Y Rhwydwaith Iechyd Byd-eang
Er bod diffiniadau o iechyd byd-eang yn amrywio, yn gyffredinol mae'n canolbwyntio ar wella tegwch iechyd ac iechyd i bawb ledled y byd, gan fynd i'r afael â bylchau mewn ymchwil a darparu gwasanaethau iechyd i boblogaethau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol.
Ein hamcanion
Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Prifysgol Caerdydd i ddatblygu a chefnogi ymchwil ryngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol ar iechyd byd-eang yn y brifysgol a thu hwnt, ac i ddod â phobl â phrofiad byw, academyddion, clinigwyr a staff prifysgol sy'n ymwneud ag ymchwil iechyd byd-eang at ei gilydd. Ein nod yw meithrin amgylchedd dysgu cefnogol.
Ymhlith ein hamcanion hirdymor y mae cefnogi dysgu rhwng Cymru a'r DU a chydweithredwyr rhyngwladol a chefnogi proffil ymchwil ac addysgu iechyd byd-eang yng Nghymru.