Ewch i’r prif gynnwys

Delweddau o’r Aifft a Phalesteina

11 Rhagfyr 2014

Soldier at Karnak

Mae prosiect newydd a fydd yn dadlennu ffrynt y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n cael ei anwybyddu'n aml yn ceisio cyfraniadau gan y cyhoedd.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £50,900 i brosiect Prifysgol Caerdydd Golygweddau Prydeinig o wlad hynafol: Delweddu'r Aifft a Phalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyfarnwyd yr arian ar gyfer y prosiect trwy raglen 'Ein Treftadaeth' Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a bydd yn canolbwyntio ar gasglu delweddau o'r Aifft a Phalesteina fel y byddai pobl wedi'u gweld yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a sicrhau bod y delweddau hyn ar gael yn rhwydd.

I nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd cyfres o sioeau teithiol yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â datblygu gwefan ryngweithiol, yn galluogi tîm o wirfoddolwyr i gaffael a dehongli copïau o ffotograffau a dynnwyd yn yr Aifft a Phalesteina gan bersonél milwrol neu a brynwyd ganddynt fel cardiau post ac y gellir eu dyddio i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau mewn cyflwyno cyfryngau digidol a threftadaeth, gan arwain at ddehongliad llawnach o'r Rhyfel Byd Cyntaf fel gwrthdaro gwirioneddol fyd-eang.

Bydd arddangosfeydd, gweithdai ysgol a chynhadledd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan yn uniongyrchol yn eu treftadaeth. Bydd y wefan yn adnodd dysgu ar-lein parhaus a fydd yn cynnig golygfeydd newydd o safleoedd archaeolegol, gosodiadau milwrol a dinasoedd fel yr oeddent yn edrych yn ystod y rhyfel.

Dywedodd Paul Nicholson, Athro Archaeoleg ac Eifftolegwr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: "Ceir cysylltiad hir rhwng hanesion Prydain a'r Aifft. Fodd bynnag, caiff hanes yr Aifft yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ei anwybyddu'n aml oherwydd y pwyslais ar y Ffrynt Gorllewinol. Roedd yr Aifft yn fan trawsdeithio i filwyr a oedd ar eu ffordd i'r Dardanelles, canolfan gudd-wybodaeth ar gyfer ymgyrchoedd yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd, ac yn arbennig y ganolfan lle y lansiwyd Ymgyrch Balesteina. Hyd yma, prin fu'r mynediad at ddelweddau yn ymwneud â'r man gwrthdaro hwn, ac roedd gwybodaeth am sut yr oedd y rhanbarth yn cael ei weld gan y rhai hynny a ymwelodd ag ef ac a fu'n byw yno, yn ymddangos yn anghyraeddadwy yn aml."

Gyda chymorth gan arbenigwyr, bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei chofnodi'n ddigidol a bydd archif ryngweithiol ar-lein yn cael ei chreu y gall pawb gael mynediad ati a chyfrannu gwybodaeth. Bydd yr archif yn caniatáu i'r cyhoedd drafod, cyfrannu, rhannu ac ymchwilio gwybodaeth am yr Aifft a Phalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Yn ystod Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf eleni, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cefnogi llawer o brosiectau sy'n ein helpu ni i gyd i archwilio a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn i ni gael dealltwriaeth well o'i heffaith ar ffurfio'r Deyrnas Unedig a gwledydd eraill. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cefnogi Prifysgol Caerdydd i ddarparu cyfleoedd i bobl ehangu eu dealltwriaeth o'r gwrthdaro a sut y mae wedi ffurfio ein byd modern."

Heritage Lottery Fund

Arweinwyr y prosiect o Brifysgol Caerdydd yw Dr Steve Mills a'r Athro Paul Nicholson, sydd ill dau yn dod o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Dywedodd Dr Mills: "Roedd Rhyfel Byd Cyntaf arall y tu hwnt i'r Ffrynt Gorllewinol, rhyfel symudiadau ac ymgyrchoedd gwŷr meirch, ac un a ymladdwyd yng ngwres yr anialwch ac yn nhrefi llychlyd y Dwyrain Canol. Rydym ni'n falch bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dewis cefnogi'r prosiect hwn a fydd yn gwneud y Rhyfel Byd Cyntaf arall hon yn fwy adnabyddus, yn enwedig ymhlith disgynyddion y rhai hynny a wasanaethodd yn yr Aifft a Phalesteina."