Ewch i’r prif gynnwys

Yn mynd i'r afael â heriau yr unfed ganrif ar hugain sy’n ymwneud â’r amgylchedd, ecoleg a difodiant sy'n deillio o'r argyfwng hinsawdd, cynhesu byd-eang, dirywiad ecolegol ac ecosystemau, cwymp bioamrywiaeth, difodiant torfol rhywogaethau, a phrinder dŵr.

Cefndir

Mae'r Grŵp yn gymuned gynhwysol sy'n integreiddio ymchwilwyr ym maes yr amgylchedd, ecoleg a difodiant o ddisgyblaethau busnes a llywodraethu eraill gan gynnwys rheoli arian, rheoli, marchnata, strategaeth, busnes rhyngwladol, logisteg, rheoli ym maes adnoddau dynol a gweithrediadau, yn ogystal â disgyblaethau academaidd eraill. Mae pob un o’n gweithgareddau ymchwil yn cyfrannu at strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r Grŵp EEEAGER yn gweithredu fel fforwm ar gyfer ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol o'r byd academaidd ac ymarfer ym meysydd cyfrifyddu, llywodraethu ac economeg, er mwyn iddynt gyfarfod, rhannu syniadau a chydweithio i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol ac ecolegol hynny mae sefydliadau trwy ystod pob sector, a'u rhanddeiliaid, yn eu hwynebu heddiw.

Bydd ymchwil cydweithredol o'r fath yn arwain at ddatblygu fframweithiau, offer, mecanweithiau ac atebion damcaniaethol ac ymarferol y gellir eu defnyddio'n ymarferol er mwyn datrys yr heriau hyn, neu o leiaf gymryd camau tuag at atebion ar eu cyfer.

Bydd y Grŵp EEEAGER yn cyfrannu at amcan yr Ysgol o gynhyrchu ymchwil rhagorol yn rhyngwladol trwy fod yn fforwm i ymchwilwyr o'r un anian o bob cwr o'r byd gyfarfod, cyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau ymchwil, ysgrifennu a chyhoeddi papurau a llyfrau gyda'i gilydd, gwneud cais am gyllid ymchwil a chynhyrchu allbynnau ymchwil o'r ansawdd uchaf ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol mwyaf blaenllaw y byd.

Bydd gwaith y Grŵp EEEAGER hefyd yn arwain at effeithiau sylweddol ar sefydliadau, y gymdeithas a'r amgylchedd.

Hanes y grŵp

Mae'r Grŵp EEEAGER yn rhoi cartref corfforol yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer y Rhwydwaith EAGR ar-lein sy’n bodoli eisoes (Ymchwil ym maes Cyfrifeg a Llywodraethu o ran Difodiant) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2021 yn ystod y pandemig yn rhwydwaith ar-lein o ymchwilwyr rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol sy'n cynnal seminarau ar-lein rheolaidd o dan y teitl 'IFEAR4FUTURE'. Rydym yn parhau â'r gyfres hon o seminarau ar-lein gyda seminarau a hefyd trafodaethau gan unigolion, yn rheolaidd felly, drwy gydol y flwyddyn.

Dyma’r tîm

Y tîm rheoli

Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd

Cyd-gyfarwyddwyr

Picture of Hui Situ

Dr Hui Situ

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg

Telephone
+44 29208 74271
Email
SituH1@caerdydd.ac.uk

Aelodau o’r staff academaidd

Picture of Carmela Bosangit

Dr Carmela Bosangit

Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata

Telephone
+44 29208 76915
Email
BosangitC@caerdydd.ac.uk
Picture of Joanne Cable

Yr Athro Joanne Cable

Pennaeth Organeddau ac Is-adran yr Amgylchedd

Telephone
+44 29208 76022
Email
CableJ@caerdydd.ac.uk
Picture of Roberta De Angelis

Dr Roberta De Angelis

Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth

Telephone
+44 29208 76631
Email
DeAngelisR@caerdydd.ac.uk
Picture of Carla Edgley

Yr Athro Carla Edgley

Athro Cyfrifeg a Chyllid

Telephone
+44 29208 76567
Email
EdgleyCR@caerdydd.ac.uk
Picture of Bo Guan

Dr Bo Guan

Darlithydd mewn Cyllid

Telephone
+44 29225 11772
Email
GuanB1@caerdydd.ac.uk
Picture of Dylan Henderson

Dr Dylan Henderson

Darlithydd mewn Arloesi a Threfniadaeth

Telephone
+44 29208 76928
Email
HendersonD3@caerdydd.ac.uk
Picture of Simon Norton

