Ewch i’r prif gynnwys

Genynnau a llid

27 Chwefror 2017

Microscopic gene

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod mai amrywiad genetig yw'r rheswm pam mae gan rai pobl systemau imiwnedd sy'n gorymateb i firysau.

Roedd ymchwil flaenorol eisoes wedi darganfod bod genyn o'r enw Ifitm3 yn dylanwadu ar ba mor sensitif yw pobl i firws y ffliw, a bod amrywiad ar y genyn yn gwneud celloedd yn fwy tebygol o gael eu heintio gan firws. Mae'r ymchwil newydd yn dangos bod Ifitm3 hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran rheoli faint o ymateb llidiol a geir o ganlyniad i haint firws.

Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod pobl â diffyg Ifitm3 yn cael ymateb imiwnedd gorfywiog, ac y byddai cyfuniad o gyffuriau gwrthlidiol a meddyginiaeth sy'n targedu'r firws yn uniongyrchol, felly, yn eu helpu.

Ar lefel fyd-eang, mae gan un o bob 400 o bobl amrywiad i'r genyn Ifitm3, ond mae'r amrywiad yn fwy cyffredin o lawer ymhlith rhai grwpiau ethnig.

Yn ôl Dr Ian Humphreys o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym bellach yn gwybod bod ein cyfansoddiad genetig yn dylanwadu ar sut rydym yn ymdopi â heintiau, nid yn unig drwy ddylanwadu ar sut mae ein corff yn rheoli haint, ond hefyd drwy reoli pa mor gryf mae system imiwnedd ein corff yn ymateb. Golyga hyn ein bod yn gallu dylunio strategaethau therapiwtig ar gyfer unigolion â salwch difrifol, sydd wedi eu teilwra i'r unigolyn yn seiliedig ar ei broffil genetig."

Casglwyd y data gan ddefnyddio celloedd imiwnedd llygod a oedd gyda'r amrywiad o Ifitm3 a rhai hebddo, er mwyn arsylwi ar ymateb y system imiwnedd i firws o'r enw cytomegalovirus. Gallai'r canlyniadau hefyd fod yn berthnasol ar gyfer heintiau firws eraill megis ffliw epidemig/pandemig.

Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn yn rhannol gan Gymrodoriaeth Ymchwil Uwch Ymddiriedolaeth Wellcome.

Mae'r papur ‘Interferon-induced transmembrane protein 3 prevents cytokinedriven cytomegalovirus pathogenesis’ wedi'i gyhoeddi yn The Journal of Clinical Investigation.

Rhannu’r stori hon

Our systems biology-based research informs the development of novel diagnostics, therapies and vaccines against some of the greatest public health threats of our time.