd Wendy yn casglu’r fedal aur hon, yn ogystal â gwobr o £1000 a thystysgrif, am fod yn eiriolwr dros bwysigrwydd ffiseg ac addysg ffiseg ym mholisi’r llywodraeth, yn ogystal â bod yn fodel rôl ar gyfer gwyddonwyr ifanc, ac yn llysgennad dros ffiseg.

Science made simple

Dyfarnwyd MBE hefyd i Wendy, a sefydlodd science made simple ar ôl graddio o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i wyddoniaeth, cyfathrebu peirianneg ac ymgysylltiad.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Wendy: “Mae’n gymaint o anrhydedd derbyn hyn yn gydnabyddiaeth gan y gymuned ffiseg...”

“Fy nod erioed fu trosglwyddo fy nghariad at y pwnc i gynulleidfa ehangach. Mae’n rhan mor hanfodol o bopeth yn ein byd, ac eto mae cynifer o bobl yn dal i feddwl amdano fel rhywbeth sy’n peri dychryn. Rwy’n gobeithio fy mod wedi chwarae fy rhan yn y gwaith o geisio newid hynny dros y blynyddoedd, fel bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad i ryfeddodau ffiseg”

Wendy Sadler

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd llywydd yr IOP, yr Athro Roy Sambles: “Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ac yn cydnabod ffiseg rhagorol, a hynny gan ffisegwyr - ac mae ein cymuned yn eu defnyddio i anrhydeddu’r rhai sy’n cynhyrchu’r gwaith gorau oll.

“Mae'n wych gweld creadigrwydd yn parhau ac ymdrechion blaengar ar draws pob maes ffiseg ledled y Deyrnas Unedig, Iwerddon ac yn rhyngwladol. Mae ansawdd y gwaith a'r rhai sy'n ei wneud yn dangos bod gennym ddyfodol disglair iawn o'n blaenau.

“Carwn fynegi llongyfarchiadau gwresog i'r holl enillwyr.”

Rhannu’r stori hon

Dysgu mwy am ein prosiectau ymgysylltu cyhoeddus a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch beth sy’n digwydd yn yr ysgol.