Ewch i’r prif gynnwys

Beth ddeffrodd fy chwilfrydedd? Yr Athro Graham Hutchings

Dr Peter Johnston and Professor Graham Hutchings
Dr Peter Johnston and Professor Graham Hutchings

Mae’r Athro Graham Hutchings yn awdurdod blaenllaw drwy’r byd ar gatalysis, ac fe’I penodwyd yn ddiweddar yn Athro Regius mewn Cemeg. Bu’n siarad â Dr Peter Johnson, Ymgynghorydd Gwyddonol yn Johnston Matthey, am ei fywyd mewn gwyddoniaeth.

PJ: Beth sbardunodd eich angerdd dros wyddoniaeth?

GH: Roeddwn i’n awyddus i fod yn Gemegydd ers i mi fod yn 11 oed. Fe welais i fy arbrawf cyntaf - distyllu dŵr, toddiant porffor yn cael ei ferwi’n hylif di-liw. Cefais fy nghyfareddu. Dywedais wrth fy rhieni fy mod i’n awyddus i gael set cemeg, ac es ati i gynilo tan i mi gael y cyfarpar ymhen hir a hwyr. Rhoddais y cyfarpar at ei gilydd, ac roedd yn sigledig. Doedd cyfarpar yr athro ddim yn sigledig, felly rhoddais i gorcyn ynddo. Roeddwn i wedi creu system gaeedig. Es ati i’w wresogi, ac fe ffrwydrodd. Roedd yn un o’r adegau hynny pan rydych chi’n dweud “dyma beth rwyf i am ei wneud”.

PJ: Astudioch chi am PhD mewn cemeg fiolegol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ond mae eich gyrfa wedi bod ym maes catalysis. Pam newidioch chi?

GH: Yn y 60au hwyr a’r 70au cynnar roedd llawer o wyddoniaeth newydd yn ymddangos yn y maes biolegol. Roeddwn i’n gweld cemeg fiolegol fel pwnc i ymwneud ag e. Er i mi gael cynnig swyddi yn y Gwasanaeth Sifil Gwyddonol, mi dderbyniais i swydd yn ICI ar Lannau Tees. Cefais fy recriwtio fel cemegydd biolegol ond penderfynon nhw newid y prosiectau’n fuan cyn i fi gyrraedd. Cyrhaeddais i Lannau Tees a doedden nhw ddim yn gwybod beth redden nhw am i mi wneud, felly dywedon nhw wrthyf i am edrych drwy rai papurau. Roedd y papurau i gyd am fanadiwm ffosffad ar gyfer ocsidio bwtan felly’r eiliad honno fe ddes i’n berson catalysis heterogenaidd.

PJ: Beth a’ch ysgogodd chi i symud I academia?

GH: Penderfynais i y byddai’n well gen i fod yn academydd ac yn gyfrifol am fy nhynged fy hun yn hytrach na derbyn problemau diwydiannol i’w datrys yn rhannol. Bydden nhw’n hapus gyda’r datrysiad ond doeddwn i byth yn hapus gyda datrysiadau rhannol ac yn awyddus i weithio mwy arnyn nhw i sicrhau ateb cyflawn. Holl ddiben fy ngwaith yw gwneud arbrofion a darganfod rhywbeth newydd nad oes neb wedi’i ddarganfod o’r blaen. Dyna beth sy’n fy nghyfareddu ac yn fy ngyrru.

Holl ddiben fy ngwaith yw gwneud arbrofion a darganfod rhywbeth newydd nad oes neb wedi'i ddarganfod o'r blaen. Dyna beth sy'n fy nghyfareddu ac yn fy ngyrru.

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

PJ: Oedd eich cyfnod mewn diwydiant yn werthfawr fel cam ymlaen?

GH: Yn bendant. Pan ddes i’n academydd roedd gen i gymaint o syniadau i weithio arnyn nhw. Rwy’n credu bod ffordd o weithio mewn diwydiant sy’n agor meysydd nad yw’r mwyafrif o bobl yn edrych arnyn nhw. Yn un peth, fel diwydiannwr, rydych chi’n edrych ar lenyddiaeth patent yn agosach o lawer nag a wnawn ni fel academyddion.

