Ewch i’r prif gynnwys

Animeiddiad Prosiect Treftadaeth CAER

25 Medi 2015

Aerial view of Ely area

Gwreiddiau'r ddinas yn dod yn fyw mewn ffilm gymunedol

Mae digwyddiad cloddio cymunedol pwysig ar un o fryngaerau mwyaf arwyddocaol Cymru o Oes yr Haearn, sydd wedi datgelu tystiolaeth bod gwreiddiau Caerdydd yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd, yn destun ffilm newydd.

Ar y cyd â Phrosiect Treftadaeth CAER, gweithiodd y prif artist Paul Evans a'r gwneuthurwr ffilmiau Jon Harrison, disgyblion o ddwy ysgol leol, mewn grwpiau bach i greu cyfres o animeiddiadau byr ar gyfer ffilm o'r enw 'CAER HEDZ'.

Fel rhan o'r prosiect, bu pobl ifanc yn gwneud 'Pennau Celtaidd' unigol yn seiliedig ar enghreifftiau o Oes yr Haearn. Gwnaed dros 40 yn gyfan gwbl. Yna, defnyddiwyd wyth o'r pennau hyn i greu animeiddiadau gyda lleisiau lleol a recordiwyd gan wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o fentrau Prosiect Treftadaeth CAER.

Mae Prosiect Treftadaeth CAER yn brosiect ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Cymunedau yn Gyntaf Trelái a Chaerau, ysgolion lleol a thrigolion lleol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar un o safleoedd archaeolegol mwyaf pwysig, ond mwyaf anhysbys Caerdydd, sef bryngaer Caerau, o Oes yr Haearn.

Bryngaer Caerau yw un o'r rhai mwyaf yn ne Cymru, sydd wedi cael ei chadw orau. Dangosodd digwyddiadau cloddio diweddar gan dîm Prosiect Treftadaeth CAER, a oedd yn cynnwys dros 120 o wirfoddolwyr lleol, bod gwreiddiau Caerdydd yn dyddio yn ôl 6,000 o flynyddoedd i'r Oes Neolithig gynnar (4,000 – 3,300 CC).

Ariannwyd y ffilm 'CAER HEDZ' gan Grant Gŵyl Cymunedau Cysylltiedig Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Rhannu’r stori hon