Ewch i’r prif gynnwys
Dr Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Darllenydd Hanes Cymru

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Email:
loefflerm@cardiff.ac.uk
Telephone:
+44 (0)29 2087 0546
Location:
5.39, Adeilad John Percival , Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
Siarad Cymraeg
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Fy narlith ddiweddaraf: 'Translation and Politics 1800-1871-1914: The Historian's Tale', XVIeg Cyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, 23 Gorffennaf 2019

Darlithydd Hanes Cymru yn y cyfnod modern ydwyf, gan arbenigo ar hanes diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Canolbwyntiau fy ymchwil yw effeithiau Chwyldro Ffrengig 1789 ar Gymru, hanes yr iaith Gymraeg, a phrosesau o gyfnewid gwybodaeth.

Wedi tyfu lan yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, ac yn dyst i'r newidiadau syfrdanol a arweiniodd at ad-uno'r ddwy Almaen, symudais i fyw a gweithio yng Nghymru. O ganlyniad i fy hanes, rwyf â diddordeb mawr yn y cysylltiadau a geir rhwng bywydau pobl a gwleidyddiaeth, ond hefyd yn rôl iaith ac ieithoedd yn y proses o drosglwyddo gwybodaeth a chysyniadau yn y gorffennol a'r presennol, ond yn enwedig rhwng 1789 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Rwyf yn ymchwilio, cyhoeddi a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan fywaf. Almaeneg yw'r famiaith, ac rwyf hefyd yn medru ar rywfaint o Rwsieg a Ffrangeg.

Rwyf wedi ymchwilio a chyflwyno pum rhaglen ddogfen hanes teledu Cymraeg ac Almaeneg, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru a S4C.

Wedi graddio ac ennill fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin, ym 1994, gweithiais yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd o 1994 tan 2017: fel Cymrawd Ymchwil, Cymrawd Ymchwil Hyn (sori dim to bach i gael yma ar gyfer y), a Phennaeth Astudiaethau Ôl-Radd.

Ffocws fy nghyfrol gynnar Englisch und Kymrisch in Wales: Geschichte der Sprachsituation und Sprachpolitik (1997) oedd hanes yr iaith fain yng Nghymru, a chyfrannais dwy bennod ar yr ugeinfed ganrif i'r gyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (1994–2001). Rwyf wedi cyhoeddi erthyglau ar y mudiad Pan-Geltaidd, a gweithiais fel Rheolwr-Olygydd y pum-gyfrol Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (2001–2005), gan gyfrannu ambell gofnod. Y mae fy llyfr The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826–1926, yn dilyn hynt a helynt etifeddiaeth y ffugiwr, bardd a'r hynafiaethydd Edward Williams, dyfeisydd yr Orsedd, yng Nghymru a'r byd. Y mae'r ddwy gyfrol ddiweddaraf, Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse 1789-1802 (2012) a Political Pamphlets and Sermons from Wales 1790-1806 (2014) yn canolbwyntio ar wahanol agweddau diwylliant gwleidyddol Cymru oes Chwyldro Ffrengig 1789. Yn sgil y gwaith ar y cyfnod hwn, rwyf wedi cyhoeddi ym maes cyfieithu gwleidyddol a throsglwyddo cysyniadau, fel y gwelir yn Ysgrifau Beirniadol a Llên Cymru. Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio ar gyfrol sydd yn cyd-destunoli bywyd a gwaith Thomas Stephens o Ferthyr Tudful, yr ysgolhaig tanbaid oedd am osod seiliau hanes Cymru ar sylfeini gwyddonol.

Anrhydeddau a Dyfarniadau

Gwobr Bwrdd Golygyddol, The Transactions of the Radnorshire Society (2018)

Grant Cynhadledd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2016)

'Bravo Aberystwyth', rhaglen ddogfen ar alltudio athro Almaeneg o Aberystwyth ym 1914, yn gyfraniad Cymru ac ar y rhestr fer yn Ngwyl Cyfryngau Celtaidd (Celtic Media Festival) Inverness (2014)

Grant Cynhadledd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2014)

Grant prosiect, The Leverhulme Trust (2013-2015)

Gwobr, The Transactions of the Radnorshire Society (2012)

Grant teithio, AHRC, Bonn (2006)

Gwobr arbennig, European Small Film Festival, am y rhaglen deledu BBC Cymru/ORB yr Almaen Yn ôl i’r Wal – Zurück zur Mauer  (1999)

