Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Cadwraeth yn ennill dyfarniad nodedig

14 Rhagfyr 2018

Conservation student

Myfyriwr rhagorol ar y cwrs MSc Arferion Cadwraeth yn derbyn Ysgoloriaeth Zena Walker 2018.

Mae myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Ysgoloriaeth Zena Walker nodedig gan Gymdeithas y Celfyddydau.

Bydd y myfyriwr MSc Arferion Cadwraeth Kristjana Vilhjalmsdottir yn derbyn cyfanswm o £3,000, a ddyfernir i fyfyriwr ôl-raddedig rhagorol i’w roi at ei hastudiaethau blwyddyn olaf.

Lansiwyd yr ysgoloriaeth yn 2006 drwy gymynrodd a adawyd gan y dylunydd Zena Walker, ac fe'i dyfernir i fyfyriwr ôl-raddedig rhagorol i gynorthwyo gyda chost ffioedd cwrs a chyfarpar yn gysylltiedig â'r ddisgyblaeth.

Roedd y dylunydd dawnus Zena Walker yn actifydd cynnar dros y Celfyddydau, a helpodd i sefydlu pedair cymdeithas yn ei sir frodorol, Swydd Efrog, ar ran y National Association of Decorative and Fine Arts Societies, y sefydliad a drodd maes o law i fod yn Gymdeithas y Celfyddydau. A hithau wedi astudio yng Ngholeg Celf Leeds, roedd ei gyrfa liwgar yn cynnwys cyfnod yn peintio cuddliw i'r Fyddin yn ystod y rhyfel, gan weithio ochr yn ochr â Hardy Amies, a ddaeth yn ddiweddarach yn wniedydd i'r Frenhines Elizabeth II pan ddaeth i'r orsedd.

Dywedodd Alison Galvin-Wright a James Wilkins o Bwyllgor Grantiau Cymdeithas y Celfyddydau: "Gwnaeth angerdd Kristjana am ei hymarfer a'i dyheadau ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol argraff enfawr arnom. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ei chefnogi'n ariannol yn ystod y cyfnod hanfodol hwn yn ei hastudiaethau."

Dywedodd enillydd y dyfarniad, Kristjana: “Rwy'n hynod o ddiolchgar am yr anrhydedd o gael fy newis ar gyfer Ysgoloriaeth Zena Walker Cymdeithas y Celfyddydau. Mae fy nghyfnod yng Nghaerdydd wedi gadael i fi ddatblygu fy sgiliau cadwraeth ac academaidd a bydd y dyfarniad hwn yn help enfawr i fi barhau i wneud hynny yn fy mlwyddyn olaf. Bydd yn gyfle i fi ymgymryd â datblygiad proffesiynol y tu hwnt i Gaerdydd.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro James Hegarty: "Rydym ni'n hynod o ddiolchgar i Gymdeithas y Celfyddydau am eu cefnogaeth drwy Ysgoloriaeth  Zena Walker. Bydd hwn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i'r myfyriwr ôl-raddedig a ddewiswyd ac i'w hastudiaethau MSc Arferion Cadwraeth."

Mae Cymdeithas y Celfyddydau yn gweithio i greu cymdeithas well, iachach a fwy cydgysylltiedig. Daw'r elusen addysg celfyddydau blaenllaw'n â phobl at ei gilydd drwy gywreinrwydd cyffredin am y celfyddydau er mwyn cyfrannu at dreftadaeth artistig a'i gadw drwy rwydwaith fyd-eang o 385 o gymdeithasau gyda thros 90,000 o aelodau'n fyd-eang.

Cynlluniwyd yr MSc Arferion Cadwraeth fel rhaglen drosi ar gyfer graddedigion yn y dyniaethau a'r gwyddorau sy'n dymuno cael gyrfa mewn Cadwraeth, ac mae'n un o gyfres o raddau sy'n ymroi i addysgu'r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr o lefel israddedig i ôl-raddedig yn y brifysgol.

Rhannu’r stori hon