Rwyf i bob amser yn cadw un cwestiwn syml yn fy meddwl: Oes modd cymhwyso hwn, oes modd defnyddio’r darganfyddiad hwn mewn unrhyw ffordd? Dywedodd Pasteur: “Yr unig bethau sydd i gael yw gwyddoniaeth gymhwysol a gwyddoniaeth sydd eto i’w chymhwyso.” Wrth weithio mewn diwydiant, fe welwch hynny’n uniongyrchol. Mae ymchwil academaidd pur yn wych, ond yn y pen draw bydd yn cael ei gymhwyso.

PJ: Ydych chi’n meddwl bod ymchwil nawr yn fwy cydweithredol, neu ai syniadau unigol sy’n bwysig o hyd?

GH: Mae lle i’r unigolyn weithio ar broblem anodd, ond os ydych chi’n wirioneddol am ddatrys y broblem mae angen i chi gydweithio gyda phobl sydd ag arbenigedd gwahanol. Mae angen i chi gyfuno’r ddamcaniaeth, gwyddoniaeth deunyddiau a nodweddion, sbectrosgopeg in situ er enghraifft, a does gan ddim un labordy neu wyddonydd yr holl arbenigedd angenrheidiol.

Pe bawn i'n iau, byddwn i wrth fy modd yn dod â beth rydym ni'n ei wybod am gatalysis biolegol ac ensymaidd i weithio gyda'r hyn rwyf i nawr yn ei wybod am gatalysisheterogenaidd.

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

PJ: Ym maes catalysis, beth ydych chi’n ystyried yw heriau’r dyfodol?

GH: Cwestiwn da iawn, Peter. Rwyf i eisoes wedi nodi rhai o’r heriau allweddol sydd wedi bod yma ers canrif ac sydd eto i’w datrys. Caiff metelau gwerthfawr eu defnyddio fel catalyddion sy’n adnodd anghynaliadwy oni bai ein bod yn eu defnyddio’n fwy effeithlon. Byddai’n beth gwych pe gallem ni ddefnyddio metelau sy’n ddigonol yn y ddaear i wneud yr adweithiau. Rhaid i ni edrych ar fioleg sy’n tueddu i ddefnyddio copr, haearn, magnesiwm a manganis.

Pe bawn i’n iau, byddwn i wrth fy modd yn dod a beth rydym ni’n ei wybod am gatalysis biolegol ac ensymaidd i weithio gyda’r hyn rwyf i nawr yn ei wybod am gatalysis heterogenaidd. Gyda’r cydadwaith rhwng y ddau hyn, rwy’n credu y gallem ni ddatrys y problemau hyn.

Pe baech chi’n dod yn ol ymhen 50 mlynedd, byddwn i’n synnu pe baem ni’n dal i ddefnyddio metelau gwerthfawr a gobeithio y byddem ni wedi trosglwyddo i ddefnyddio metelau y mae digon ohonyn nhw i’w gael.

PJ: Beth yw eich cynlluniau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol?

GH: Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn dda iawn ar gyfer catalysis. Mae wedi cydnabod catalysis fel gwyddor hanfodol at y dyfodol, gan ein galluogi ni i fynd i feysydd lle nad yw wedi’i gymhwyso’n draddodiadol, fel puro dŵr a chymwysiadau glanhau.

Mae symud Sefydliad Catalysis Caerdydd i’r Cyfleuster Ymchwil Trosiadol yn gyfle rhagorol. Er nad yw adeiladau’n gwneud ymchwil, y bobl sydd ynddyn nhw a’r cyfleoedd sy’n codi o’r symud hwnnw fydd yn ysbrydoli ymchwilwyr ifanc i ymgymryd a’r heriau newydd hyn. Rwy’n gobeithio y bydd gwaddol fy ymwneud a’r gwaith yn un bywiog, gydag ymchwilwyr ifanc yn gweithio ar draws maes eang catalysis.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Winter 2016

Pumed rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am yr effaith y mae ein gwaith ymchwil yn ei chael.

Yr ymchwilydd

Yr Athro Graham Hutchings

Yr Athro Graham Hutchings

Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

Email
hutch@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4059

Ysgol Academaidd

Chemistry student in laboratory

Yr Ysgol Cemeg

Mae ein hymchwil a’n haddysg sy’n arwain y byd yn mynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig y 21g.