Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Cymru er Ymchwil ar Economeg a Datblygu

Ein nod yw ysgogi a meithrin gallu ymchwil sy'n berthnasol i economi a chymdeithas Cymru yn ogystal ag i'r byd ehangach.

Mae'r Sefydliad yn ymgymryd â mentrau ymchwil a pholisi sy'n arbennig o berthnasol i Gymru ond sydd hefyd o ddiddordeb mwy cyffredinol i'r DU, gweddill Ewrop a'r byd ehangach.

Mae ein hymchwil yn cychwyn ar heriau mawr ein hoes, gan gynnwys y rheini rhwng bodau dynol a natur (e.e. cynaliadwyedd) ac o fewn cymdeithas ddynol (e.e. anghydraddoldeb), yn y tymor byr (e.e. dirwasgiadau, argyfwng cost byw) ac yn y tymor hir (e.e. twf, datblygiad).

Ein bwriad yw y bydd ein hymchwil o fudd i gymuned wleidyddol a busnes Cymru gan fod yn ysgogiad gwerthfawr i ymchwil a gweithgareddau eraill ar y cyd ledled y byd.

Ymhlith y pynciau ymchwil diweddar y mae:

  • Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
  • Datganoli Cyllidol
  • Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau)
  • Iechyd a Gofal Iechyd
  • Effeithiolrwydd yn yr Ysgol
  • Economeg Ryngwladol
  • Twf Economaidd
  • Arian, Bancio a Chyllid
  • Technolegau Tarfol

Ymchwil

Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

Arloesi yw sbardun sylfaenol twf economaidd, ond mae gan “fewnbynnau” arloesi, sef Ymchwil a Datblygu oblygiadau allanol oherwydd natur nwyddau cyhoeddus gwybodaeth. Rydyn ni’n ymchwilio i effeithiau goferu Ymchwil a Datblygu, effeithiau arloesi ar gynhyrchiant a’r goblygiadau o ran byd polisi.

Gweler hefyd: Effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd polisïau arloesol BBaChau a Dr Peng Zhou – Arloesi

Datganoli Cyllidol

Bu tuedd mewn sawl gwlad i ddatganoli pwerau cyllidol i lywodraethau is-genedlaethol. Yng nghyd-destun datganoli trethi yng Nghymru, mae Foreman-Peck a Zhou yn datblygu dull anuniongyrchol o sefydlu effeithiau refeniw y terfyn isaf yn achos newidiadau posibl mewn trethi datganoledig drwy ganiatáu ar gyfer ymfudo a ysgogir gan drethi. Yng nghyd-destun datganoli gwariant yn Tsieina, rydym yn cynnig y ffederaliaeth gyllidol orau posibl i gydbwyso lles a thwf.

Gweler hefyd: Dr Peng Zhou (Joe) - Datganoli

Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau)

Sefydlodd y Cenhedloedd Unedig 17 Nod Datblygu Cynaliadwy (NDCau). Mae'r nodau hyn yn ymwneud â meithrin cytgord rhwng y natur ddynol a’r ymwneud rhwng pobl a’i gilydd. Rydym yn ymchwilio i rolau cyllid gwyrdd, anghydraddoldeb economaidd ac ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd wrth gyflawni NDCau.

Gweler hefyd: Dr Peng Zhou – Nwyddau Sylfaenol

Iechyd a Gofal Iechyd

Angen sylfaenol yw iechyd ac mae gofal iechyd yn wasanaeth hanfodol. Rydym yn ymchwilio i achosion ac effeithiau iechyd yn ogystal â fframweithiau gwerthuso gwasanaethau gofal iechyd.

Effaith ar bolisïau: Adolygiad o addasiadau byw'n annibynnol, Llywodraeth Cymru 2015.

