Ewch i’r prif gynnwys

Athro Nodedig Anrhydeddus

24 Tachwedd 2016

Professor John Pickett

Cafodd yr Athro John Pickett CBE, sy'n gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, ei enwebu ar gyfer teitl anrhydeddus gan Ysgol Cemeg y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad sylweddol at ein dealltwriaeth o gyfathrebu cemegol ym myd natur.

Bydd y teitl anrhydeddus yn para pum mlynedd ac yn galluogi’r Ysgol i fanteisio ar arbenigedd helaeth yr Athro Pickett i ehangu portffolio ymchwil eang yr Ysgol, ac yn helpu i gryfhau ei safle ar y llwyfan ryngwladol.

Yr Athro Pickett yw'r Cymrawd Ymchwil Nodedig Michael Elliot presennol yn Rothamsted Research, ac mae'n cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol fel arbenigwr mewn cynhyrchion naturiol sy'n effeithio ar ymddygiad a datblygiad anifeiliaid, ac sy'n gweithredu fel signalau allanol i blanhigion.

Ef oedd yn gyfrifol am y nodweddiad cemegol cyntaf o fferomonau rhyw mosgitos, pryfed tywod a phryfed gleision, a'r cyntaf i ddarganfod synergedd rhwng fferomonau a semiogemegau sy'n deillio o blanhigion.

Mae effeithiau ei waith yn estyn yn bell y tu hwnt i'r gymuned wyddonol, ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth well ac ehangach o gyfathrebu cemegol mewn ecosystemau naturiol ac amaethyddol.

Mae'r Athro Pickett wedi cael nifer fawr o anrhydeddau a gwobrau, gan gynnwys Gwobr Rank ar gyfer Maetheg a Hwsmonaeth Cnydau, a Medal Arian y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ecoleg Gemegol yn 2002. Yn 2004, cafodd CBE am ei wasanaethau ym maes cemeg fiolegol, a chafodd y Wobr Wolf mewn Amaethyddiaeth yn 2008, ac yn 2014 cafodd ei ethol yn Gydymaith Tramor yr Academi Gwyddorau Genedlaethol yn UDA.

Dywedodd yr Athro Pickett: "Rydw i'n hynod falch o gael yr anrhydedd hon, ac yn ogystal â fy rôl yn y cydweithio cynyddol rhwng Ecoleg Gemegol yn Rothamsted a Phrifysgol Caerdydd, yn enwedig gyda'r adran Cemeg, mae fy nghysylltiad â'r Brifysgol yn estyn yn ôl i'r 1970au, ac rydw i wedi gweld sut mae enw da yr ymchwil yn y rhanbarth pwysig hwn o'r DU wedi tyfu'n gyflym."

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Rydw i wrth fy modd bod yr Athro Pickett wedi cytuno i ymgymryd â'r rôl anrhydeddus hon yn y Brifysgol.

"Mae'r Athro Pickett yn arweinydd ar lefel fyd-eang ym maes cemeg, ac mae ganddo gyfoeth o brofiad a fydd yn cryfhau ein henw da yng Nghymru, y DU a gweddill y byd. Edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â'r Athro Pickett dros y pum mlynedd nesaf i ddatblygu ein portffolio ymchwil presennol ac i symud yn nes at ddatrys rhai o'r problemau pwysicaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu."

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd yn darparu ymchwil ac addysg a gydnabyddir ar lefel ryngwladol, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif. Yn ymarfer asesu ymchwil REF 2014, roedd yr Ysgol yn y 9fed safle yn y DU, a chafodd mwy na 95% o'i hymchwil ei graddio'n rhagorol yn rhyngwladol, neu'n arwain y byd.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.