Gwobr, German-British Forum, ‘The most positive contribution to German-British relations in 1998’ am y rhaglen deledu BBC2 ‘Two Kisses for a Sleeping Princess’ ar safle Cymru yn Ewrop (ar y cyd gyda Sir Norman Foster am ei waith ar y Reichstag ym Merlin) (1998)

Grant ymchwil ôl-ddoethurol,  Deutscher Akademischer Austauschdienst (DAAD) (1994)

Grant ymchwil ôl-radd, Deutscher Akademischer Austauschdienst (DAAD) (1992)

Aelodaethau proffesiynol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Archif Menywod Cymru

Women's History Network

Fellow of the Royal Historical Academy

British Society for Victorian Studies

Cymdeithas Hanes Ceredigion

Botwm Byd

Safleoedd academaidd blaenorol

2018 - Darlithydd Hanes Cymru, Prifysgol Caerdydd

2014 - Golygydd Cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig

1994 - 2017 Cymrawd Ymchwil, Cymrawd Ymchwil Hyn (sori dim to bach ar gael),  Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd Prifysgol Cymru, Aberyswtyth

1990 - 1994 Darlithydd, Adran Astudiaethau Saesneg ac Americaneg, Prifysgol Humboldt, Berlin

Ymrwymiadau siarad cyhoeddus

'Translation and Politics 1800 -- 1871 -- 1914: The Historian's Tale', XVIeg Cyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, 23 Gorffennaf 2019

'Wedi Ei Chwipio a Herwgipio: Menywod de Cymru yn Amser Rhyfelodd Napoleon', Noson Pendroni Tafwyl, 17 Mehefin 2019

'Executed on Cardiff Heath: Judge Hardinge and the Merthyr Martyrs of 1801', Darlith Gyhoeddus, Prifysgol Caerdydd, 15 Mai 2019

'Prince Albert, his German Librarian and their Celtic Connection', Dynastie und Kultur, 1719 --2019, Konferenz Schloss Friedenstein und Marburg University, Gotha, 9-11 Mai 2019

'Lady Llanover's International Friends', Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llancaiach, Llancaiach, 23 Mawrth 2019

'Cyflwyno Mallt Williams', #CofioEiStori, Achlysur SHARE Prifysgol Caerdydd i ddathlu Mis Hanes Menywod, 15 Mawrth 2019

"La Marseillaise" yng Nghymru, 1848, 1871 a 1914', Cyflwyniad ym mhabell Prifysgol Caerdydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd, 8 Awst 2018

'Yr Ustus Hardinge a Merthyron y Waun Ddyfal, 1801', Darlith Fforwm Hanes Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd, 6 Awst 2018

'Y Gododdin, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth Oes Victoria' , Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, 21 Mawrth 2018

‘The “good migrant” narrative and three generations of Germans in twentieth-century Wales’, Llafur Day School on ‘Migration Matters’, St Fagans National Museum of History, 18 March 2018

‘Trosglwyddo Syniadaeth y Chywldro Ffrengig? “La Marseillaise” yng Nghymru 1795-1915’, Cynhadledd Hanes Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Caefyrddin, 14 Chwefror 2017

‘Thomas Stephens a Chymreigyddion y Fenni’, Darlith Cymdeithas Llanofer, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fôn, Bodedeyrn, 9 Awst 2017

‘Merched, Y Bywgraffiadur a Sir Fôn’, Y Lle Hanes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fôn, Bodedeyrn, 9 Awst 2017

‘Olion Llenyddol Ymwelwyr â Llanofer’, Darlith Goffa Islwyn 2017, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, 4 Ebrill 2017

‘Women, Religion and the Dictionary of Welsh Biography’, Ministry and Equilibrium Wales Spring Conferenc 2017, Plas Dolerw, Newtown, 18 March 2017

‘Translating political concepts for a non-state nation: “revolution” in Wales 1775–1815’, Third Conference of the U4 Network of Revolution: Political Upheaval Seen from Afar: Translation and Transformation in the Age of Revolution (1750–1850), University of Göttingen, 23–25 June 2016

‘“This nation” in 1716: considering the first political translation into Welsh’, University of Bangor and Aberystwyth symposium ‘Early Modern Wales: Space, Place and Displacement’, Aberystwyth, 6 July 2016

