Ewch i’r prif gynnwys

Gostyngiad mewn trais difrifol

26 Ebrill 2017

Dau heddweision

Yn ôl adroddiad cenedlaethol am drais difrifol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd, cafodd 10% yn llai o bobl eu hanafu o ganlyniad i drais difrifol yn 2016 o gymharu â 2015.

Mae’r astudiaeth yn edrych ar ddata yn ôl oedran a rhyw ac mae’n seiliedig ar sampl gwyddonol o 152 o adrannau achosion brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio yng Nghymru a Lloegr. Mae pob un yn aelodau ardystiedig o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN), sydd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol dros y 16 mlynedd diwethaf.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth a Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd: Mae ein hastudiaeth yn dangos gostyngiad sylweddol mewn anafiadau'n ymwneud â thrais ymhlith dynion a menywod yn 2016 o gymharu â 2015...”

“Ers 2010, rydym wedi gweld bod angen triniaeth ar 40% yn llai o bobl mewn adrannau achosion brys ar ôl trais.”

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

Mae'r gostyngiad sylweddol yma bob blwyddyn yn newyddion da i ddinasyddion a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Ar ben hynny, mae'r gwasanaethau iechyd a'r system gyfiawnder droseddol wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn costau o ganlyniad i drais, ac mae llai o faich ar yr adrannau achosion brys sydd o dan bwysau.”

Trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau”

Fodd bynnag, nid yw pethau'n fêl i gyd; mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau, a bod y niferoedd sy'n mynd i adrannau achosion brys ar eu huchaf ar benwythnosau.”

Ar y cyfan, amcangyfrifir bod 188,803 o bobl wedi mynd i adrannau achosion brys am driniaeth yng Nghymru a Lloegr yn dilyn achos o drais yn 2016, 21,437 yn llai nag yn 2015.

Yn 2016, roedd dynion ddwywaith a hanner yn fwy tebygol na menywod o gael triniaeth mewn adran achosion brys ar ôl cael anaf mewn achos o drais.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, dynion rhwng 18 a 30 oed oedd y rhai oedd fwyaf tebygol o gael anaf sy’n gysylltiedig â thrais.

Penwythnosau yn ystod misoedd Mai, Gorffennaf a Hydref oedd yr adegau pan oedd pobl yn mynd i unedau achosion brys amlaf ar ôl achos o drais.

Ym misoedd Chwefror a Thachwedd y gwelwyd y nifer isaf o bobl yn mynd i unedau achosion brys gydag anaf oedd yn gysylltiedig â thrais, ac ym misoedd Mai, Gorffennaf a Hydref y gwelwyd y niferoedd uchaf.

Er nad yw’r astudiaeth yn ystyried pam y bu gostyngiad cyson mewn trais difrifol, mae’r adroddiad yn cyfeirio at nifer o resymau posibl. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau gwell o ganfod troseddau difrifol ac adrodd amdanynt, yr adrannau achosion brys yn rhannu data’n well, a chydweithio lleol rhwng asiantaethau i fynd i’r afael â thrais ar y strydoedd ac mewn mannau trwyddedig.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Grŵp yn cynnwys gwyddonwyr meddygol a chymdeithasol, economegwyr, seicolegwyr, clinigwyr academaidd ac ymarferwyr o bob rhan o’r Brifysgol.