Ewch i’r prif gynnwys

Tlodi yng Ngwledydd y Môr Tawel

15 Rhagfyr 2016

Pacific Island

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf agored i niwed yn y byd.

Mae Dr Shailen Nandy o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, a'r Athro David Gordon o Ganolfan Townsend ynghylch Ymchwil Tlodi Rhyngwladol yn helpu ynysoedd a thiriogaethau'r Môr Tawel i ddefnyddio dull gwell o asesu tlodi.

Hyd yma, mae asesiadau tlodi yn y rhanbarth wedi dibynnu ar ddulliau a dangosyddion amherffaith nad ydynt yn adlewyrchu tlodi ar ynysoedd bychain sy'n datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys dulliau mesur tlodi ar sail bwyd. Anaml iawn, os o gwbl, y mae gwledydd incwm uchel a chanolig yn defnyddio'r dulliau hyn.

Mae'r dull newydd - yr Ymagwedd Gydsyniol - yn cynnig ffordd o asesu tlodi oedolion a phlant ar wahân drwy ddefnyddio dangosyddion dibynadwy ac addas o ran oedran sy'n dangos pob elfen o dlodi. Mae'n seiliedig ar beth yw lefel dderbyniol o fyw ym marn y boblogaeth yn gyffredinol. Er mwyn dileu tlodi yn unol â'r Nod Datblygu Cynaliadwy cyntaf, rhaid i wledydd olrhain sut maent yn llwyddo i leihau gwahanol fathau o dlodi ar sail diffiniadau cenedlaethol.

Yn rhan o'r ymchwil, mae Dr Nandy a'r Athro Gordon yn cynnig cymorth technegol, arbenigedd a hyfforddiant ar gyfer swyddfeydd ystadegol gwladol. Maent hefyd yn gweithio gydag Ysgrifenyddiaeth Cymuned y Môr Tawel i wneud yn siŵr eu bod yn mabwysiadu ac yn defnyddio modiwl arolwg i wella asesiadau cenedlaethol o dlodi.

Yn ystod ymweliad diweddar â Fiji a Thonga, fe gafodd Dr Nandy a'r Athro Gordon y cyfle i gwrdd ag ystadegwyr swyddogol y llywodraeth o chwe gwlad i amlygu manteision dull gwyddonol o fesur tlodi, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r Ymagwedd Gydsyniol.

"Tlodi yw'r her sylfaenol yng nghyd-destun datblygiad cynaliadwy a rhyngwladol; bydd galluogi gwledydd i greu gwell data a thystiolaeth am dlodi yn ein helpu i ddeall ei faint a'i natur yn well; bydd hyn yn helpu llunwyr polisïau i gyfeirio adnoddau i grwpiau ac ardaloedd sydd â'r anghenion mwyaf."

Yr Athro Shailen Nandy Athro Polisi Rhwngwladol Cymdeithasol

Mae hyfforddiant Dr Nandy a'r Athro Gordon wedi helpu ystadegwyr gwladol i ddeall bod angen cynnwys dangosyddion a dulliau mesur tlodi dilys a dibynadwy yn eu harolygon cenedlaethol. Bydd hyn yn arwain at gynhyrchu data gwell, a newid polisïau yn y pen draw, yn ogystal â rhoi adnoddau i fynd i'r afael â thlodi.

Yn ystod eu hamser yn Fiji, fe gafodd Dr Nandy a'r Athro Gordon y cyfle i gwrdd â staff Swyddfa Rhanbarth Môr Tawel UNICEF, i ddangos sut gellir defnyddio'r Dull Cydsyniol i asesu tlodi plant.

Dywedodd Dr Nandy: "Mae UNICEF wedi cefnogi ein hymdrechion ym maes tlodi plant ers amser maith, ac edrychwn ymlaen at gydweithio er mwyn gwella'r ffordd y caiff tlodi plant ei asesu a beth sy'n cael ei wneud yn ei gylch ledled y byd".

Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae Dr Nandy a'r Athro Gordon wedi ceisio gwella sut y mesurir tlodi mewn gwledydd incwm isel a chanolig a helpu gwledydd i lunio polisïau gwrth-dlodi mwy effeithiol.  Yn sgîl eu gwaith yn y maes hwn, fe fabwysiadodd Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddiffiniad rhyngwladol newydd o dlodi plant ym mis Rhagfyr 2006. Mae hyn wedi llywio sut caiff tlodi plant ei asesu o amgylch y byd erbyn hyn; roedd eu gwaith yn rhan ganolog o Astudiaeth Fyd-eang UNICEF am Dlodi a Gwahaniaethau ymysg Plant a gynhaliwyd mewn 50 o wledydd, gan gynnwys Tsieina, India, Brasil, Mecsico, Bangladesh a Nigeria.

Rhannu’r stori hon

Mae ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith. Rydym yn ymrwymo i wneud ymchwil sy’n seiliedig ar theori ac yn canolbwyntio’n glir ar bolisïau.