Ewch i’r prif gynnwys

Eisteddfod 2018

6 Awst 2018

Eisteddfod 1

Ysgol yn annog pobl i fyfyrio ar chwedlau epig canoloesol a chasgliad cyfoes yr iaith Gymraeg fodern

Mae yna flas lleol i weithgareddau Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 wrth i'r brifddinas gynnal gŵyl ddiwylliannol fwyaf y wlad - gydag arbenigwyr mewn Llenyddiaeth, Iaith ac Athroniaeth yn rhannu eu harbenigedd yn y meysydd hynny.

Mae'r cyflwyniadau a thrafodaethau wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant, hanes, creadigrwydd a bywyd gwyllt Caerdydd yn yr Eisteddfod gyntaf yn y brifddinas ers degawdau.

Ymhlith llu o arbenigwyr y Brifysgol mae tri academydd blaenllaw o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: Yr Athro Katie Gramich, Dr Tomos Owen a Dr Huw Williams.

Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Katie Gramich, sydd â'r fraint o draddodi darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni. Yn Gwlad y Bwgan?  Ysbrydion mewn llenyddiaeth Cymru o Kate Roberts i Mihangel Morgan (dydd Mercher 8 Awst 11.30, Pabell Cymdeithasau), bydd hi'n archwilio sut caiff ysbrydion eu defnyddio mewn detholiad o lenyddiaeth Gymraeg fodern, gan awgrymu bod awduron yn defnyddio rhithioldeb, y term sy'n cyfeirio at bopeth bwganllyd, i archwilio materion cyfoes yng nghymdeithas Cymru megis rhywedd, rhywioldeb, eiddo a pherthyn.

Mae'r Athro Gramich yn ymuno â Dr Tomos Owen a'r Athro Sioned Davies ar gyfer Cyfieithu llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (dydd Iau 9 Awst, 16.00, Pabell y Brifysgol).

Yn dilyn cyhoeddiad dau gyfieithiad pwysig diweddar gan Gramich a Davies, bydd y sesiwn yn trafod gwaith y fardd fenywaidd Ganoloesol Gwerful Mechain, a'r Mabinogion, y casgliad enwog o chwedlau Cymraeg canoloesol sydd wedi ysbrydoli rhamant Arthuraidd a mytholeg Geltaidd ers y cyfnod hwnnw.

Bydd yr Uwch-ddarlithydd mewn Athroniaeth, Dr Huw Williams, yn cyd-arwain y sesiwn Gweithio gyda Grangetown (dydd Gwener 10 Awst, 14.00, Pabell y Brifysgol) Bydd y cyflwyniad yn egluro sut mae Porth Cymunedol y Brifysgol wedi datblygu, gan arwain at Gaffi Athroniaeth sy'n archwilio materion cyfoes megis amlddiwylliannedd a hunaniaeth Gymreig.

Drwy gydol #steddfod2018, bydd ymwelwyr yn cael cyfleoedd i gyfrannu a thrafod Corpws Cenedlaethol Cymraeg Gyfoes (CorCenCC) gydag arbenigwyr o'r prosiect rhyngddisgyblaethol chwyldroadol. CorCenCC yw'r prosiect cyntaf yn y byd sy'n casglu data i gynrychioli Cymraeg gyfoes, gan ddefnyddio technolegau symudol a digidol yn y gymuned i alluogi'r cyhoedd i gydweithio arno.

Mae'r Brifysgol yn cynnal rhaglen eang yn Eisteddfod 2018 (3-11 Awst, Bae Caerdydd).  I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch #CUEisteddfod2018.

Rhannu’r stori hon