Ewch i’r prif gynnwys

Mae Banc y Byd (2021) yn diffinio ‘Cyllid Cynaliadwy’ fel “y broses o roi ystyriaeth ddyledus i ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) wrth wneud penderfyniadau buddsoddi yn y sector ariannol, gan arwain at fuddsoddiadau mwy hirdymor mewn gweithgareddau a phrosiectau economaidd cynaliadwy.”

Mae Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd yn gwahodd ysgolheigion sy’n gweithio ar wahanol feysydd cynaliadwyedd yn ogystal â chyllid ac yn hyrwyddo ymchwil cydweithredol a thrawsnewidiol i bontio’r bwlch rhwng meysydd eang yr astudiaethau hynny. Drwy wneud hynny, mae'r grŵp yn cymryd rhan mewn gweithgareddau academaidd sy'n cefnogi ethos 'Gwerth Cyhoeddus' Ysgol Busnes Caerdydd yn uniongyrchol.

Nodau

  • hwyluso ymchwil rhyngddisgyblaethol ar gynaliadwyedd a chyllid ar draws adrannau, ysgolion a phrifysgolion
  • cefnogi athroniaeth ‘Gwerth Cyhoeddus’ Ysgol Busnes Caerdydd drwy gysylltu aelodau’r grŵp â rhanddeiliaid allanol i roi gwybod iddynt am eu hymchwil ar gyllid cynaliadwy
  • hyrwyddo Ysgol Busnes Caerdydd fel un o’r canolfannau blaenllaw ar gyfer ymchwil ar gynaliadwyedd a chyllid
  • cefnogi ysgolheigion i gyflawni ymchwil o ansawdd uchel sy'n cael effaith sy'n cyfrannu at amrywiol feysydd pwnc cyllid cynaliadwy

Cwrdd â'r tîm

Cyfarwyddwr

Staff academaidd

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Cyhoeddiadau

Newyddion ac adnoddau

Adnoddau defnyddiol

Newyddion

Digwyddiadau

Seminar: Sut i fesur cynaliadwyedd yn y system iechyd, Athro Iga Rudawska

Dydd Llun 28 Ebrill, 12:00-14:00, Y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig

Crynodeb

Mae ymchwilwyr wedi rhoi pwyslais cynyddol ar werthuso perfformiad o ran cynaliadwyedd mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys gofal iechyd. Serch hynny, ceir diffyg consensws ynghylch pa fethodolegau sy’n briodol i asesu cynaliadwyedd mewn systemau iechyd, yn enwedig mewn perthynas â fframweithiau mesur perfformiad Sefydliad Iechyd y Byd a’r OECD.

I ymateb i'r bwlch hwn, mae'r astudiaeth hon yn cyflwyno fframwaith cysyniadol a strwythuredig er mwyn gwerthuso pa mor gynaliadwy yw systemau iechyd. Mae'r fframwaith yn defnyddio dull methodolegol newydd – SSP-COPRAS – sydd wedi’i seilio ar dechneg Asesiad Cymesurol Cymhleth. Mae'r dull hwn yn hwyluso’r gwaith o greu dadansoddiad cynhwysfawr o ddimensiynau allweddol cynaliadwyedd, sef tegwch, ansawdd, ymatebolrwydd, sicrwydd ariannol, a'r gallu i addasu.

At hynny, mae'r model arfaethedig yn ein galluogi i wneud cymariaethau trawswladol, gan gynnig arweiniad gwerthfawr i lunwyr polisi iechyd gael gwneud penderfyniadau strategol. Mae canfyddiadau empirig yn dangos mai systemau iechyd Norwy, yr Iseldiroedd, yr Almaen, a Gwlad Belg yw’r rhai mwyaf cynaliadwy, ac mai gwledydd Canolbarth a Dwyrain Ewrop fel Gwlad Pwyl, Hwngari, a Latfia sy’n perfformio waethaf.

Bywgraffiad

Iga Rudawska – PhD, Athro mewn Economeg; Pennaeth y Sefydliad Economeg a Chyllid ym Mhrifysgol Szczecin; Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Glasgow (y Deyrnas Unedig); athro gwadd ym Mhrifysgol Vitez (Bosnia a Hertsegofina). Diddordebau gwyddonol: economeg iechyd, rheoli gofal iechyd, marchnata gwasanaethau, y sector cyhoeddus.

Awdur dros 80 o gyhoeddiadau gwyddonol, gan gynnwys papurau ag iddynt ffactor effaith, a nifer o lyfrau ar economeg iechyd ac economeg gwasanaethau. Deiliad ysgoloriaethau gan DAAD (Deutscher Akademischer Austauschdienst - Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen), Erasmus a Sefydliad Decaban. Contractwr arweiniol ar naw prosiect ymchwil, gan gynnwys pedwar prosiect rhyngwladol.

