Ewch i’r prif gynnwys

70 mlynedd yn ddiweddarach: Cofio Gwarchae Berlin

20 Mehefin 2018

Y mis hwn, mae'n saith deg mlynedd ers dechrau Gwarchae Berlin, pan gafodd Lluoedd y Cynghreiriaid eu rhannu'n ddau grŵp ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, yn y cyfnod a gafodd ei alw'r Rhyfel Oer.

Ar ôl sicrhau buddugoliaeth dros yr Almaen Natsïaidd fe wnaeth Lluoedd y Cynghreiriaid, a unodd o ganlyniad i argyfwng yn unig, rannu'n ddau grŵp ag ideolegau cyferbyniol bron ar unwaith: Ffrainc, Prydain ac UDA – a'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol.

Dechreuodd Gwarchae Berlin, a drefnwyd gan Rwsia, ar 24 Mehefin 1948, a phara hyd at 12 Mai 1949.

Er nad hwn oedd y cyntaf, mae'n dal i gael ei ystyried yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y Rhyfel Oer, ac yn un sydd wedi gadael argraff barhaol.

Dywedodd y darlithydd mewn Hanes Cymru, Dr Marion Loeffler: "O ganlyniad i Warchae Berlin roedd yr Almaenwyr ar ddwy ochr y Llen Haearn yn wystlon mewn gêm o wyddbwyll i ennill grym byd-eang am dros bedwar degawd, hyd at gwymp Mur Berlin ym 1989."

"Ar adeg pan mae muriau'n dal i rannu cenhedloedd, mae 'llenni haearn' newydd yn cael eu codi, ac mae plant yn cael eu defnyddio i gynnal a chreu grym gwleidyddol a threchu gelynion, mae'n bwysig cofio gwersi'r Rhyfel Oer, o'r Gwarchae i'r cyfnod pan gafodd Mur Berlin ei adeiladu hyd at ei gwymp. Ni ddylai pobl gyffredin gael eu defnyddio fel arfau gwleidyddol.”

Mae gan Dr Loeffler, sy'n Gymrawd yr Academi Hanesyddol Frenhinol, ddiddordeb mewn sut mae bywydau a gwleidyddiaeth unigolion yn rhyngweithio, ynghyd â rôl iaith a chyfieithu i drosglwyddo gwybodaeth a chysyniadau, yn enwedig rhwng 1789 a chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei llyfrau'n cynnwys Political pamphlets and sermons from Wales [1790-1806], Welsh responses to the French Revolution: press and public discourse [1789-1802] a The literary and historical legacy of Iolo Morganwg [1826-1926].

Roedd yr hanesydd, a gafodd ei geni yn yr Almaen a'i magu yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, ac a welodd cwymp Mur Berlin yn uniongyrchol, ar raglen Heno S4C i fwrw goleuni ar y gwarchae yn ystod yr wythnos pen-blwydd y gwarchae.

Rhannu’r stori hon