Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnodolyn marchnata rhyngwladol yn rhoi Ysgol Fusnes Caerdydd ar y brig am effaith ymchwil

15 Mehefin 2015

Business school logo

Mae adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Fusnes Caerdydd ar y brig mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Australasian Marketing Journal. Maryland, Rice, Dartmouth a Duke yw'r goreuon wedi hynny

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Geoffrey N. Soutar (Adran Farchnata, Prifysgol Gorllewin Awstralia), Ian Wilkinson (Disgyblaeth Marchnata, Prifysgol Sydney) a Louise Young (Ysgol Busnes, Prifysgol Gorllewin Sydney), ac mae'n ceisio asesu effaith ymchwil academyddion marchnata yn fyd-eang.

Ar gyfer yr astudiaeth, defnyddiwyd metrigau dyfyniadau, sef cyfrif sy'n mesur y defnydd o waith ymchwil a ddyfynnwyd, a'i effaith, ar gyfer 2,263 o academyddion yn y 500 o brifysgolion ymchwil gorau sy'n ymddangos yn Academic Ranking of World Universities yn Awstralia, Seland Newydd, Canada, y DU ac UDA.  Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar allbwn rhwng 2001 a 2013, ac roedd yn defnyddio Mynegai H-G i gyfrifo safleoedd. Caiff hyn ei ystyried yn fesur trylwyr o effaith.

Wrth sôn am y canlyniadau, meddai'r Athro Robert E. Morgan, Athro Marchnata a Strategaeth Syr Julian Hodge yn Ysgol Fusnes Caerdydd: "Mae'n wych gweld yr astudiaeth newydd hon yn cadarnhau ansawdd rhagoriaeth yr ymchwil farchnata a'r academyddion sydd yma yng Nghaerdydd. Mae ein hadran yn gartref i amrywiaeth o ysgolheigion sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd pwnc, sy'n chwalu ffiniau ac yn gwthio'r ddisgyblaeth yn ei blaen. "

Ychwanegodd yr Athro Adam Lindgreen, Pennaeth yr Adran Marchnata a Strategaeth: "Mae'r dadansoddiad trylwyr hwn yn dangos cryfder a dyfnder yr ymchwil academaidd sy'n deillio o'r adran Farchnata. Ynghyd â chanlyniadau REF diweddar yr Ysgol, mae'n dangos yn glir fod Ysgol Fusnes Caerdydd yn sefydliad sydd ag enw da gwirioneddol fyd-eang. Mae ansawdd ein haddysgu yn cyfateb i'n rhagoriaeth ymchwil hefyd, ac mae ein myfyrwyr a'n graddedigion yn dyst i hynny."

Rhannu’r stori hon