Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr gorau'r byd yn rhannu syniadau mewn cynhadledd catalysis

12 Rhagfyr 2017

CCI machine

Bydd gwyddonwyr blaenllaw yn rhannu canlyniadau ymchwil arloesol yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Catalysis Caerdydd ym mis Ionawr.

Mae cynhadledd 2018 yn dod ag academyddion ac arweinwyr byd diwydiant at ei gilydd i gyflwyno eu canfyddiadau, gyda chyflwyniadau i gwmpasu'r amrywiaeth eang o ymchwil a wneir ar draws y Sefydliad.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd i gynnal rhaglen ragorol o gyflwyniadau gan wyddonwyr rhyngwladol adnabyddus, ond nid yw'r gynhadledd yn dathlu arbenigwyr sefydledig yn unig..."

"Mae ein digwyddiad yn galluogi myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol y Sefydliad i rannu'r un platfform ag uwch wyddonwyr, sy'n rhoi cyfle i rai o'n hymchwilwyr ifanc gorau i rannu eu hymchwil â chynulleidfa sy'n cynnwys arbenigwyr rhyngwladol yn eu maes."

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

Bydd y cyflwynwyr blaenllaw o Ewrop yn cynnwys:

  • Stig Helveg, o'r cwmni catalysis Danaidd Haldor Topsoe, sydd wedi astudio catalyddion ar waith gan ddefnyddio microsgopeg electron;
  • Fabrizio Cavani (Università di Bologna) sy'n ymchwilio i dechnegau catalysis wrth uwchraddio tanwyddau;
  • Laura Prati (Prifysgol Milan) a Petra de Jongh (Prifysgol Utrecht), sy'n ymchwilio i rôl copr i newid perfformiad aur fel catalydd.

Catalysis yw un o'r technolegau pwysicaf yn y byd diwydiannol. Caiff wyth deg y cant o'r holl ddeunyddiau a weithgynhyrchir eu creu gan ddefnyddio catalydd.

Mae'r darganfyddiadau diweddar gan Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cynnwys technegau newydd ar gyfer troi methan yn fethanol gan ddefnyddio aur fel catalydd. Mae'r tîm hefyd wedi datblygu proses gemegol newydd ar gyfer gweithgynhyrchu clorid finyl heb ddefnyddio mercwri, sy'n niweidiol, a chatalydd ar gyfer cynyddu faint o fiodanwydd a gynhyrchir drwy ailgylchu gwastraff.

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o gatalysis, yn datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant ac yn hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Cynhelir y digwyddiad hwn sy'n agored i bobl â gwahoddiad yn unig ar 9 a 10 Ionawr.

Rhannu’r stori hon

Mae’n cyfleuster arloesol yn cefnogi ymchwil sy’n arwain y byd yn y gwyddorau.