‘Wörter, Konzepte und Übersetzungen vom Spätmittelalter in die Frühneuzeit’, Marburger Interdisziplinäres Literaturwissenschaftlichen Kolloquium (ILK), Philipps-Universität Marburg, Marburg, 21 January 2016

2018

2017

2016

2014

2013

2012

2010

2008

  • Loeffler, M. 2008. 'The murmur of Welsh voices': Jasper Fforde and Wales. In: Wolf, H., Peter, L. and Polzenhagen, F. eds. Focus on English. Linguistic Structure, language variation and discursive use. Studies in honour of Peter Lucko.. Leipzig: Leipziger Universitätsverlag, pp. 261-269.
  • Loeffler, M. 2008. English in Wales. In: Momma, H. and Matto, M. eds. A Companion to the History of the English Language.. Wiley-Blackwell, pp. 350-357.

2007

2006

2004

2003

  • Loeffler, M. 2003. Purism and the Welsh language: A matter of survival?. In: Brincat, J., Boeder, W. and Stolz, T. eds. Purism in Minor Languages, Endangered Languages, Regional Languages, Mixed Languages: Papers from the Conference "Purism in the Age of Globalisation" Bremen, September 2001.. Volume 2 of Diversitas linguarum Brockmeyer, pp. 61-90.

2002

  • Loeffler, M. 2002. Britisches Englisch. In: Janich, N. and Greule, A. eds. Sprachkulturen in Europa. Ein internationales Handbuch.. Gunter Narr Verlag, pp. 19-26.
  • Loeffler, M. 2002. Kymrisch (Walisisch). In: Janich, N. and Greule, A. eds. Sprachkulturen in Europa. Ein internationales Handbuch.. Gunter Narr Verlag, pp. 138-143.

2001

2000

1999

1998

1997

1995

1993

1991

Hanes Cymru; Hanes y Gymru Fodern ; Cymru a Chwyldro Ffrengig 1789 ; Hanes Diwylliannol

Hanes wedi ei Gyd-Weu: Cymru a’r Byd, 1714–1858 (Bl. 2)

Yn y modiwl hwn trafodwn ddigwyddiadau allweddol yng Nghymru yn eu cysylltiad â datblygiadau diwylliannol, crefyddol, ac economaidd yn ngweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop, a’r Ymerodraeth. Er mwyn dadansoddi peuoedd cymdeithasol yn eu cyfanrwydd a throsgynnu ffiniau gwleidyddol, defnyddiwn y cysyniad o histoire croisée neu Verflechtungsgeschichte, sef hanes wedi ei gyd-weu. Cymry, Saeson, Almaenwyr a Ffrancwyr, zamindar o Bengal a thywysog o wlad Pwyl yw actorion a gwrthrychau ein hanes. Traciwn olion Siacobitiaid, Toriaid a Chwigiaid, radicaliaid a theyrngarwyr, hynafiaethwyr a chyfieithwyr, diplomyddion, milwyr ac ysbïwyr, ar drywydd eu cysylltiadau â Chymru a’r byd.

Ein dechreubwynt yw esgyniad y Protestant Hanoferaidd Siôr I i orsedd Prydain Fawr ym 1714, gan fod y digwyddiad hwn wedi siapio hanes Cymru a’r ynysoedd hyn y tu hwnt i deyrnasiad y Frenhines Victoria. Gorffennwn adeg Rhyfel y Crimea, a derfynodd cyfnod o gydweithio gwleidyddol a diwylliannol agos rhwng Prwsia a Phrydain, a chyda Eisteddfod Fawr Llangollen 1858, uchafbwynt diwylliannol dadleuol Cymru Oes Victoria.

Cymru, Mudiad Diwygio’r Senedd, a Chwyldro Ffrengig 1789   (Bl. 3)

Hyd yn ddiweddar ystyriwyd gweithredu gwleidyddol yng Nghymru cyn Rhyfeloedd Napoleon yn bennaf yng nghyd-destun Chwyldro Ffrengig 1789. Fodd bynnag, ar wahan i ychydig o eithriadau, trosglwyddwyd syniadau a deunydd gwleidyddol i Gymru wedi eu hidlo drwy’r iaith fain, trwy fudiad diwygio cyfundrefn wleidyddol Prydain Fawr, a thrwy garfan deyrngarol i’r frenhiniaeth Brotestannaidd. Darllenwyd, dosbarthwyd, a chyfieithwyd cyhoeddiadau gwleidyddol Saesneg yn frwd, gan hefyd fabwysiadu’r ffurfiau diwylliannol newydd, democrataidd, a gododd y tu hwnt i Glawdd Offa. Yn wahanol i’r Iwerddon, gweithredodd radicaliaid a theyrngarwyr Cymru y tu mewn i fframwaith gwleidyddol a phau cyhoeddus Prydain Fawr, gan ddangos ond ychydig o awydd i dorri i ffwrdd o’r fframwaith hwn, yn wahanol i'r Iwerddon.

