Deall effaith Brexit ar Gymru
Prifysgol Caerdydd yw cartref arbenigwyr Brexit Cymru. Mae Canolfan Cymru a’r UE, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn brosiect sydd wedi’i greu i ddarparu a rhannu ymchwil amhleidiol ac annibynnol i Gymru a’r UE.
Yma mae’r newyddiadurwr uchel ei barch Huw Edwards (BA 1983) yn holi pedwar academydd blaenllaw ar ddyfodol Cymru yn dilyn penderfyniad etholwyr y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.
- Mae Dr Jo Hunt (JH), Uwch Gymrawd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn arwain prosiect o’r enw The UK in a Changing Europe: Legal Powers in Wales in the Context of UK Membership of the EU;
- mae Dr Rachel Minto (RM) yn ymchwilio i Brexit a gwleidyddiaeth ddatganoledig y DU;
- ac mae Ed Poole (EP) a Guto Ifan (GI) yn gweithio ar brosiect Adolygiad o Lywodraeth a Gwariant Cymru, sy’n dadansoddi gwariant cyhoeddus yng Nghymru, refeniwiau’r sector cyhoeddus a balans ariannol cyffredinol y wlad.

HE: Pa mor debygol ydyw y bydd safbwynt Cymru yn cael ei gynrychioli mewn unrhyw fodd ystyrlon mewn trafodaethau nad ydynt yn cynnwys Llywodraeth Cymru?
JH: Mae Prif Weinidog y DU wedi nodi’n glir y bydd yn ystyried y DU gyfan yn y trafodaethau. Y DU yw aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi tramor o hyd. O ran ei dylanwad yn y trafodaethau, nid yw Cymru mewn sefyllfa arbennig o gryf o gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill.
Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon fwy o ddylanwad. Mae’r Alban eisoes wedi codi’r syniad o gynnal ail refferendwm annibyniaeth a’r posibilrwydd o ymwahanu oddi wrth y DU; ac mae nifer o faterion cymhleth a sensitif i’w hystyried wrth i Ogledd Iwerddon adael yr UE, mewn perthynas â ffin galed bosibl â Gweriniaeth Iwerddon, y Broses Heddwch a chyd-ddibyniaeth economaidd.
Yn ogystal â’r cwestiynau penodol hyn y mae angen ymdrin â hwy, pleidleisiodd yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros yn yr UE. Nid oes gan Gymru ddylanwad o’r fath. Ar ben hynny, pleidleisiodd i adael yr UE. Felly, mae’n cymryd rhan yn y trafodaethau hyn o fewn y DU o sefyllfa gymharol wan.
HE: A yw’n debygol y bydd yn rhaid i Gymru dalu am fynediad parhaus i’r Farchnad Sengl fel rhan o fargen ar gyfer y DU gyfan?
JH: Mae perthynas y DU a’r Farchnad Sengl yn y dyfodol wrth wraidd y trafodaethau ynglŷn a Brexit. Nid ydym yn gwybod eto pa fath o berthynas y bydd y DU yn ceisio ei chael a’r Farchnad Sengl, heb son am y berthynas y bydd yn llwyddo i’w chael ar ol y trafodaethau a’r UE. Rhaid talu pris am aelodaeth lawn o’r Farchnad Sengl, drwy gyfraniadau at gyllideb yr UE
Mae’r Farchnad Sengl yn seiliedig ar bedwar rhyddid: rhyddid i symud nwyddau, gwasanaethau, cyfalaf a phobl. Mae’r olaf o’r rhain yn bwnc llosg gwleidyddol yn y DU, ac mae’n debygol o atal y DU rhag sicrhau bargen sy’n cynnwys aelodaeth barhaus o’r Farchnad Sengl.Byddai hefyd yn golygu nad oes modd Dewis “opsiwn Norwy”, gan fod Norwy hefyd wedi’i rhwymo gan y pedwar rhyddid hyn.
Yn fwy diweddar, rydym wedi clywed son am sicrhau “mynediad dilyffethair” i’r Farchnad Sengl. Nid yw’n gwbl glir beth mae gwleidyddion yn ei olygu wrth ddweud hyn, ond mae wedi cael ei gysylltu a mynediad di-dariff at fasnach a gwladwriaethau’r UE, felly mae’n debyg y byddai angen i’r DU fod yn rhan o’r Undeb Tollau. Mae’r Undeb Tollau hwn yn cwmpasu ffiniau mewnol ac allanol, sy’n golygu bod aelodau’r Undeb Tollau yn rhannu tariffau allanol cyffredin a thrydydd gwledydd. Felly, fel rhan o’r Undeb Tollau, ni fyddai modd i’r DU daro ei bargeinion masnach ei hun.
RM: Mae gan Gymru berthynas arbennig a’r Farchnad Sengl, o ystyried ei maint a phwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd ar gyfer diwydiannau penodol a nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru, er enghraifft y diwydiant bwyd-amaeth a’r diwydiannau awyrennol a modurol. Caiff ei pherthynas a’r Farchnad Sengl yn y dyfodol ei phennu gan y fargen derfynol rhwng y DU a’r UE.
Ar hyn o bryd, nid oes modd dweud pa gyfraniadau ariannol y gall fod yn rhaid i’r DU eu gwneud ar ol Brexit. Byddai angen cytuno ar unrhyw gyfraniadau cyllidebol gan y DU i’r UE fel rhan o’r broses o sicrhau perthynas ffafriol a’r Farchnad Sengl.

