Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth newydd am brif achos feirysol namau geni cynhenid

5 Ebrill 2017

Illustration of Cytomegalovirus

Mae astudiaeth o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi datgelu pam mae CMV - feirws sy’n gyfrifol am 1,000 o namau geni bob blwyddyn yn y DU - yn gallu osgoi’r system imiwnedd mor effeithiol. Gall y canfyddiadau newydd fod o gymorth wrth ddatblygu triniaethau ar gyfer CMV a feirysau eraill nad oes modd eu trin ar hyn o bryd.

Trwy astudio celloedd heintiedig a dyfwyd mewn labordy, daeth i’r amlwg i’r tîm bod nifer fawr o enynnau’r CMV yn ei helpu i guddio rhag y system imiwnedd. Mae’r genynnau hyn yn ei alluogi i ddinistrio llawer o'r proteinau a gynhyrchir gan y corff yn ystod feirws ac yn eu hatal rhag ysgogi’r celloedd imiwn i ddinistrio’r feirws.

Yn ôl Dr Ceri Fielding o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Cawsom ein synnu gan raddfa effaith y genynnau CMV ar y system imiwnedd. O’i gymharu â’r hyn sydd wedi’i ganfod eisoes am strategaethau goroesi imiwnedd feirysau, roedd nifer y proteinau ysgogi imiwnedd a ddinistriwyd gan enynnau’r firws hwn yn ddigynsail...”

“Yn ogystal â darparu gwybodaeth newydd a allai helpu i ddatblygu triniaethau newydd neu wellhad ar gyfer y feirws hwn, gall y canfyddiadau hefyd ddatgelu mwy wrthym am sut mae ein system imiwnedd yn adnabod heintiau feirws ar wahân i CMV.”

Dr Ceri Fielding Research Fellow

CMV cynhenid yw un o brif achosion colli clyw ac anabledd ymhlith plant. CMV yw un o’r feirysau dynol mwyaf cymhleth ac mae’n achosi haint gydol oes. Ni fydd y rhan fwyaf o oedolion a phlant iach sy’n cael eu heintio, yn sylwi ar unrhyw newidiadau neu symptomau. Ni fydd chwaith effeithiau hirdymor. Fodd bynnag, os caiff menyw feichiog ei heintio am y tro cyntaf, gall achosi risg difrifol i’r babi yn y groth. Gall hefyd fod yn broblem fawr i bobl sydd â nam ar eu systemau imiwnedd.

Cafwyd canlyniadau’r astudiaeth pan heintiwyd y celloedd a dyfwyd yn y labordy â ffurf o’r feirws CMV, oedd union yr un fath ar wahân i un genyn y cafwyd gwared arno. Cymharwyd y celloedd wedyn â'r celloedd a oedd wedi eu heintio gan y feirws CMV safonol i weld sut oedd ymateb eu celloedd imiwn yn wahanol. Cyflawnwyd hyn drwy nodi’r miloedd o broteinau unigol a oedd ar arwyneb y gell.

Cafodd y gwaith ei gyflawni trwy gydweithio â grwpiau ymchwil Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Harvard, Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Brno. Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Mae’r astudiaeth ‘Control of immune ligands by members of a cytomegalovirus gene expansion suppresses natural killer cell activation’ wedi ei chyhoeddi yn eLIFE.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.