Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal ymchwil ragorol i iechyd a gofal cymdeithasol

Health and Social Care

Mae isadeiledd ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn helpu i gynnal a chynyddu’r adnoddau a’r gallu ynghylch ymchwil a datblygu er iechyd, lles a ffyniant y boblogaeth.

Cyflawnir hynny yn raddol trwy ariannu canolfannau ac unedau ymchwil. Mae’r rheiny i gyd yn ymwneud â Chymru gyfan gan gynnal timau ymchwil amlochrog ac iddynt hanes rhagorol o roi sylw i feysydd sy’n bwysig i’r boblogaeth o ran iechyd a gofal cymdeithasol.

Canolfannau ymchwil

Y Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd y Meddwl

Diben Canolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl yw cydlynu’r ymchwilwyr ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe sy’n astudio achosion afiechyd y meddwl.

Meddai’r Athro Ian Jones, y cyfarwyddwr yno, "Mae’n dda gyda ni dderbyn yr arian ychwanegol yma trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd yn ein galluogi i ychwanegu at lwyddiant sylweddol y ganolfan hyd yma a bwrw ymlaen â gweithgareddau mewn meysydd newydd."

Rhagor o wybodaeth am Y Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd y Meddwl

Canolfan Ymchwil Cymru i Ganser

Canolfan Ymchwil Canser Cymru yw’r adnodd diweddaraf yn ymdrechion y wlad i drechu canser. Cyflwynwyd yn ffurfiol fis Hydref 2015 gan ddod â gobaith i gleifion canser ledled Cymru a’r tu hwnt.

Bydd y ganolfan yn cynnwys cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd ym mhob cam o’r gwaith. Daw hynny trwy argyhoeddiad cryf y dylai’r werin bobl gymryd rhan yn yr ymchwil (nid dim ond cael eu hastudio) a helpu ymchwilwyr i drefnu, cyflawni a chyflwyno eu gwaith.

Rhagor o wybodaeth am Canolfan Ymchwil Cymru i Ganser

Canolfan PRIME Cymru

Canolfan PRIME Cymru sy’n gyfrifol am ymchwil i’r sectorau gofal sylfaenol ac argyfyngol - sectorau hanfodol o ran ymchwil am fod dros 90% o’r holl gysylltiadau â chleifion yn digwydd yno a bod effeithlonrwydd y gyfundrefn yn dibynnu ar allu dau sector cryf o’r fath i gydweithio.

Mae’r effaith i’w gweld ar draws y sectorau, gan gynnwys: cryfhau gwydnwch teuluoedd trwy ymwelwyr iechyd, gwella iechyd y geg ymhlith plant, rheoli gofal brys yn effeithiol i bobl hŷn sy’n mynd i’r ysbyty yn aml o ganlyniad i godymau a phroblemau eraill, lleihau’r ymwrthedd gwrthficrobaidd, gwella diogelwch cleifion a hybu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar y claf.

Rhagor o wybodaeth am Canolfan PRIME Cymru

Unedau ymchwil

Uned Gwella’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Fewngreuanol (BRAIN)

Diben BRAIN (Uned Gwella’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Fewngreuanol) yw dod ag arbenigwyr o brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor at ei gilydd, ynghyd â staff GIG Cymru a’r byd diwydiannol, i lunio triniaeth newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol a niwroddirywiol.

Mae nifer o lwyddiannau erbyn hyn megis gosod electrod EEG mewn llawdriniaeth niwrolegol gyda chymorth robot i leddfu epilepsi (y cyntaf o’i fath erioed) a dyfeisio ffyrdd o alluogi cleifion ac arnyn nhw amryw broblemau niwrolegol a’u cynhalwyr i asesu eu sefyllfaoedd a’u hanghenion nhw trwy dechnoleg monitro o hirbell, taclau gwisgadwy neu ddyfeisiau craff.

Rhagor o wybodaeth am BRAIN

Uned Ymchwil Arennol Cymru

Mae gan Uned Ymchwil Arennol Cymru aelodau o bob uned arennol yn y wlad ac mae’n darparu seilwaith craidd i alluogi ymchwilwyr, staff clinigol, cleifion, teuluoedd a chynhalwyr i gydweithio wrth ateb cwestiynau pwysig am ymchwil gofal iechyd a chymdeithasol i glefyd yr arennau.

Mae gweithwyr o’r uned wedi ymweld â thros 30 o ysgolion a grwpiau cymunedol a chyfrannu i nifer o achlysuron y trydydd sector ledled y wlad megis unigolion a charfanau croenddu ac Asiaidd, pobl o dras leiafrifol, cymunedau difreintiedig a rhai ac arnyn nhw anghenion arbennig.

Rhagor o wybodaeth am Uned Ymchwil Arennol Cymru

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 28 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 28

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.