HE: A yw’n debygol y bydd yn rhaid i Gymru dalu am gynnal cynlluniau’r UE ar gyfer Cymru, gan gynnwys cynlluniau presennol a rhai sy’n ymestyn i’r dyfodol?
GI: Ym mis Awst, cyhoeddodd y Trysorlys y bydd yn gwarantu y caiff holl brosiectau’r cronfeydd strwythurol a buddsoddi eu hariannu’n llawn os cawsant eu cymeradwyo cyn i Ddatganiad yr Hydref gael ei gyhoeddi, gan sicrhau cyllid parhaus ar gyfer prosiectau o’r fath hyd yn oed ar ol i’r DU adael yr UE.Cafodd y warant hon ei hymestyn fis diwethaf (mis Hydref 2016) ar gyfer prosiectau a gymeradwywyd ar ol Datganiad yr Hydref, os ydynt yn bodloni amodau’r Trysorlys, sef eu bod yn cynnig gwerth da am arian ac yn cydfynd a’r blaenoriaethau strategol domestig.
Bydd lefel bresennol cyllid amaethyddol (o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin) hefyd yn cael ei gwarantu tan 2020, cyn y newid i drefniadau ariannu newydd.
EP: Tan 2020, bydd y rhan fwyaf o’r cyllid o raglenni’r UE yn parhau i fod y tu hwnt i’r grantiau bloc blynyddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gan y Trysorlys i dalu am wasanaethau datganoledig. Ceir ansicrwydd o hyd ynghylch sut y caiff y mathau hyn o brosiectau eu hariannu ar ol 2020.
O gofio bod Cymru’n cael tua 20% o’r holl gyllid rhanbarthol sydd ar gael gan yr UE i’r DU ar hyn o bryd (sy’n llawer uwch na’i chyfran o’r boblogaeth, sef tua 5%), mae’n dal yn bosibl y bydd yn rhaid i’r cyllid ar gyfer ariannu meysydd datganoledig amaethyddiaeth a datblygu rhanbarthol yn y dyfodol ddod o’r un gronfa sy’n ariannu gwasanaethau datganoledig eraill, megis addysg ac iechyd.

HE: Pa mor gredadwy yw’r warant a roddwyd gan Andrew R T Davies AC, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, (mewn cyfweliad ar raglen The Wales Report y BBC) na fyddai Cymru’n colli ei lefel gyllido bresennol o gwbl ar ôl Brexit?
RM: Dylid cofio rhai pwyntiau wrth ystyried cyllid i Gymru ar ol Brexit. Yn gyntaf, bydd angen cyllid domestig ar gyfer polisi rhanbarthol a pholisi amaethyddol. Fel rydym wedi dweud, nid yw Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd lefelau cyllido presennol ar gyfer polisi rhanbarthol na pholisi rhanbarthol yn cael eu cynnal, ac mae hyn yn llai tebygol fyth yn achos economi lai. Yn ail, sut y bydd unrhyw ddyraniad cyllid ychwanegol yn cael ei gyfrifo? Mae cyllid yr UE i’r DU yn seiliedig ar anghenion, gyda Chymru’n cael llawer mwy y pen o’r boblogaeth na Lloegr o’r Cronfeydd Strwythurol a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
I’r gwrthwyneb, mae’r trefniant presennol ar gyfer dyrannu cyllid i Gymru gan Lywodraeth y DU (fformiwla Barnett) yn seiliedig ar wariant y pen yn Lloegr. O ystyried y gwahaniaeth y pen rhwng y cyllid a roddir gan yr UE i Gymru a Lloegr, byddai Cymru ar ei cholled yn ddifrifol pe bai’r grant bloc i Gymru yn cael ei addasu gan ddefnyddio’r dull presennol.
Darllenwch y cyfweliad llawn
Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn gaeaf 2016 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Winter 2016
Pumed rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am yr effaith y mae ein gwaith ymchwil yn ei chael.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Canolfan Cymru a’r UE
Dysgwch fwy am y prosiect, sy’n cynnig ac yn dosbarthu ymchwil amhleidiol ac annibynnol yng Nghymru a’r UE.
Yr ymchwilwyr

Guto Ifan
Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol - cyfrwng Cymraeg
- Siarad Cymraeg
- ifandg@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 4626

Dr Ed Poole
Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Siarad Cymraeg
- pooleeg@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5574