Mae’n adolygydd i lawer o gyfnodolion rhyngwladol (wedi’u golygu gan Elsevier, Springer a Tylor & Francis) ac yn Aelod o Fyrddau Golygyddol (Economic Computation and Economic Cybernetics Studies and Research, International Journal of Health Care Quality Assurance, Economics & Sociology, International Journal of Organizational Analysis).

Digwyddiadau blaenorol

DyddiadMath o Ddigwyddiad/LleoliadGwybodaeth
21 Mai 2024SeminarDr Jana Fidrmuc o Brifysgol Warwick  'Ymgyrchu gan gyfranddalwyr: Bendith neu felltith i Brif Weithredwyr presennol?
19 Mawrth 2024SeminarBydd Dr Danmo Lin, Prifysgol Warwick 'Goferu Cyllidol a’r risgiau amgylcheddol a chymdeithasol (ES) i Gost Benthyciadau Banc'
11 Mai 2023SeminarDr Bilal Hafeez, Prifysgol Caerdydd  'Manteisio ar y cyfle: Datguddio’r ansicrwydd o ran polisïau hinsawdd, a'r Unol Daleithiau yn tynnu'n ôl o Gytundeb Paris'

Cynhadledd Cyllid Cynaliadwy 2024

Cafodd y gynhadledd ei chynnal 25 Hydref 2024 yn Ysgol Fusnes Birmingham, ar y cyd â’r Ganolfan Arloesi Ariannol Cynaliadwy (SFiC) a Sefydliad Cynaliadwyedd a Gweithredu ar yr Hinsawdd Birmingham (BISCA).

Cafodd tri deg o bapurau diddorol eu cyflwyno gan ysgolheigion o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Canada a Seland Newydd. Ymhlith y themâu eang a welwyd yn y papurau oedd:

  • Rôl menywod mewn byrddau corfforaethol
  • Pŵer Prif Swyddogion Gweithredol
  • Gwyrddgalchu
  • Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Credyd technoleg ariannol
  • Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG)
  • Chynaliadwyedd

Cafodd y prif gyflwyniad ei roi gan yr Athro Omrane Guedhami, Ysgol Fusnes Darla Moore, Prifysgol De Carolina.

Roedd sesiwn olaf y gynhadledd yn gyfle i “Gwrdd â’r Golygyddion”. Roedd aelodau’r panel yn cynnwys yr Athro Omrane Guedhami (Prifysgol De Carolina), yr Athro Konstantinos Stathopoulos (Prifysgol Manceinion), yr Athro Arman Eshraghi (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Hisham Farag (Prifysgol Birmingham).

Daeth y gynhadledd i ben gyda Chinio Gala.

Diolch o galon i aelodau Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd (CSFRG), sef Arman Eshraghi am ei gyfraniadau i'r Panel; Bilal Hafeez a Bo Guan am eu cymorth wrth werthuso'r papurau a gafodd eu cyflwyno; a’n myfyriwr PhD Weijian Liang am gyflwyno ei bapur a thrafod papur arall.

Cynhadledd Cyllid Cynaliadwy Caerdydd 2023

Cynhaliwyd y Gynhadledd Cyllid Cynaliadwy Ryngwladol gyntaf erioed gan Grŵp Ymchwil Cyllid Cynaliadwy Caerdydd (CSFRG) ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023 yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Estynnodd yr Athro Peter Wells, y Rhag-Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus, Ysgol Busnes Caerdydd, ei groeso i’r holl gynadleddwyr a fu’n bresennol yn y gynhadledd. Cafodd wyth papur o ansawdd uchel eu dewis, a chyflwynwyd y rhain gan gynadleddwyr o Brifysgol Ryngwladol San Steffan yn Tashkent, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Caerdydd. Ymhlith themâu amrywiol y papurau y bu 'Perfformiad Amgylcheddol Corfforaethol a Risg Cwymp ym mhris stociau; Gollyngiadau Carbon yn y Gadwyn Gyflenwi; Gwerthoedd Personol y Prif Weithredwyr a Pherfformiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG); Arloesi Gwyrdd; Ansicrwydd Polisi Hinsawdd; Diraddio Amgylcheddol a'r Economi Ddigidol; Cyfrifo Difodiant ar gyfer Dad-ddifodiant ac Ail-wylltio; Mwg o Danau Gwyllt a Busnesau Lleol'.

Cafodd y prif gyflwyniad ei draddodi gan yr Athro Hisham Farag, Prifysgol Birmingham.

Yn dilyn sylwadau i gloi’r gynhadledd gan Dr. Onur Kemal Tosun, Cyfarwyddwr CSFRG, daeth y gynhadledd i ben gyda Chinio Gala.