Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Ei Stori

18 Chwefror 2019

Dathlu menywod anghofiedig yn ystod Mis Hanes Menywod

Mae menywod o bob rhan o hanes y byd yn chwarae rhan flaenllaw mewn menter arbennig â'r nod o helpu i amlygu cyflawniadau hanner y ddynoliaeth, nad ydynt wedi cael fawr o gydnabyddiaeth.

Bydd menter #ChampioningHerStory gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn rhedeg drwy gydol Mis Hanes Menywod (mis Mawrth).

Mae menywod anghofiedig ar draws gwareiddiadau ac amser yn cael eu dathlu gan haneswyr a myfyrwyr Hanes drwy'r mis, gyda #ChampioningHerStory yn dod i benllanw ddydd Gwener 15 Mawrth.

Ymhlith y menywod a ddethlir eleni mae ymgyrchydd hawliau sifil deuhiliol o Brydain, ymerodres Fysantaidd, cyn gaethferch Lychlynnaidd ac ymgyrchydd iaith Gymraeg a bardd cyntaf y byd.

Mae Dr Marion Loeffler, Darlithydd Hanes Cymru a Golygydd Cynorthwyol y Bywgraffiadur Cymreig yn eiriol yn y fenter ar ran ffigur o hanes modern Cymru nad yw wedi cael fawr o sylw.

Dywedodd: "Mae hanes a haneswyr ar bob cyfandir ac ym mhob cyfnod wedi canolbwyntio ar ddynion a gwrywdod yn llawer rhy hir, gan anwybyddu cyfraniad dros 50% o'r boblogaeth i ffurfio bywydau, gwledydd a syniadau.Yn lle cael eu dathlu fel arloeswyr, mae menywod fel Mallt Williams, cynllunydd gwisg genedlaethol, dysgwr Cymraeg cynnar a noddwr pwysig i'r mudiad cenedlaethol, wedi'u hanghofio neu hyd yn oed eu gwawdio. Mae angen unioni'r cam hwn yn yr unfed ganrif ar hugain."

Bydd y menywod hanesyddol dan sylw'n cael eu datgelu ar ddyddiau'r wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol o 1 Mawrth ymlaen, gan gyrraedd penllanw drwy rannu eu bywydau a'u cyflawniadau mewn cyflwyniadau byr pum munud o hyd mewn digwyddiad dathliadol yn yr Ysgol.

Y menywod a gaiff sylw yn #ChampioningHerStory yn ystod Mis Hanes Menywod 2019 ym Mhrifysgol Caerdydd yw:

Frances Batty Shand - ymgyrchydd hawliau sifil o'r 19eg ganrif (c1815-1885)

Dorothea o Montau - proffwyd a meudwy o'r oesoedd canol hwyr (bu farw yn 1394)

Enheduanna - offeiriades yn Sumeria hynafol (23ain ganrif CC)

Anna Komnene - hanesydd Bysantaidd a merch i ymerawdwr (1083-1153)

Yr Ymerodres Mathilda – hawliodd orsedd Lloegr yn ystod y rhyfel cartref a elwid Yr Anarchiaeth (1102-1167)

Mary Owen - gorchfygodd gyhuddiadau ffug o lofruddiaeth yng Nghymru Oes y Tuduriaid

Melkorka – tywysoges Wyddelig oedd yn gaethferch i'r Llychlynwyr (ganwyd c 910)

Mallt Williams - ymgyrchydd dros y Gymraeg (1867-1950)

Hester Piozzi 

Artemisia Gentileschi

Gan weithredu fel eiriolwyr yn y 21ain ganrif dros y ffigurau anghofiedig mae haneswyr gydag arbenigedd sy'n rhychwantu Hanes Hynafol, Canoloesol, Modern Cynnar a Modern, ynghyd ag ôl-raddedigion.

Mae'r eiriolwyr yn cynnwys Dr Emily Cock, yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones, Dr Marion Loeffler, a Dr David Wyatt a'r ôl-raddedigion Hayley Bassett, Elizabeth Howard, Gregory Leighton, Ewan Short, Eviemay Thomas ac Madeleine Webb.

Yr Hanesydd Cyhoeddus Sara Huws, Cyd-Gyfarwyddwr Amgueddfa Menywod Dwyrain Llundain fydd yn cadeirio dathliad #ChampioningHerStory.

Ysbrydolwyd #ChampioningHerStory gan ymgyrchoedd cenedlaethol a rhyngwladol fel Merched Mawreddog yng Nghymru a phrosiect Overlooked yn yr Unol Daleithiau, ac fe'i cynhelir ochr yn ochr â Phythefnos Amrywiaeth y Brifysgol.

Bydd y Pythefnos Amrywiaeth yn dechrau gyda Rhywun fel Fi - Menywod Prifysgol Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Gwener 8 Mawrth).  Sylfaenydd Guerrilla Archaeology a Chyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol, yr Athro Jacqui Mulville yw un o nifer o fenywod fydd yn cynnig eu golwg personol ar eu meysydd a'u teithiau gyrfa eu hunain.

Dilynwch stori'r menywod rhyfeddol hyn o hanes drwy ddilyn  #ChampioningHerStory ar Twitter neu Facebook.

Bydd #ChampioningHerStory yn rhedeg drwy gydol Mis Hanes Menywod gyda'r digwyddiad penllanw ddydd Gwener 15 Mawrth am 3pm yn Adeilad John Percival, Darlithfa 2.03. Croeso i bawb

Rhannu’r stori hon