Dr Simon Norton

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg

Telephone
+44 29208 76675
Email
NortonSD@caerdydd.ac.uk
Picture of Ken Peattie

Yr Athro Ken Peattie

Athro Marchnata a Strategaeth, Cyfarwyddwr BRASS

Telephone
+44 29208 79691
Email
Peattie@caerdydd.ac.uk
Picture of Ivana Rozic

Dr Ivana Rozic

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Email
RozicI@caerdydd.ac.uk
Picture of Maki Umemura

Dr Maki Umemura

Darllenydd mewn Rheolaeth Ryngwladol a Hanes Busnes

Telephone
+44 29208 75484
Email
UmemuraM@caerdydd.ac.uk
Picture of Yizhi Wang

Dr Yizhi Wang

Darlithydd mewn Cyllid

Telephone
+44 29225 13227
Email
WangY510@caerdydd.ac.uk

Myfyrwyr ôl-raddedig

Picture of Dewi Wulansari

Ms Dewi Wulansari

Myfyriwr ymchwil

Email
WulansariD@caerdydd.ac.uk
  • Martina Macpherson

Digwyddiadau

Dr Saori Sugeno (Prifysgol Surrey) a'r Athro Jill Atkins (Prifysgol Caerdydd) - Seminar ar-lein

28 Ebrill 2025

'Sut mae sefydliadau ariannol yn ymgysylltu â’r Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol Cysylltiedig â Natur: Dadansoddiad cymharol gan fabwysiadwyr cynnar Japan (Grŵp Ariannol Mitsubishi UFJ o’i gymharu â Asset Management One)'

Galwad Gyntaf am Bapurau

Ail Gynhadledd Ryngwladol a Cholocwiwm Doethurol EEEAGER

17 a 18 Mehefin 2025

Y Grŵp Ymchwil ym meysydd yr Amgylchedd, Ecoleg a Difodiant, Llywodraethu ac Economeg

Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, y DU
Y Ganolfan Addysgu i Ôl-raddedigion (PTC), Ystafell 2.02/2.01

Mae gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol ar ddiogelu bioamrywiaeth, adfer natur, ac ail-wylltio ar gynnydd sylweddol o ystyried yr argyfwng byd-eang sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ddirywiad bioamrywiaeth ac ecosystemau, ynghyd â difodiant rhywogaethau. Fforwm yw’r grŵp EEEAGER, sy’n galluogi ymchwilwyr i gyfarfod a thrafod eu gwaith ymchwil ar y meysydd hyn. Bydd y ffocws yn un rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol, ond wedi'i seilio ar y disgyblaethau canlynol: cyfrifeg a chyllid, economeg, llywodraethu a meysydd cysylltiedig ym maes busnes.

Mae ymdrechion byd-eang ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â bioamrywiaeth a cholli natur drwy raglenni ail-wylltio, a hynny yn unol â COP29, Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs), Cyfraith Adfer Natur yr UE, a mentrau rhyngwladol eraill. Mae fframweithiau cyfrifyddu newydd, megis y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn ymwneud â Natur (TNFD), Y Protocol Amrywiaeth Fiolegol (BD), y Fenter Adrodd Fyd-eang ddiweddaraf (GRI) a Chyfarwyddeb Adrodd Cynaliadwyedd Corfforaethol yr UE (CSRD), i gyd yn cynnig canllawiau, ac i ryw raddau, rheoliadau ar adrodd corfforaethol / sefydliadol yn y meysydd hyn. Yn yr un modd, gweler datblygiadau helaeth yn y marchnadoedd ariannol sy’n caniatáu i gyllid sylweddol ariannu prosiectau adfer natur ac ail-wylltio, megis ymddangosiad bioamrywiaeth a chredydau natur.

Mae’r buddion economaidd ynghlwm wrth ecosystemau iach yn cael eu cydnabod yn gynyddol gan fusnesau, llywodraethau a chymdeithasau o bedwar ban byd, yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth. Mae’r galw cynyddol am fynd i’r afael â cholli rhywogaethau ar frys yn rhywbeth sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang, yn ogystal ag ymdrechion i ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl, a datblygu rhaglenni dad-ddifodiant.

