Ewch i’r prif gynnwys

Ymfalchïo yn ein Rhyngwladoldeb

6 Hydref 2016

International Badges

Mae Prifysgol Caerdydd yn amlygu llwyddiannau ei gweithgareddau rhyngwladol ar hyn o bryd yn rhan o ymgyrch sydd wedi'i chefnogi gan dros 100 o brifysgolion.

Mae prifysgolion ledled y DU yn cael eu hannog i ddathlu'r gwaith rhyngwladol a wnânt yn ystod Wythnos Un Byd #WeAreInternational (24-30 Hydref).

Lansiwyd ymgyrch #WeAreInternational yn 2013 er mwyn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn parhau i fod yn gymunedau amrywiol a chynhwysol sy'n agored i fyfyrwyr a staff o bedwar ban y byd.

Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 7,500 o fyfyrwyr rhyngwladol a staff  o 78 o wledydd. Mae gennym gynfyfyrwyr mewn 180 o wledydd.

Byddwn yn amlygu cyfres o weithgareddau rhyngwladol yn ystod Wythnos Un Byd, gan gynnwys:

  • Lansio rhwydwaith newydd ar gyfer staff rhyngwladol
  • Hyfforddiant arbenigol ac arloesol ar gyfer nyrsys yn Namibia
  • Yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a Chyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol, Richard Cotton, yn cwrdd â phrifysgolion partner yn Tsieina a Malaysia, ac yn ymweld â'n Canolfan Maes yn Dannau Girang yn Borneo
  • Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol
  • Lansio cwrs ar-lein rhad ac am ddim ynghylch cyfieithu ieithoedd
  • Arddangos casgliad newydd o farddoniaeth gyfoes o America Ladin
  • Cynrychiolwyr o sefydliad dysgu mawreddog yn Rwsia yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd

Bydd rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn ar gael yn ystod yr wythnos – cewch y newyddion diweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Braint yw gallu croesawu cynifer o fyfyrwyr a staff dawnus o bedwar ban y byd.

We have a series of international activities that we are highlighting for World Week including:

  • Launch of new international staff network
  • Ground-breaking specialist training of nurses in Namibia
  • Vice-Chancellor Professor Colin Riordan and Director of the University’s International Office, Richard Cotton, meet partner universities in China and Malaysia, and visit our Field Centre at Danau Girang in Borneo
  • Social media campaign
  • Launch of free online course about language translation
  • Showcase of new contemporary poetry collection from Latin America
  • Representatives of prestigious Russian institution of learning visit Cardiff University

More information about these activities will be available as the week progresses – keep an eye on our social media for updates.

Vice-Chancellor Professor Colin Riordan said: “We are privileged to be able to welcome so many talented students and staff from around the world."

"Mae ein cymuned ryngwladol yn gwneud cyfraniad aruthrol at lwyddiant y Brifysgol a dinas Caerdydd. Mae'r amrywiaeth hon yn meithrin creadigrwydd ac arloesedd, ac mae'n rhan hollbwysig o'n diwylliant."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Rwyf wrth fy modd ein bod yn cefnogi ymgyrch ragorol #WeAreInternational ochr yn ochr â chydweithwyr mewn prifysgolion eraill."

International Students

Rydym yn annog myfyrwyr a staff i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Rhannwch eich gweithgareddau rhyngwladol a dweud wrthym pam yr ydym yn rhyngwladol.

Tagiwch eich cyfraniadau drwy ddefnyddio @prifysgolCdydd a'r hashnodau #weareinternational #prifysgolcdydd. Cewch hyd i ni ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.