Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid newydd ar gyfer prosiect ASTUTE

26 Chwefror 2018

Engineering work

Bydd busnesau gweithgynhyrchu Cymru yn elwa o £8m ychwanegol i ymestyn cynllun i’w helpu i gael gafael ar arbenigedd o'r radd flaenaf a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd arloesol.

Bydd y cyllid newydd hwn ar gyfer prosiect ASTUTE 2020 yn cysylltu busnesau ag academyddion o Brifysgol Caerdydd mewn ymgais i hybu arloesedd a datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau cynaliadwy a nwyddau cystadleuol ar gyfer y farchnad fyd-eang.

Defnyddir yr £8m o arian newydd gan Lywodraeth Cymru i estyn y cynllun y tu hwnt i Ogledd a Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru i gwmnïau gweithgynhyrchu yn Nwyrain Cymru.

Hyd yma, mae mwy na 30 o gwmnïau wedi cymryd rhan mewn trefniadau ymchwil ar y cyd drwy ASTUTE 2020, gan gwmpasu meysydd cydrannau gweithgynhyrchu megis offer meddygol, moduron ac awyrofod.

Mae’r academyddion sy’n perthyn i dri Choleg Prifysgol Caerdydd yn cynnal nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol arloesol gyda chwmnïau yng Nghymru ac ar hyn o bryd maent wrthi'n trafod gyda chwmnïau ar draws Dwyrain Cymru.

Dywedodd yr Athro Rossi Setchi, Cyfarwyddwr ASTUTE 2020 Caerdydd, sy’n rhan o Ysgol Beirianneg y Brifysgol:    "Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i roi mynediad i arbenigedd profedig o’r radd flaenaf i gwmnïau gweithgynhyrchu o Gymru, a chyfleusterau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys roboteg a systemau awtonomaidd, cynhyrchu digidol, gweithgynhyrchu ychwanegion a systemau gweithgynhyrchu yn y dyfodol.

"Mae ein cysylltiad agos â diwydiant yn sicrhau bod ymchwil ASTUTE 2020 yn berthnasol ac yn ystyrlon.  Mae’r ffocws yma ar ymchwil gymwysedig yn ein galluogi i weithio gyda rhai o gwmnïau byd-eang enwocaf y byd, a chyfrannu ar yr un pryd at anghenion y rhanbarth lleol trwy gydweithio â Busnesau Bach a Chanolig.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC : "Bydd buddsoddi yn ein sector gweithgynhyrchu i sbarduno arloesedd a datblygu technolegau a chynhyrchion arloesol yn arwain at fwy o gystadleurwydd oddi mewn i’r diwydiant a chyfleoedd cyflogaeth newydd.”

Mae ASTUTE 2020 yn gynllun £22.6m i Gymru gyfan sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng prifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd a De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Rhannu’r stori hon