Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal Diwydiannau Teledu a Ffilm

21 Mehefin 2018

A Silhouette of a TV Camera
Sut mae asiantaethau sgrin yn cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd a diwylliannol?

Ymchwil newydd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant er mwyn astudio effaith asiantaethau sgrîn, fydd yr astudiaeth gymharol gyntaf o’i math ar raddfa eang.

Bydd y prosiect – fydd yn adolygu asiantaethau mewn saith o wledydd Ewrop – yn dogfennu ac yn asesu effeithiolrwydd asiantaethau er mwyn cael argraff gadarnhaol ar y diwydiannau ffilm a theledu.

Caiff yr ymchwil ei harwain gan Dr Caitriona Noonan, sy’n awdurdod ym meysydd cynhyrchu teledu, darlledu gwasanaeth cyhoeddus a pholisi diwylliannol.

Mae asiantaethau sgrîn megis Creative Scotland a Northern Ireland Screen yn ymyrryd yn uniongyrchol yn y sector ffilm a theledu drwy gyfrwng eu gwaith ariannu, hyfforddi, lobïo a threftadaeth, ac yn cynrychioli un o bileri amlycaf ymyriadau a ariennir yn gyhoeddus yn y diwydiannau sgrîn.

Yn ôl Dr Noonan, “Bydd y prosiect hwn yn ymestyn a dyfnhau ein dealltwriaeth o’r ffyrdd cymhleth y caiff ffilm a theledu eu cynhyrchu a'i dosbarthu.  Bydd hefyd yn archwilio sut y mae polisi diwylliannol yn cael ei wireddu’n ymarferol.

“Drwy gyfrwng eu prosesau gwneud penderfyniadau, dosbarthu adnoddau a rhaglenni cymorth, mae ganddynt y potensial i ddylanwadu’n sylweddol ar asedion ac allbynnau diwylliannol eu cenedl.

"Bydd y gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar rôl bwysig y sefydliadau hyn ar adeg hollbwysig o newid yn y sectorau ffilm a theledu.

"Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yn bennaf yw’r modd y mae eu gweithgareddau’n cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd a diwylliannol y sector sgrîn.”

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), sy’n ariannu’r prosiect dwy flynedd. Bydd yn cyhoeddi ei ganfyddiadau drwy gyfrwng cyfres o gyhoeddiadau gan gynnwys llyfr wedi’i olygu, briffio polisi, astudiaeth achosion ac adnoddau dysgu.

I ddod i wybod mwy, cysylltwch â’r Prif Ymchwilydd Dr Caitriona Noonan yn noonanc@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.