Yn y modiwl hwn, dadansoddwn destunau, caneuon, a darluniau allweddol y cyfnod rhwng Rhyfel Annibyniaeth America a Rhyfeloedd Napoleon. Ein hamcan pennaf yw archwilio ym mha ffordd y dylanwadodd syniadau gwleidyddol allanol ar Gymru, ac i benderfynu os ydy hi’n bosib ystyried y dylanwadau hyn yn rhai Chwyldro Ffrengig 1789 yn unig. Hwyrach ei bod hi’n amser ddatblygu gwerthusiad mwy soffistigedig. Yn ogystal, ystyriwn effaith datblygiadau economaidd ar brotestio (gwleidyddol), y cysylltiadau agos rhwng crefydd a gwleidyddiaeth, a rôl menywod yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y cyfnod.

Os ydy hyn yn swnio braidd fel dychweliad i hen faes hanes gwleidyddol, cofiwch fod y rhan fwyaf o’n ffynonellau wedi ei chreu gan ddynion a merched heb lawer o addysg, ac eto yn ddwyieithog, mewn gwlad heb brifysgol, dref â mwy na 7,000 o drigolion, na chanolfannau diwydiannol mawrion. Trafodwch!

Canolbwynt fy ymchwil yw Cymru yn ei chyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd ac Ymerodraethol, a'r ffordd yr oedd gwleidyddiaeth, crefydd a diwylliant (yn ei ystyr mwy cynfyng) yn cyd-weu rhwng c. 1715 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ymddiddoraf yn arbennig yn y cyfnod rhwng Chwyldro Ffrengig 1789 a'r 1850au, oes a elwid yn  Biedermeier, Oes y Chwyldroadau, neu'r cyfnod Rhamantaidd; oes a welodd dadeni diwylliannol, twf diwydiannol, a chynnwrf cymdeithasol yng Nghymru.

Ymhlith y cwestiynau ceisiaf ateb yw: Sut y newidiodd syniadau a chysyniadau dros amser? Beth oedd ym meddwl pobl pan fydden nhw'n trafod 'derywddon' neu 'chwyldro' ar wahanol gyfnodau ac mewn gwahanol ieithoedd? Fel Golygydd Cynorthwyol y Bywgraffiadur Cymreig, rwyf yn tracio bywydau megis rhannau sylfaenol a meicro-gosmau o hanes, yn siapio digwyddiadau hanesyddol ac yn cael eu siapio ganddynt. Rwyf wrth fy modd yn ystyried y cysylltiadau agos rhwng crefydd a gwleidyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pwy oedd yr Undodiaid a beth oedd gwraidd eu gwleidyddiaeth radicalaidd? Yn olaf, mae cysylltiadau Cymru a'r Cymry gyda'r byd ehangach, a hunaniaeth ddeuol y wlad fel trefedigaeth ac aelod yr Ymerodraeth, o ddiddordeb imi.

Rwyf wedi gweithio ar y prosiectau canlynol:

  • Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg
  • Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru
  • Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol
  • Cymru a'r Chwyldro Ffrengig
  • Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol

http://www.wales.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/ResearchProjects/ProsiectauYmchwil.aspx

Rwyf yn Gyfarwyddwr Astudiaethau i ddau fyfyriwr PhD y tu allan i Brifysgol Caerdydd, y naill yn ymchwilio llongddryllio ar hyd arfordiroedd Cymru c.1700-1830; a'r llall Cyfieithiadau'r Gymraeg c. 1789-1900.

Hanes diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol Cymru rhwng tua 1715 a thua 1880

Hanes menywod yng Nghymru

Hanes cynmdeithasol yr iaith Gymraeg

Hanes sefydliadau diwylliannol y Cymry

Hanes cysyniadau a'r Gymraeg  'Begriffsgeschichte'

Cysylltiadau rhwng Cymru a'r Almaen