Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ym mhen draw byd

19 Gorffennaf 2018

ANU student office

Mae staff a myfyrwyr yn paratoi i deithio i ben draw’r byd yn enw ymchwil yn dilyn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Genedlaethol Awstralia (ANU).

Bydd y cytundeb yn arwain at raglen gyfnewid a ddatblygwyd ar gyfer myfyrwyr PhD o Gaerdydd ac ANU i gynnal, datblygu a meithrin perthynas ymchwil rhwng y ddau sefydliad.

Bydd arbenigwyr o Gaerdydd ac ANU hefyd yn edrych ar brosiectau ymchwil posibl ar y cyd mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin sy'n cynnwys: Polisi Cyhoeddus, Economeg, Datblygu Byd-eang a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Meddylfryd Rhyngwladol

Mae'r Memorandwm yn annog Caerdydd ac ANU i enwebu aelod cyfadran bob blwyddyn i fynychu'r sefydliad arall fel athrawon neu gymrodyr ymweliadol i wreiddio cydweithio, traddodi darlithoedd a chynnal gweithgareddau ymchwil.

“Mae meddylfryd rhyngwladol gan ein Hysgol ac fe'n harweinir gan ein strategaeth gwerth cyhoeddus sy'n ceisio cyflawni gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd ar draws Cymru a'r byd.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

“Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n canolbwyntio ar gydweithio ymchwil gydag ANU, prifysgol nodedig ar ochr arall y blaned, felly yn ategu ein gweledigaeth yn berffaith.

“Rwyf i'n edrych ymlaen at weld y cynnydd y bydd ein staff a'n myfyrwyr yn ei wneud yn Awstralia ac yn croesawu cyfeillion newydd o ANU i Gaerdydd hefyd.”

Llofnodwyd y Memorandwm gan yr Athro Kitchener a'r Athro Helen Sullivan, Cyfarwyddwr y Crawford School of Public Policy yn ANU, yn y 22ain Gymdeithas Ymchwil Rheolaeth Gyhoeddus Rhyngwladol yng Nghaeredin ddydd Iau 12 Ebrill 2018.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.