Mae’r Writing Lab yn creu mannau lle gall cysylltiadau rhyngddisgyblaethol annisgwyl ddatblygu. Ein nod yw meithrin diwylliant ymchwil creadigol a chymuned gynhwysol drwy arfer a chrefft rannu: ysgrifennu.
Rydym yn cyflawni hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys siaradwyr gwadd, cydweithrediadau a gweithdai rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Cynhelir gweithdai’n anffurfiol gan aelodau ac maent yn archwilio gwahanol genres ysgrifennu – o ffuglen a barddoniaeth i ffeithiol greadigol a chofiant. Defnyddir amrywiaeth o ymarferion, ysgogiadau a thechnegau, wedi’u themâu’n fras o amgylch pobl a lleoedd.