Effeithiolrwydd yn yr Ysgol

Mae’r deunydd sydd ar gael ar berfformiad mewn ysgolion hefyd yn codi cwestiynau ynghylch beth yw maint mwyaf effeithiol chweched dosbarth ysgolion a'r effaith negyddol bosibl ar gyrhaeddiad CA4 mewn ysgolion lle bydd chweched dosbarth bach yn cael ei ariannu hwyrach gan gyllidebau nad ydynt yn ymwneud â’r chweched dosbarth. Yng ngoleuni'r pryderon uchod, comisiynodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad o effaith maint chweched dosbarth ysgolion ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 5 (CA5), gan reoli ar gyfer sgoriau arholiadau dwy flynedd ynghynt (h.y. CA4).

Economeg Ryngwladol

Yn yr economi fodern ceir system fasnachu fyd-eang, marchnad ariannol a marchnad lafur. Rydym yn ymchwilio i achosion ac effeithiau gweithgareddau economaidd y dimensiynau rhyngwladol hyn.

Gweler hefyd: The costs to the UK of language deficiencies as a barrier to UK engagement in exporting

Twf Economaidd

Mae datblygiad ariannol yn hanfodol ar gyfer twf economaidd yn yr oes fodern, ond siociau marwolaeth (dethol naturiol) a phatrymau priodasol (dethol teuluol) yw'r grymoedd sy'n gwthio cymdeithas ddynol o'r trap Malthusaidd. Mewn model sy’n dangos twf unedig empirig, mae Foreman-Peck a Zhou yn dangos i’r Chwyldro Diwydiannol gael ei sbarduno gan y trychinebau demograffig yn sgil y Pla Du.

Arian, Bancio a Chyllid

Bydd cylchoedd busnes modern yn cael eu hysgogi'n bennaf gan aflonyddwch cynhyrchiant (Clasurol Newydd), polisïau ariannol (Keynesaidd Newydd), a chylchoedd credyd (Monetariaeth Newydd). Rydym yn ceisio deall mecanweithiau micro a macro sy'n sail i gylchoedd busnes megis bancio cysgodol, y wasgfa gredyd, a rhyddfrydoli.

Technolegau Tarfol

Mae technolegau tarfol yn cyfeirio at ddatblygiadau arloesol neu ddatblygiadau sy'n newid yn sylweddol y ffordd y bydd cynnyrch yn cael ei greu, gwasanaethau'n cael eu darparu neu’r ffordd y bydd diwydiannau’n gweithio, gan arwain yn aml at drawsnewid sylweddol yn nhirwedd y farchnad bresennol. Rydym yn ymchwilio i’r ffordd y bydd technolegau torfol megis Deallusrwydd Artiffisial, blockchain a data mawr yn cael eu mabwysiadu a’u defnyddio yn ogystal â goblygiadau’r rhain.

Ymchwilwyr PhD

  • Shijie Jin (cyllid gwyrdd)
  • Xueying Hu (polisi ariannol)
  • Ran Zhang (cyllid gwyrdd)
  • Shuhao Zhang (blockchain a chyllid datganoledig)

Ysgolheigion gwadd

Digwyddiadau

Mater Arbennig ar Gynaliadwyedd ac Arloesi

Cyhoeddodd Dr Peng Zhou y mater arbennig ar "Entrepreneuriaeth ac Arloesi Agored o Safbwynt Modelau Busnes Cynaliadwy" yn y cyfnodolyn Sustainability (SSCI, JCR Q1 mewn Daearyddiaeth, Cynllunio a Datblygu, ffactor effaith 3.9). Croeso i gyflwyno eich papur.

Deadline: 12 May 2024.

Cyfres Gweithdai WIRED 2023

Cynhaliwyd Gweithdy WIRED ar Adolygu Llenyddiaeth Systematig yn llwyddiannus ar 26 Hydref 2023. Cyflwynodd Dr Peng Zhou, cyfarwyddwr WIRED, y dull newydd hwn o ymdrin â myfyrwyr y gyfadran economaidd/cyllid a PhD. Cyflwynodd y digwyddiad hefyd ddwy astudiaeth achos ddefnyddiol gan Shijie Jin (Adran A&F) ac Ying Zhang (Prifysgol Surrey). Denodd y gweithdy hybrid dros 20 o economegwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Loughborough, a Phrifysgol Economeg a’r Gyfraith Zhongnan (Tsieina). Mae'r recordiad Gweithdy WIRED ar gael ar-lein.