Ewch i’r prif gynnwys

Hanes haf yn y Wladfa

25 Hydref 2016

Yn gynharach eleni, enillodd Elin Arfon a Manon Thomas, dwy fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, ysgoloriaethau gwerth £3,000 yr un am gyfnod o brofiad gwaith ym Mhatagonia.

Ariannwyd yr ysgoloriaethau gan Fanc Santander a phwrpas y daith oedd ymgymryd â phrofiad gwaith amrywiol gydag ysgolion, dosbarthiadau iaith a chymunedau’r ardal. Yn ogystal â hyn roedd y ddwy yn cynorthwyo gwaith Cynllun yr Iaith Gymraeg. Dyma bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia.

Yn y darn isod, cewch ddarllen detholiad o sylwadau’r ddwy am y profiad diwylliannol bythgofiadwy a thwymgalon o ymgolli eu hunain yng nghymuned Gymreig y Wladfa:

“Nid oedd gan yr un ohonom ni wir syniad beth oedd yn ein disgwyl wrth adael am y Wladfa, dim ond y darluniau a’r syniadau a grëwyd gan eraill. Yr oedd y realiti’n hollol wahanol.  [...] Nid oedd unrhyw beth gwell felly na chyrraedd Trelew a gweld tri ffigwr brwdfrydig yn chwifio eu breichiau ac yn wên o glust i glust yn ein croesawu i’r Wladfa: Billy Hughes, Gladys Thomas ac Eluned Jones. Yr oedd cael cyfarfod â’r anfarwol Luned Gonzalez yn fythgofiadwy.  Gwelodd y ddwy ohonom erioed gymeriad mor anhygoel, yn sŵmio heibio yn ei white bullet o gar, ac yn trefnu pawb a phopeth.  Cawsom ein trin fel superstars go iawn wrth gael ein gwahodd ar y rhaglen radio hefyd.  Y mae ein diolch yn fawr iddi am edrych ar ein holau yn ystod y pythefnos hwnnw.

“Prin iawn yr oedd gennym bum munud i’n hunain yn ystod ein cyfnod yn y Gaiman.  Gwnaethom fwynhau bob eiliad, hyd yn oed codi’n yn y bore bach i ddal y bws.  Yr oedd plant Ysgol Gymraeg y Gaiman, Coleg Camwy ac yn wir Ysgol yr Hendre yn bleser eu cyfarfod.  Profiad twymgalon oedd cael cyfarfod plant tu draw i’r Iwerydd a oedd â chymaint o falchder yn eu Cymreictod.  Plant annwyl iawn oeddent i gyd ac yr oeddent yn glod i’w hathrawon. Cawsom brofiad twymgalon wrth glywed y disgyblion yn canu anthem genedlaethol Cymru gyda chymaint o falchder ac angerdd; dyma rywbeth y cofiwn am byth, yr ydym yn sicr o hynny.

“Bu ein cyfnod yng Nghwm Hyfryd hefyd yn werth chweil, cawsom groeso mawr a gwahoddiadau diddiwedd i wahanol weithgareddau, megis y cwis ac i Asado (barbeciw) pen-blwydd.  Yn sicr, cawsom ychydig mwy o amser hamdden yma gan wneud ffrindiau am oes a oedd yn ddigon bodlon i’n tywys o amgylch yr ardal a’n cyflwyno i draddodiadau amrywiol.  Wedi dweud hyn, fe fynychasom ni amryw o ddosbarthiadau Cymraeg yn y Ganolfan yn Esquel yn ogystal ag yn Ysgol y Cwm.

“Bu’r profiad ym Mhatagonia yn agoriad llygad inni, a gobeithiwn y bydd yr ysgoloriaeth yn parhau i gael ei chynnig, a hynny er budd parhad y gyfnewidfa ddiwylliedig sy’n bodoli rhwng Patagonia a Chymru. Bu’r ddwy ohonom ymgeisio am yr ysgoloriaeth er mwyn ceisio annog mwy o weithgarwch Cymraeg a’r cysyniad fod y Gymraeg dal yn fodern ac yn fyw yng Nghymru. Yn sicr felly, yr ydym wedi dod i ddeall a gwerthfawrogi cymhlethdodau’r Gymraeg ym Mhatagonia.”

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnig dwy ysgoloriaeth i fynd i Batagonia pob flwyddyn dan nawdd Banc Santander. Bydd ysgoloriaethau 2017 yn cael ei hysbysebu i fyfyrwyr yn y gwanwyn.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.