Ewch i’r prif gynnwys

Gweithiwch gyda ni

Rydym yn croesawu cyfleoedd i gydweithio gyda phartneriaid ac ymchwilwyr newydd.

Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â afonydd arbrofol yn Llyn Brianne.
Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld ag afonydd arbrofol yn Llyn Brianne.

Partneriaid llywodraeth, diwydiant a chyrff anllywodraethol

Mae'r Arsyllfa'n cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil rhanddeiliaid dŵr a defnydd tir sylweddol. Er enghraifft, rydym yn ffynhonnell cyngor polisi allweddol i Gyfoeth Naturiol Cymru am adfer o asideiddio, lliniaru, (ee. drwy ddefnyddio calch) a defnydd tir.  Mae'r safleoedd Llyn Brianne yn cynrychioli'r holl ddefnyddiau allweddol o'r tir yn ucheldiroedd Cymru, yn cynnwys conwydd, tir pori defaid a choetir collddail. Maent felly yn cynnig mynegai gwerthfawr am y newid yn yr amgylchedd ehangach.

Rydym yn croesawu trafodaethau gyda phartneriaid ymchwil newydd. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Cyfleoedd hyfforddiant ymchwil

Team of students with Llyn Brianne reservior in background

Bob blwyddyn, mae'r Arsyllfa'n cynnal nifer o brosiectau ymchwil, o israddedigion i gymrodorion ôl-ddoethurol. Mae llawer wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau uchel eu parch yn cynnwys APEM Ltd, Natural England a phrifysgolion.

Mae rhai wedi cynhyrchu papurau ymchwil Saesneg a ddyfynnwyd yn eang:

Os oes diddordeb gennych i wneud gwaith ymchwil yn Arsyllfa Llyn Brianne, cysylltwch â ni.

Ein data

Staff and students check experimental stream equipment

Lle'n addas, bydd data ar gael drwy'r EIDC, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), canolfan data a gynhelir gan y Ganolfan Ecoleg ac Hydroleg (CEH). Cysylltwch os hoffech ddefnyddio setiau data eraill.

Yr Athro Steve Ormerod

Yr Athro Steve Ormerod

Athro

Email
ormerod@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5871
Yr Athro Isabelle Durance

Yr Athro Isabelle Durance

Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Email
durance@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484