Ewch i’r prif gynnwys

Olew cnau coco myfyriwr o Gaerdydd yn helpu pobl ynys Fiji

17 Chwefror 2017

Bula Batiki logo

Mae cyn-fyfyriwr a raddiodd o Gaerdydd, ac sydd wedi sefydlu menter ddielw yn gwerthu olew cnau coco a gynaeafwyd ar ynys bellennig yn y Môr Tawel, wrthi'n codi arian i hybu'r cynhyrchu.

Nod Callum Drummond a'i gyfaill Ellis Williams, sydd ill dau'n 23 oed, yw cynyddu gwerthiant 'Olew Cnau Coco Bula Batiki' a bwydo'r arian yn ôl i addysg a gofal iechyd ar ynys Batiki yn Fiji.

Enillodd eu cynllun i gynhyrchu olew cnau coco coeth Wobr Menter Sparks Prifysgol Caerdydd y llynedd - gan sicrhau £2,000 iddyn nhw allu sbarduno’r fenter.

Graddiodd Callum mewn seicoleg haf diwethaf. Erbyn hynny roedd eisoes wedi datblygu cyfeillgarwch gyda theuluoedd ar yr ynys.

Gyda’i ffrind Ellis, o Landysul ym Mhowys, aeth i ymweld â Batiki am y tro cyntaf yn 2012 fel gwirfoddolwyr gyda'r elusen Think Pacific, yn addysgu a hyfforddi chwaraeon yn ysgol gynradd yr ynys.

Callum Drummond and Ellis Williams on Batiki Beach
Innovation in a nutshell: (L-R) Ellis Williams and Callum Drummond on a Batiki beach

'Dyma arloesi mewn cneuen'

"Roedd yr ynyswyr yn wych. Roedden nhw'n ein trin ni fel aelodau o'r teulu," dywedodd Callum, o Churchdown yn Swydd Gaerloyw.

"Roeddwn i'n gwybod yn 2012 fod rhaid i mi fynd yn ôl i'w gweld nhw eto. Aethon ni'n ôl dros y Nadolig ym mis Rhagfyr 2014, gan brofi'r caledi maen nhw'n ei wynebu o ran cynhaliaeth.

Callum Drummond with Batiki family

"Roedden ni am ddod o hyd i ffordd i helpu'r teuluoedd oedd wedi bod mor garedig gyda ni. Gofynnodd y teulu roeddwn i'n aros gyda nhw 'Ydych chi'n defnyddio olew cnau coco ym Mhrydain?' a dyna mewn gwirionedd pryd y taniwyd y syniad. Dyma arloesi mewn cneuen. Fe welon ni fod y pentrefwyr yn gallu cynhyrchu olew cnau coco ar yr ynys, ac fe sylweddolon ni fod olew cnau coco'n dod yn fwyfwy poblogaidd ym Mhrydain.

"Felly fe aethon ni ati i geisio llunio cynllun busnes i gynhyrchu olew cnau coco coeth ar Batiki, ei allforio i Brydain, ei roi mewn jariau ac yna ail-fuddsoddi’r elw'n ôl yn y gymuned er mwyn datblygu tai, gofal iechyd ac addysg..."

"Ein nod sylfaenol yw sefydlu ffynhonnell gynaliadwy o incwm. Mae cynhyrchu olew cnau coco'n gadael i'r pentrefwyr ennill dros ddwbl eu hincwm blaenorol o werthu copra (cnau coco wedi'u sychu)."

Callum Drummond Cynfyfyriwr Seicoleg a Chyd-sylfaenydd Olew Cnau Coco Bula Batiki

Ers dechrau cwmni Bula Batiki Coconut Oil ym mis Mai y llynedd, mae'r cyfeillion wedi gwerthu dros 800 o jariau o'r olew ar draws y byd - gan gynnwys yn Tsieina, Awstralia a'r Unol Daleithiau - gyda'r holl elw'n mynd i brosiectau ar Batiki.

Mae Ellis a Callum bellach wedi lansio ymgyrch godi arian Kickstarter dros fis er mwyn gallu cynhyrchu mwy o olew. Yn gyfnewid am addunedu arian i gefnogi'r prosiect, gall pobl ddewis gwobrau gan gynnwys nifer penodol o jariau olew cnau coco, crysau t wedi'u brandio a hyd yn oed taith o bosibl i Fiji. Mae'r holl gyllid yn mynd at addysg a gofal iechyd ar Batiki.

Dywedodd Callum, "Mae popeth rydyn ni'n ei godi'n mynd yn ôl i brosiectau cymunedol. Rydyn ni wedi darparu chwe mis o incwm cynaliadwy i'r ynys ac wedi cyllido'r twrnamaint chwaraeon ac ieuenctid cyntaf erioed ar Ynys Batiki.

Aerial shot of Batiki Island

"Dydyn ni ddim yn rhoi pwysau ar bobl Batiki i newid eu ffordd o fyw, oherwydd dydyn ni ddim am newid eu diwylliant. Mae teuluoedd yn cymryd rhan os ydyn nhw'n dymuno yn unig. Mae'r penaethiaid yn y pedwar pentref ar yr ynys yn deall beth rydyn ni'n ceisio ei wneud, ac maen nhw'n gefnogol iawn i'r prosiect. Gallai helpu i dreblu incwm teuluoedd."

Gellir defnyddio olew cnau coco ar gyfer ffrio, pobi a rhostio. Hefyd gellir ei ddefnyddio mewn gofal gwallt a chroen ac fel llyfnydd naturiol.

Mae tag ar bob jar o olew cnau coco Bula Batiki yn nodi pa deulu ar yr ynys sydd wedi cynaeafu'r olew.

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau â thros 300 o sefydliadau a gallwn gynnig y cyfle i chi dreulio cyfnod ar leoliad yn Ewrop a ledled y byd.