Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadaeth yn canmol rhaglen arweinyddiaeth

30 Gorffennaf 2018

VC and Chinese delegates

Mae Llysgenhadaeth Tsieina yn y DU wedi canmol rhaglen reoli Prifysgol Caerdydd ar gyfer arweinwyr addysg.

Mae dros 100 o reolwyr addysg Tsieineaidd yn treulio tri mis yn y Brifysgol er mwyn datblygu eu sgiliau arwain a meithrin perthynas gyda chymheiriaid ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ôl Jianhui Xia, Cwnselydd yr Adran Addysg yn Llysgenhadaeth Tsieina yn y DU, mae'n cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr ac mae wedi helpu sector y Prifysgolion yn Tsieina i ddatblygu.

"Ffrwyth gwaith caled ar y naill ochr yw’r rhaglen hon, ac mae’n symbol o'r partneriaethau addysgol a'r oes agored sydd ohoni rhwng ein gwledydd gwych", meddai.

Mae'r cynrychiolwyr – sy'n hanu o dros 83 o brifysgolion yn Tsieina – yn dilyn rhaglen rheoli ac arloesedd sydd wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer eu hanghenion nhw, ac sy'n cael ei chynnal gan uwch-staff o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r nifer sy'n cymryd rhan eleni (106), dros ddwywaith y nifer a gymerodd ran yn 2017 (52).

Fe amlygodd yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop, ym Mhrifysgol Caerdydd, bwysigrwydd cyfnewid gwybodaeth a syniadau ar draws y byd.

"Mae cymaint y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, ac edrychaf ymlaen at feithrin perthnasoedd newydd a phartneriaethau sy'n bodoli eisoes gyda phrifysgolion yn Tsieina sydd wedi'u cynrychioli yn y ddirprwyaeth."

Mae'r rhaglen flynyddol yn deillio o femorandwm cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd yn 2015, gyda'r Is-arlywydd ar y pryd, Liu Yandong, yn bresennol, ar ymweliad â Chymru.

Mae wedi'i chomisiynu gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina, sydd â phartneriaeth sefydledig â Phrifysgol Caerdydd ac wedi helpu ysgolheigion symud o astudiaethau ôl-raddedig i swyddi academaidd uwch.

Yn fwy cyffredinol, mae'r Brifysgol wedi llunio cysylltiadau academaidd ffurfiol a phartneriaethau strategol gyda phrifysgolion ar draws Tsieina at ddibenion partneriaethau ymchwil a rhaglenni cyfnewid i fyfyrwyr.

Rhannu’r stori hon