Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnod Da ar gyfer Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau

24 Hydref 2018

A happy student holding a tablet.

Mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn y seithfed safle ar gyfer Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn y Times Good University Guide 2019.

Edrychodd y Times ar naw deg saith prifysgol yn y DU, ac enwyd yr Ysgol fel y gorau yng Nghymru.

Daw’r anrhydedd hon ar ôl i'r Ysgol fod ymhlith y pump uchaf am y bumed flwyddyn yn olynol yn nhablau cynghrair y Guardian ar gyfer prifysgolion, ac yn drydydd ar hugain yn fyd-eang ar gyfer Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allan: "Rydym wrth ein bodd i weld bod rhestr ddiweddaraf y Times yn cadarnhau ein statws fel un o Ysgolion mwyaf blaenllaw’r DU yn ein maes.”

"Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i addysgu a gyfoethogir gan ein harbenigedd ymchwil a blaenoriaethau a arweinir gan y proffesiwn ar draws amrywiaeth o gyfryngau ym maes cyfathrebu."

Eleni, mae canolfannau a grwpiau ymchwil yr Ysgol wedi ennill nifer o gontractau ymchwil nodedig, sy'n cyd-fynd â nifer o fentrau sy'n cysylltu’r Ysgol gydag ystod eang o rwydweithiau proffesiynol ym maes newyddiaduraeth, ymchwil data, a'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol.

Ychwanegodd yr Athro Allan, "Mae'r safleoedd hyn yn cynrychioli llwyddiannau pwysig, ond dim ond rhan o'r stori yw hynny. Rydym hefyd yn gwerthuso ein cynnydd yn seiliedig ar dwf a datblygiad ein myfyrwyr, ac effaith ein gwaith ar y gymuned ehangach”."

Mae’r Times/Sunday Times Good University Guide yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol.

Rhannu’r stori hon

Our new course prepares you to work in one of the UK's fastest growing industries.