Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr cyntaf yn cerdded trwy ddrysau yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant newydd

27 Medi 2018

New JOMEC building

Mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn croesawu’u myfyrwyr i’w cartref newydd.

Mae Dau Sgwâr Canolog bellach ar agor ac mae myfyrwyr wedi dechrau eu darlithoedd rhagarweiniol yn yr adeilad modern.

Ochr yn ochr â BBC Cymru/Wales ac yn agos at swyddfeydd Reach, lle caiff papurau newydd megis WalesOnline, y Western Mail a’r South Wales Echo eu creu, mae hwn yn lleoliad hollbwysig a fydd yn hwyluso ffurfio cysylltiadau gyda sefydliadau’r cyfryngau o fewn diwydiannau diwylliannol a chreadigol ehangach. Mae’r mentrau yn cynnwys cefnogi cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr trwy arweiniad a hyfforddiant proffesiynol.

Mae’r adeilad newydd yn cynnwys:

  • Pedair darlithfa gan gynnwys darlithfa 300 sedd
  • Chwe ystafell newyddion a phedair ystafell olygu, pob un ag adnoddau cyfrifiadurol arloesol – gan wneud yn siŵr eu bod yn gwbl unol â safonau'r diwydiant
  • Dwy stiwdio deledu a dwy stiwdio radio, dwbl yr hyn oedd gan yr adeilad blaenorol i'w gynnig, gyda thechnoleg wedi'i diweddaru a'i gwella.
  • Labordy Arloesi ac Ymgysylltu newydd – lle bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trwy ddysgu ymarferol dan arweiniad ymchwil mewn gwyddorau data, codio cyfrifiadurol a datblygiad digidol. Bydd y lab yn cynnig ffyrdd newydd a chyffrous i newyddiadurwyr ac ymarferwyr cyfryngau i adrodd eu straeon.

Mae dros 800 o fyfyrwyr - israddedig ac ôl-raddedig - yn rhan o'r ysgol, a oedd yn arfer bod yn Adeilad Bute ar y prif gampws. Mae darlithoedd yn dechrau o ddifrif wythnos nesaf (Hydref 1), gyda chyfleusterau cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau newydd yn cael eu defnyddio'n llawn dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allan: "Mae'n gyffrous i fod yn ein cartref newydd o'r diwedd, a fydd yn cyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr yn sylweddol.  Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r penseiri a'r dylunwyr i fanteisio i'r eithaf ar botensial yr adeilad i gynnig gweledigaeth yr 21ain ganrif o amgylchedd y Brifysgol.

"Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae nifer o'n myfyrwyr wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd proffil uchel.  Bydd y buddsoddiad yma yn Dau Sgwâr Canolog yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i chwarae rhan flaenllaw yn datblygu ymchwil ac addysgu yn y sectorau newyddiadurol, cyfryngol a diwylliannol."

Mae'r adleoliad yn rhan o fuddsoddiad ehangach y Brifysgol o £600m dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, yn y cyfnod mwyaf o uwchraddio campws mewn cenhedlaeth.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.