Ewch i’r prif gynnwys

Yn llygad y seicopath

18 Rhagfyr 2018

Human eye

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe wedi dangos bod ymateb anarferol i’w weld yn llygaid seicopathiaid pan ddangosir lluniau o bethau annifyr iddynt, megis cyrff wedi’u malu’n ddarnau a chŵn bygythiol.

Bu’r tîm yn edrych ar effaith lluniau annymunol ar droseddwyr seicopathig a throseddwyr eraill, a daeth gwahaniaeth amlwg i’r amlwg yn ymateb eu llygaid: yn wahanol i droseddwyr nad ydynt yn seicopathiaid, nid oedd cannwyll llygaid seicopathiaid yn chwyddo.

Dywedodd y prif awdur, Dr Dan Burley o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Mae ein canfyddiadau yn cynnig tystiolaeth gorfforol o ddiffyg emosiynol sy’n gyffredin ymysg troseddwyr seicopathig.

“Gwyddwn erioed fod cannwyll y llygad yn ddangosydd o sut mae pobl yn cynhyrfu.  Mae chwaraewyr pocer o fri wedi dysgu sut i edrych yn ofalus i lygaid eu gwrthwynebwyr i weld a oes ganddynt gardiau da ai peidio, ac mae sawl gwerthwr craff yn gwybod bod modd codi prisiau os yw eich llygaid yn datgelu cyffro o weld eu cynnyrch. Yn yr un modd, mae cannwyll y llygad fel arfer yn lledu pan fydd llun yn peri sioc neu yn ein hofni. Mae’r ffaith bod yr ymateb seicolegol arferol hwn i fygythiad yn cael ei leihau mewn troseddwyr seicopathig yn cynnig dangosydd corfforol amlwg ar gyfer y cyflwr hwn.”

Ychwanegodd yr Athro Nicola Gray, seicolegydd fforensig a chlinigol, a oruchwyliodd y prosiect yn glinigol: “Dyma un o’r troeon cyntaf i ni gael tystiolaeth wrthrychol a ffisiolegol o ddiffyg emosiynol sy’n sail i ymddygiad tramgwyddus troseddwyr seicopathig nad yw’n dibynnu ar ddulliau ymwthiol nac adnoddau drud. Rydym yn gobeithio datblygu’r fethodoleg hon i gynorthwyo gydag ymyrraeth ac asesiad clinigol ymhlith poblogaethau troseddol.”

Yn ddiddorol, dangosodd llygaid troseddwyr seicopathig ymateb arferol i luniau cadarnhaol, megis cŵn bach neu gyplau hapus, gan ddangos nad yw seicopathi yn gysylltiedig ag anhawster cyffredinol wrth ymateb i emosiwn, ond eu bod yn hytrach yn ansensitif i wybodaeth fygythiol yn benodol.

Daeth yr Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd, a oruchwyliodd yr ymchwil, i’r casgliad canlynol: “mae nifer o droseddwyr seicopathig yn ymddangos yn eofn, hyderus, ac yn gallu ymddwyn mewn ffordd ddideimlad.  Mae llawer yn haws ymddwyn yn eofn os nad oes gennych unrhyw deimladau o ofn yn ogystal â bod yn ddidrugaredd os nad oes emosiwn i amharu ar y weithred.”