Ewch i’r prif gynnwys

San Francisco a'r 60au Hir

Cynhyrchodd cymuned wrth-ddiwylliannol San Francisco yn y 1960au ideolegau a mytholeg sy'n parhau i atseinio fwy na hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Yn 2011, dyfarnwyd Cymrodoriaeth AHRC i Dr Sarah Hill gwblhau ymchwil ar ei phrosiect ar raddfa fawr, hanes diwylliannol cerddoriaeth boblogaidd yn San Francisco, 1965-1969.

Ystyriodd y prosiect hwn adroddiadau hanesyddol a dderbyniwyd o'r amser, y cyfathrebiadau cerddorol, gweledol a llenyddol gan y gwrth-ddiwylliant, a gan aelodau o'r gymuned wrth-ddiwylliannol yn edrych yn ôl dros bedwar degawd.

Archwiliad o'r '60au byr' ydoedd - cyfnod arbrofi seicedelig (1965-1969) - ac ystyriaeth o'r '60au hir' - parhad yr ideoleg wrth-ddiwylliannol y tu hwnt i gyfyngiadau daearyddol ac amserol.

Allbwn

Cyhoeddwyd y monograff canlynol, San Francisco and the Long 60s, gan Bloomsbury Academic yn 2016.

"Gallaf geisio bod yn driw i ysbryd y prosiect a bod yn onest wrth adrodd profiadau'r bobl a oedd yn ddigon hael i rannu eu hatgofion gyda mi..."

Ysgrifennodd Dr Hill ar yr un pryd ar gyfer blog ymchwil yr Ysgol am darddiad ei gwaith ar San Francisco a'r 60au Hir a'i thaith ymchwil. Darllenwch y cofnod sydd wedi'i archifo.