Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn cael golwg o’r tu mewn ar BBC Radio Cymru

3 Tachwedd 2016

Students in a BBC radio studio
Abbie Bolitho, Elin Lloyd and Anna Griffin working with Cennydd Davies

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr modiwl ‘Yr Ystafell Newyddion’ yr Ysgol olwg o’r tu mewn ar ddarlledu radio, pan ymwelsant â BBC Radio Cymru.

Treuliodd y myfyrwyr o’r ail a’r drydedd flwyddyn wythnos yn gweithio gyda chynhyrchwyr, golygyddion a chyflwynwyr, a chreu eu pecynnau radio eu hunain a ddefnyddiwyd yn fyw ar yr awyr.

Dywedodd Sian Morgan Lloyd, sy’n arwain y ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol: “Mae’r berthynas rhwng yr Ysgol a’r diwydiant yn allweddol i sicrhau profiadau ystyrlon fel hyn.

“Mae’r myfyrwyr yn gallu gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr proffesiynol, profiadol, ac wrth wneud hynny, maent yn ennill cipolwg hynod werthfawr i ofynion ymarferol newyddiaduraeth ddigidol fodern.

“Roedd yr wythnos yn enghraifft berffaith o brofiad gwaith heriol, perthnasol a llwyddiannus.”

Wrth benderfynu ar bwnc ar gyfer ei phecyn radio, dewisodd Abbie Bolitho bwnc, fel dysgwr Cymraeg, sy’n agos at ei chalon - dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Dywedodd Abbie: “Roedd hi’n dda cael dysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg, a gwneud penderfyniadau golygyddol. Y peth gorau oedd clywed y pecyn yn fyw ar yr awyr a derbyn adborth cadarnhaol am fy ngwaith!”

Roedd Garry Owen, cyflwynydd ar BBC Radio Cymru, yn awyddus i ganmol proffesiynoldeb y myfyrwyr, “Roedd hi’n bleser gwylio’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau newydd wrth iddynt baratoi’r adroddiadau. Fe wnaethant ganfod straeon gwreiddiol ac roeddent yn aeddfed ac yn broffesiynol yn eu gwaith.”

Mae cwrs gradd BA mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth, sy’n radd gydanrhydedd gydag Ysgol y Gymraeg, yn arbennig gan ei fod yn cynnig cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd a’r gweithle.