Ewch i’r prif gynnwys

Cymru ar flaen y gad o ran gwella bydwreigiaeth

5 Ebrill 2017

Vaughan Gething at Midwifery collaborating centre launch

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran gwella bydwreigiaeth, drwy lansio Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth.

Lansiwyd y ganolfan mewn digwyddiad gyda'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a'r Athro James Buchan, Uwch-gynghorydd Adnoddau Dynol Iechyd yn WHO Ewrop. Y ganolfan hon fydd yr unig o'i math yn rhanbarth Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, ac yn un o ddim ond dwy ganolfan gydweithio ledled y byd sy'n canolbwyntio ar fydwreigiaeth yn unig.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'n anrhydedd bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn ganolfan gydweithio ar gyfer datblygu bydwreigiaeth...”

“Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud cyfraniad sylweddol at faes addysg ac ymchwil bydwreigiaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i wella'r maes gofal iechyd hanfodol hwn ledled Ewrop.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Yn ystod y lansiad, dywedodd yr Athro James Buchan o Sefydliad Iechyd y Byd, “Pleser o’r mwyaf yw croesawu Ysgol y Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Caerdydd i’r rhwydwaith o ganolfannau cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth...”

“A ninnau’n un o ganolfannau cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, bydd yr Ysgol yn cynhyrchu tystiolaeth ac arferion da ym maes bydwreigiaeth, ac edrychwn ymlaen at gydweithio er mwyn darparu cymorth technegol i aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd.”

Yr Athro James Buchan Sefydliad Iechyd y Byd

Mae bydwreigiaeth yn amrywio'n fawr ar draws Ewrop o ran paratoi addysgol, rheoleiddio proffesiynol, a chwmpas yr ymarfer. Bydd Canolfan Gydweithio Bydwreigiaeth Sefydliad Iechyd y Byd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hynny drwy roi cyngor technegol a gwasanaeth ymgynghori i Sefydliad Iechyd y Byd, ynghyd â chynhyrchu a dosbarthu tystiolaeth. Bydd yn cyfrannu at gynyddu a thrawsnewid addysg bydwreigiaeth ar draws rhanbarth Sefydliad Iechyd y Byd yn Ewrop, gan ychwanegu at waith Coleg Brenhinol y Bydwragedd, a oedd yn Ganolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd yn Ewrop am dros 20 mlynedd.

Professor Billie Hunter and Professor James Buchan at Collaborating Centre for Midwifery Development launch

Yr Athro Billie Hunter o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr y ganolfan gydweithio newydd. Dywedodd: “Bob blwyddyn, mae dros 300,000 o fenywod yn marw oherwydd cyflyrau sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd, ac mae modd atal 90% o'r marwolaethau hyn. Rydym yn gwybod y gall bydwreigiaeth o ansawdd atal dros bedair o bob pum marwolaeth famol. Fodd bynnag, mewn llawer o wledydd, nid yw bydwragedd yn cael eu hyfforddi'n dda na'u cefnogi yn eu gwaith...”

“Yn y Ganolfan Gydweithio, byddwn yn cefnogi Sefydliad Iechyd y Byd i gryfhau addysg ac ymarfer bydwreigiaeth ar draws 53 aelod-wladwriaeth rhanbarth Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, er mwyn gwella ansawdd y gofal a roddir i famau a babanod.”

Meddai Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. “Pleser o’r mwyaf yw dathlu lansiad Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n garreg filltir bwysig yn natblygiad Prifysgol Caerdydd fel canolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer addysg ac ymarfer bydwreigiaeth...”

Vaughan Gething speaking at launch collaborating centre for Midwifery

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amlygu bydwreigiaeth mewn nifer o bolisïau fel yr allwedd ar gyfer gwella iechyd mamau a babanod ledled y byd. Amcangyfrifir y bydd angen 18m yn rhagor o fydwragedd a nyrsys yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel, i wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol ar gyfer poblogaeth y byd erbyn 2030.

Mae gan y ganolfan gydweithio newydd arbenigedd mewn amrywiaeth eang o addysg, ymchwil ac arferion bydwreigiaeth, ac mae cynllun gwaith wedi'i lunio fydd yn atgyfnerthu polisïau Sefydliad Iechyd y Byd. Dyma rai o'r prif feysydd ffocws:

  • helpu Sefydliad Iechyd y Byd i amlinellu addysg bydwreigiaeth ledled Ewrop, er mwyn monitro cynnydd
  • datblygu adnodd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwledydd sydd am ddatblygu neu gryfhau rhaglen bydwreigiaeth
  • rhoi cyngor arbenigol i wledydd am addysg bydwreigiaeth a datblygu'r cwricwlwm (er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, ymwelodd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ag Uzbekistan ar gais llywodraeth y wlad honno)

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydweithio ochr yn ochr â llywodraethau amrywiol a phartneriaid eraill er mwyn diogelu iechyd pawb hyd at y lefel uchaf sy'n bosibl. Mae wedi bod yn weithredol ers bron i 70 mlynedd ar ôl ei sefydlu ym 1948 ac mae ganddo swyddfeydd mewn dros 150 o wledydd erbyn hyn. Bydd y Brifysgol yn ymuno â thros 700 o ganolfannau cydweithio mewn 80 o wledydd sy'n cefnogi rhaglenni Sefydliad Iechyd y Byd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.