Ewch i’r prif gynnwys

Dinasoedd iachach a mwy gwyrdd

13 Gorffennaf 2016

Cityscape

Mae prosiect ymchwil newydd yn ceisio gwella'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am drefi ac iechyd poblogaethau trefol ym Malaysia.

Bydd cynllun Systemau meddwl a dulliau lleol ar gyfer dinasoedd iachach ym Malaysia (SCHEMA), o dan arweiniad ymchwilwyr o Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy'r Brifysgol ac Athrofa Iechyd Byd-eang Prifysgol Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig, yn ystyried dylanwad dinasoedd Malaysia ar broblemau iechyd trefol.

A hwythau bellach y prif lleoedd lle mae pobl yn ymgartrefu, mae problemau iechyd o hyd mewn dinasoedd. Mae hyn yn costau sylweddol yn gysylltiedig â nhw, ac nid ydynt yn effeithio ar bawb yn yr un modd.

Bydd y tîm ymchwil yn edrych yn benodol ar sut mae iechyd yn cysylltu ag isadeiledd gwyrdd a bwyd trefol, ac maent yn creu gwybodaeth newydd a allai wella iechyd yn ninasoedd Malaysia yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Yi Gong o'r Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy: "Gyda phoblogaeth y byd yn dod yn fwyfwy trefol, a chyda thros hanner yr holl boblogaeth yn byw mewn dinasoedd, mae gan ddinasoedd fwy o ddylanwad nag erioed ar yr economi, amgylchedd ac iechyd. Er gwaethaf y cynnydd ym maes cynllunio trefol, mae twf cyflym mewn poblogaethau trefol yn parhau i achosi problemau iechyd mewn dinasoedd, a hynny'n aml yn sgîl penderfyniadau a wnaethpwyd mewn sectorau eraill.

"Trwy ddatblygu ein dealltwriaeth o'r materion hyn a rhoi dulliau lleol penodol ar waith, mae'r tîm ymchwil yn awyddus i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio gwell yn cael eu gwneud er mwyn gwella iechyd poblogaethau trefol yn y dyfodol."

Ariennir yr ymchwil gan Gronfa Omar Newton-Ungku ac mae'n cynnwys partneriaid sy'n arbenigo mewn systemau a dulliau lleol, cynllunio trefol ac iechyd cyhoeddus.

Rhannu’r stori hon