Ewch i’r prif gynnwys

Siemens Healthineers

Partneriaeth strategol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau meddygol o ansawdd uchel, delweddu a diagnosteg in vitro.

Mae'r gysylltiad yn adeiladu ar gydweithio dros ddeng mlynedd rhwng atebion gofal iechyd byd-eang a'r Brifysgol, gan gefnogi datblygiadau newydd mewn ymchwil ddelweddu o'r radd flaenaf a diagnosteg fanwl gywir.

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wrth galon y bartneriaeth, ac mae’n cyfuno technoleg cyseinedd magnetig (MR) o Siemens Healthineers gyda arbenigedd blaenllaw Prifysgol Caerdydd ar fapio’r ymennydd a datblygiadau clinigol.

Bydd y cydweithrediad strategol unigryw hwn yn cyflymu datblygiadau newydd yn sylweddol a fydd yn trawsnewid sut rydym yn deall ac yn trin clefydau niwrolegol, gan wneud CUBRIC yn ganolbwynt i Niwroddelweddu Ewropeaidd.

Wrth chwarae rhan ganolog yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall achosion cyflyrau niwrolegol yn well fel dementia, sgitsoffrenia, a sglerosis ymledol, mae'r bartneriaeth wedi ymrwymo i sicrhau creu effaith bositif a fydd yn newid bywydau a phrofiadau o’r rhai sydd yn y system gofal iechyd yn barod.

Mae prif themâu y Bartneriaeth Strategol yn cynnwys:

  • Delweddu meddygol
  • Diagnosteg fanwl gywir
  • Grŵp Therapïau Uwch (ar gynnydd)
  • Iechyd Ddigidol
  • Nodau ac amcanion

Nodau ac amcanion

Bydd y bartneriaeth yn cefnogi amcanion Siemens Healthineers ar draws y maes ymchwil a datblygu, talent, sgiliau, amrywiaeth a chyfrifoldeb dinesig a chymdeithasol.Gan gynnull partneriaid eraill o Gaerdydd, gan gynnwys y GIG, ei nod yw grymuso darparwyr gofal iechyd i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion am gost is, a hynny drwy ehangu meddygaeth fanwl gywir, gwella profiad cleifion, a digideiddio’r gofal iechyd.

Bydd y partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio ar ddatblygiadau newydd ym maes caledwedd MR, modelu bioffisegol a strategaethau caffael MR gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddatblygu protocolau caffael effeithlon i gofnodi 'olion bysedd' meinwe y microstrwythurau yng nghyd-destun iechyd, prosesau datblygiadol, heneiddio, a chyflyrau amrywiol clefydau.Bydd hyn yn trawsnewid y ddealltwriaeth o systemau biolegol cymhleth a bydd modd rhoi diagnosis a thriniaeth i gyflyrau niwrolegol a seiciatrig gan gynnwys dementia, epilepsi, sglerosis ymledol a sgitsoffrenia yn gynharach.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfuniad o ddulliau dadansoddi delweddu a biocemegol yn cynnig ffyrdd arloesol o roi diagnosis a thrin cyflyrau eraill gan gynnwys canser a chlefydau sy'n gysylltiedig â haint ac imiwnedd.

Prosiectau Cydweithredol

Mae cyfleusterau ymchwil CUBRIC yn cynnwys system MRI 3 Tesla MAGNETOM Skyra Connectom gan Siemens Healthineers, sganiwr MRI wedi'i addasu'n arbennig sydd â chryfder graddiant heb ei ail, a dim ond pedwar o'r rhain sydd yn y byd.

Mae'r bartneriaeth yn adeiladu ar ychwanegu at gydweithrediadau presennol ym maes diagnosteg labordy clinigol gan gynnwys:

  • Mae CUBRIC eisoes wedi croesawu un gwyddonydd o safle Siemens Healthineers, i ddatblygu prosiectau ar y cyd ag ymchwilwyr CUBRIC i greu newidiadau sylweddol yn y maes technoleg delweddu.
  • Mae CUBRIC eisoes wedi defnyddio dylanwad technoleg ddelweddu Siemens Healthineers i sicrhau incwm grant o fwy na £54.5 miliwn.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y bartneriaeth, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth y Brifysgol:

Victoria Harris

Strategic partnerships manager