Ar gyfer ail gynhadledd a cholocwiwm doethurol EEEAGER, dyma wahodd ysgolheigion o ledled y byd i gyflwyno crynodebau i’w hystyried yn y meysydd a ganlyn, ond hefyd unrhyw bynciau ymchwil ryngddisgyblaethol eraill:

  • Cyfrifeg a llywodraethu yng nghyswllt carbon
  • Cyfrifeg a sicrwydd amgylcheddol
  • Cyfrifeg, atebolrwydd a sicrwydd at ddiben adfer natur a bioamrywiaeth
  • Cyllido i adfer natur, ail-wylltio a dad-ddifodiant
  • Ymchwil i gyflwyno'r TNFD, y Protocol Amrywiaeth Fiolegol (BD) a fframweithiau cyfrifyddu ac adrodd eraill sy'n gysylltiedig â natur
  • Darluniau rhyngwladol o gyfrifeg a chyllid sy'n gysylltiedig â natur a bioamrywiaeth
  • Rôl ac esblygiad fframweithiau llywodraethu ecolegol a difodiant
  • Cyfrifeg er diogelu rhywogaethau a chyfrifo difodiant
  • Dadleuon athronyddol a moesegol ynghylch diogelu bioamrywiaeth, adfer natur, ail-wylltio a dad-ddifodiant, a sut mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifeg, atebolrwydd, cyllid a sicrwydd.

Rydyn ni hefyd yn croesawu ymchwil sy'n defnyddio ystod eang o ddulliau methodolegol, gan gynnwys dulliau ansoddol, meintiol, deongliadol a damcaniaethol. Y dyddiad cau cyflwyno ar gyfer yr ail gynhadledd hon yw 31 Mawrth 2025. Er hynny, dyma argymell ichi gyflwyno’ch crynodebau’n gynnar, gan mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Anfonwch eich crynodebau at Jill Atkins (atkinsj10@caerdydd.ac.uk), a Hui Situ (situH1@caerdydd.ac.uk). Gan edrych ymlaen at eich croesawu chi i Ysgol Busnes Caerdydd ym mis Mehefin.

Bydd y manylion cofrestru ar-lein ar gael maes o law.

Digwyddiadau blaenorol

DyddiadMath o Ddigwyddiad/LleoliadGwybodaeth
7 Mawrth 2025Seminar ar-lein     Yuhua Huang (Ymgeisydd PhD, Prifysgol Caerdydd) 'Effaith gweithredu polisi Masnachu Carbon ar berfformiad cwmnïau rhestredig o Tsieina'
6 Rhagfyr 2024Seminar Ar-leinNina Hasche a Leanne Johnstone (Prifysgol Örebro, Sweden) a Gabriel Linton (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Canolbarth Norwy, Norwy) ‘(Ail) gysyniadu gwerth at ddibenion gwasanaethau ecosystemau: dull ar sail rhwydwaith’
29 Tachwedd 2024Seminar Ar-lein

Annog datblygiad 'Busnes a Bioamrywiaeth' yn Tsieina drwy fframwaith cyfrifo ac ymgysylltu rhyddfreiniol sy'n canolbwyntio ar fioamrywiaeth ac sy'n cynnwys rhanddeiliaid.

Dr Longxiang Zhao (Prifysgol Caerwysg) a'r Athro Jill Atkins (Prifysgol Caerdydd)

20 Medi 2024Seminar Ar-leinGloria Chen, Prifysgol Macau 'Datgelu Gwybodaeth am yr Economi Gylchol gan Gwmnïau Rhestredig Hong Kong - Data gan Ddiwydiannau Deunyddiau Dewisol a Phrif Ddiwydiannau Defnyddwyr’
11-12 Ebrill 2024Cynhadledd Agoriadol EEEAGER yn Ysgol Busnes Caerdydd.O ystyried yr angen brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau, mae'r gynhadledd hon yn cynnig fforwm i ymchwilwyr rannu eu hymchwil a cheisio atebion i'r heriau hyn. Ar ben hynny, bydd y gynhadledd hon o gymorth o ran datblygu cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol, yn ogystal â datblygu a gweithredu fframweithiau newydd.
11 Mehefin 2024Seminar hybridDr Matthew Scobie, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd 'Atebolrwydd rhwng cenedlaethau mewn cyfnod o bontio teg'
15 Mai 2024Seminar hybridMartina Panero, Prifysgol Turin, yr Eidal ac ymchwilydd gwadd, Prifysgol Caerdydd, a Jill Atkins, Prifysgol Caerdydd ‘Ystyried Cyfrifeg Amgylcheddol, Ecolegol a Difodiant yng Nghyfrifon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 1885 – 2024’
2 Chwefror 2024SeminarJohn Peirce, Ysgol Busnes Caerdydd 'A New Measure of Quality in the English and Welsh Water and Sewerage Industry'